Identity area
Type of entity
Person
Authorized form of name
Crwys, 1875-1968
Parallel form(s) of name
Standardized form(s) of name according to other rules
Other form(s) of name
- Williams, William Crwys, 1875-1968
Identifiers for corporate bodies
Description area
Dates of existence
History
Yr oedd Crwys (1875-1968) yn fardd, gweinidog ac yn Archdderwydd Cymru, 1939-1946. Dywedir ei fod 'yn un o'r beirdd mwyaf cynhyrchiol yng Nghymru yn ystod blynyddoedd cynnar y ganrif'.
Ganwyd William Williams ar 4 Ionawr 1875 yng Nghraig-cefn-parc, Clydach, Sir Forgannwg, yn fab i John a Margaret Williams. Yn ddiweddarach mabwysiadodd yr enw barddol 'Crwys' ar ôl ei bentref genedigol pan ddechreuodd gystadlu. Yr oedd ei dad yn grydd ac am rai blynyddoedd bu Crwys hefyd yn gweithio fel crydd. Yr oedd John Williams ('Ap Llywelyn'), ewythr Crwys, yn gweithio yr un gweithdy â thad Crwys a bu'n ddylanwad mawr ar Crwys fel bardd ifanc. Yn ddiweddarach fe'i dylanwadwyd gan Syr John Morris-Jones. Newidiodd ei yrfa i fod yn weinidog gan ddechrau pregethu yn Eglwys Pant-y-crwys, Craig-cefn-parc, a mynychodd Ysgol Watcyn Wyn yn Rhydaman am ddwy flynedd cyn mynd i Goleg Bala-Bangor yn 1894. Yn 1898 fe'i ordeiniwyd yn weinidog ar Eglwys Rehoboth ym Mryn-mawr, Sir Frycheiniog, a bu yno am un mlynedd ar bymtheg. Ysgrifennodd A brief history of Rehoboth Congregational Church, Brynmawr, from 1643 to 1927 yn 1927.
Priododd Grace Harriet Jones, cyd-fyfyriwr iddo ym Mangor yn 1898. Ganwyd dau fab a dwy ferch iddynt. Bu'n weithgar iawn gyda gweithgareddau'r Eisteddfod Genedlaethol am flynyddoedd maith ac ef oedd enillydd y goron yn 1910 am ei bryddest ar 'Ednyfed Fychan', 'Gwerin Cymru' yn 1911 a 'Morgan Llwyd o Wynedd' yn 1919. Yn 1913 enillodd goron a gwobr sylweddol o arian am bryddest i 'Abraham Lincoln' yn San Ffransisco. Cyhoeddodd bedair cyfrol o gerddi. Derbyniodd radd MA er anrhydedd yn 1946 am ei gyfraniad i lenyddiaeth Gymraeg.
Yn 1914 derbyniodd wahoddiad i olynu Dr Cynddylan Jones fel asiant Cymdeithas y Beiblau yn Ne Cymru a symudodd y teulu i Abertawe i fyw. Arhosodd yn y swydd tan iddo ymddeol yn 1940. Bu farw 13 Ionawr 1968 a chafodd ei gladdu ym mynwent Pant-y-crwys.
Places
Legal status
Functions, occupations and activities
Mandates/sources of authority
Internal structures/genealogy
General context
Relationships area
Access points area
Subject access points
Place access points
Occupations
Control area
Authority record identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
aacr2
Status
Level of detail
Dates of creation, revision and deletion
Language(s)
Script(s)
Sources
lcnaf