Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1953, 1994, 2010 (Creation)
Lefel y disgrifiad
Ffeil
Maint a chyfrwng
1 amlen
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes archifol
Ffynhonnell
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Deunydd yn ymwneud â'r rhaglen deledu Dalen a Dail, a recordiwyd ym 1994 a'i darlledu ym 1995, yn yr hwn y bu Dic Jones yn olrhain hanes Josef Kramer, carcharor rhyfel a ddaeth i fyw a gweithio ar fferm yr Hendre, fferm deuluol Dic, yn ystod y 1940au (gw. Dic Jones: Os Hoffech Wybod ... a chofio Dic (Gwasg Gwynedd, 2010), tt. 145-8 ac Idris Reynolds: Cofio Dic: darn o'r haul draw yn rhywle (Gwasg Gomer, 2016), tt. 165-7). Mae'r deunydd yn cynnwys ebost at Idris ac Elsie Reynolds oddi wrth y cynhyrchydd, cyfarwyddwr a'r darlledwr teledu Wyn Thomas o Ffilmiau Tawe; llungopi o lythyr, 1994, at [?Dic] Jones oddi wrth Dr Mererid Hopwood, oedd ar y pryd yn Gysylltydd Canolfan Llenyddiaeth Gyfoes Almaeneg Coleg y Brifysgol Abertawe; llungopi o doriad papur newydd, 6 Tachwedd 1953, yn ymwneud â Chôr Plant Obernkirchen yn yr Almaen; cynllun a chynnwys y rhaglen Dalen a Dail; a barddoniaeth gan Dic Jones a ysbrydolwyd gan ei daith i'r Almaen ar gyfer recordio Dalen a Dail.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Amodau rheoli atgynhyrchu
Iaith y deunydd
- Cymraeg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Un eitem yn Saesneg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Mân rwygiadau ar frig un ddalen: eithaf bregus: cedwir mewn amlen wedi'i nodi.
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Am Wyn Thomas gweler, er enghraifft: https://uk.linkedin.com/in/wyn-thomas-7779069; https://x.com/i/flow/login?redirect_after_login=%2Fffilmiau
Sefydlwyd Gôr Plant Obernkirchen (Schaumburger Märchensänger (Cantorion Straeon Tylwyth Teg Schaumburger)) gan Edith Moller ac Erna Pielsticker ym 1949 ar gyfer plant a phobl ifanc a amddifadwyd gan yr Ail Ryfel Byd (https://peel.fandom.com/wiki/Obernkirchen_Children%27s_Choir) (gw. hefyd, er enghraifft: https://obernkirchen48.com/).
Ganed y bardd a'r Prifardd Mererid Hopwood yng Nghaerdydd a graddio mewn Sbaeneg ac Almaeneg o Brifysgol Cymru Aberystwyth. Bu'n darlithio mewn Almaeneg ym Mhrifysgol Cymru Abertawe. (https://en.wikipedia.org/wiki/Mererid_Hopwood)