Dangos 29 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Dic Jones = Dic Jones Papers
Rhagolwg argraffu Gweld:

Adolygiadau o weithiau gan Dic Jones

Allbrintiau o adolygiadau o ddwy gyfrol gan Dic Jones, sef Cymeriadau De Ceredigion (Cyfres Cymêrs Cymru) (Gwasg Gwynedd, 2001) (adolygiad gan Lyn Ebenezer) a Golwg Arall: Barddoniaeth ac ysgrifau (Gwasg Gomer, 2009) (adolygiad gan Vernon Jones).

Cerddi gan Dic Jones

Amrywiaeth o gerddi gan Dic Jones, un ai yn ei law ei hunan, ar ffurf teipysgrif, neu wedi'u hargraffu o fewn cyhoeddiad/cylchgrawn, gan gynnwys englynion wedi'u cyfeirio at aelodau teulu, cyfeillion a chyd-feirdd ac ar gyfer achlysuron arbennig; limrigau a thribannau digri, cywyddau byrion, caneuon, telynegion a thribannau; llyfr nodiadau a phapurau rhydd yn cynnwys drafftiau o gerddi; a phoster wedi'i argraffu â'r hir-a-thoddaid 'Dinefwr' gan Dic Jones. Comisiynwyd y gân gorawl 'Sioni Wynwns' (geiriau Cymraeg gan Dic Jones, cerddoriaeth gan Robat Arwyn) gan Margaret Daniel, chwaer Dic Jones, ac aelodau'r côr a arweinid ganddi, sef Côr Pensiynwyr Aberteifi a'r Cylch. Cynigiwyd rhai o'r cerddi ar gyfer cystadlaethau talwrn/ymryson. Yn y gerdd 'Hiraeth am y Bala', sylwer fel mae llawysgrifen Dic Jones wedi dirywio wrth i'w iechyd bylu.

Cerddi gan/i Dic Jones

Cerddi gan Dic Jones, un ai yn ei law ei hunan, ar ffurf teipysgrif, neu wedi'u hargraffu o fewn cyhoeddiad/cylchgrawn, a cherddi a ysgrifenwyd i Dic Jones gan rai o'i gyd-feirdd.

Cerddi i Dic Jones

Cerddi a ysgrifenwyd i Dic Jones gan, ymysg eraill, y Prifeirdd Idris Reynolds, Gerallt Lloyd Owen a Ceri Wyn Jones. Yn gynwysedig ceir addasiad o un o gerddi Ceri Wyn Jones, 'Deryn Du yr Hendre', a gomisiynwyd ar gyfer Côr Unebol Ar Ôl Tri (y gerddoraeth gan Gareth Glyn), ac englynion gan Pat (Neill) ar achlysur Dic Jones yn ennill gradd MA er anrhydedd oddi wrth Prifysgol Cymru. Arysgrifir tudalen flaen y copi cerddoriaeth i Siân, gweddw Dic Jones, gan Ceri Wyn Jones.

Cofio Dic: Darn o'r haul draw yn rhywle ... (Gwasg Gomer, 2016)

Allbrintiau o ffotograffau a ddefnyddwyd yn ddiweddarach yn y gyfrol Cofio Dic: Darn o'r haul draw yn rhywle ... gan Idris Reynolds (Gwasg Gomer, 2016).

Adolygiadau gan Megan Lewis a J[ohn] Graham Jones o'r gyfrol Cofio Dic: Darn o'r haul draw yn rhywle ... gan Idris Reynolds (Gwasg Gomer, 2016), y naill a ymddangosodd yng nghylchgrawn Golwg, 4 Awst 2016, a'r llall yn Y Cymro, 10 Chwerfror 2017.

Erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 16 Tachwedd 2017, yn cyfeirio at y gyfrol Cofio Dic: Darn o'r haul draw yn rhywle ... gan Idris Reynolds (Gwasg Gomer, 2016) yn cipio prif wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2017.

Dalen a Dail

Deunydd yn ymwneud â'r rhaglen deledu Dalen a Dail, a recordiwyd ym 1994 a'i darlledu ym 1995, yn yr hwn y bu Dic Jones yn olrhain hanes Josef Kramer, carcharor rhyfel a ddaeth i fyw a gweithio ar fferm yr Hendre, fferm deuluol Dic, yn ystod y 1940au (gw. Dic Jones: Os Hoffech Wybod ... a chofio Dic (Gwasg Gwynedd, 2010), tt. 145-8 ac Idris Reynolds: Cofio Dic: darn o'r haul draw yn rhywle (Gwasg Gomer, 2016), tt. 165-7). Mae'r deunydd yn cynnwys ebost at Idris ac Elsie Reynolds oddi wrth y cynhyrchydd, cyfarwyddwr a'r darlledwr teledu Wyn Thomas o Ffilmiau Tawe; llungopi o lythyr, 1994, at [?Dic] Jones oddi wrth Dr Mererid Hopwood, oedd ar y pryd yn Gysylltydd Canolfan Llenyddiaeth Gyfoes Almaeneg Coleg y Brifysgol Abertawe; llungopi o doriad papur newydd, 6 Tachwedd 1953, yn ymwneud â Chôr Plant Obernkirchen yn yr Almaen; cynllun a chynnwys y rhaglen Dalen a Dail; a barddoniaeth gan Dic Jones a ysbrydolwyd gan ei daith i'r Almaen ar gyfer recordio Dalen a Dail.

Deunydd amrywiol

Deunydd amrywiol, gan gynnwys englyn ar achlysur [?priodas] Geraint Williams a Meinir Pierce Jones, Chwefror 1983, a ysgrifennwyd ar bapur yn dwyn amrywiol fras nodiadau; rhestr tasgau ar gyfer cystadleuaeth Talwrn y Beirdd 1997/8, ynghyd ag enwau aelodau o dîm y talwrn a fu'n cystadlu, sy'n cynnwys Idris Reynolds (dyddiad darlledu: 14/16 Rhagfyr 1997); a bras nodiadau annyddiedig, sy'n cynnwys cyfeiriad at Clebran, papur bro'r Preseli, 1976.

Deunydd amrywiol

Deunydd amrywiol nad sy'n ymddangos yn uniongyrchol gysylltiedig â Dic Jones ond a fu, yn ôl pob tebyg, yn ei feddiant neu ym meddiant ei deulu, gan gynnwys: rhaglen o weithgareddau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Ceredigion 2010 a rhaglen gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr 2014; rhifynnau o bapurau bro Clebran, Awst 2004, Y Gambo, Rhagfyr 2007 a Chwefror 2009 (croesair yr olaf wedi'i gwblhau, ?o bosib yn llaw Dic Jones), a Y Barcud, Hydref 2009; toriad papur newydd yn cynnwys teyrnged i Gerallt Lloyd Owen (Y Cymro, 18 Gorffennaf 2014); ffotograff priodasol, 1956, yn dangos cwpwl nas enwir; a rhaglenni trefn gwasanaethau angladdol Ray Gravell, 2007, a'r ffotograffydd Ron Davies, 6 Tachwedd 2013.

Deunydd amrywiol yn ymwneud â Dic Jones

Deunydd amrywiol yn ymwneud â Dic Jones neu ag aelodau o'i deulu, neu ddeunydd sy'n cynnwys nodiadau/arnodiadau yn ei law, gan gynnwys: hysbysiadau ar gyfer cyngerddau gan Gôr Meibion Blaenporth a chan Gôr Pensiynwyr Aberteifi a'r Cylch a chopïau sol-ffa o ddarnau cerddorol a berfformiwyd gan y corau, gyda rhan lleisiol Dic Jones wedi'i danlinellu ar un copi, ei enw bedydd 'Richard Jones' ar dudalen flaen dau o'r copïau a 'Dic Jones' ar y trydydd (bu Dic Jones yn aelod o'r ddau gôr ac fe arweinwyd Côr Pensiynwyr Aberteifi gan ei chwaer, Margaret Daniel); gwahoddiad i lansiad y gyfrol Cerddi Dic yr Hendre: detholiad o farddoniaeth Dic Jones (gol. Ceri Wyn Jones) (Gwasg Gomer, 2010); trefn seremoni agor a chau yr Orsedd; allbrint yn cynnwys manylion o gynllun ar gyfer rhaglen deledu i ddathlu Dic Jones yn cael ei urddo'n Archdderwydd; adroddiad ysgol Dic Jones ar gyfer tymor yr haf 1949, o bosib yr un olaf cyn iddo ymadael; rhestr testunau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberafan 1966, yn yr hwn y cadeiriwyd Dic Jones am ei awdl 'Y Cynhaeaf'; a thorion papur newydd a chopïau o bapurau bro a chylchgronau yn cynnwys eitemau yn ymwneud â Dic Jones neu ag aelodau o'i deulu.

Deunydd amrywiol yn ymwneud â Dic Jones

Deunydd amrywiol yn ymwneud â Dic Jones, gan gynnwys toriad papur newydd yn adrodd hanes Dic Jones yn ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberafan 1966 gyda'i awdl 'Y Cynhaeaf'; allbrint o erthygl ar farddoniaeth Gymraeg gan Nigel Stapley, sy'n cyfeirio at Dic Jones; gwahoddiad printiedig i lansiad y gyfrol Cerddi Dic yr Hendre: detholiad o farddoniaeth Dic Jones (gol. Ceri Wyn Jones) (Gwasg Gomer, 2010) yn Neuadd y Dref, Aberteifi, Medi 2010; gwahoddiadau printiedig (ar ffurf tocyn a phosteri) i lansiad y gyfrol Yr Un Hwyl a'r Un Wylo: cerddi gwlad Dic Jones (gol. Elsie Reynolds) (Gwasg Y Lolfa, 2011) (gweler dan bennawd Yr Un Hwyl a'r Un Wylo: Cerddi Gwlad Dic Jones (Y Lolfa, 2011) o fewn yr archif hon); rhestrau o eitemau yn llaw Dic Jones, gan gynnwys yr hyn a ymddengys fel teitlau cerddi a hefyd rhestrau o gynnwys 'disgiau' (?cryno-ddisgiau neu ddisgiau cyfrifiadurol); ac englyn gan Idris Reynolds i Dic Jones yn dwyn y teitl 'Dic' (llofnodwyd 'Idris').

Dic Jones a'r cyfryngau

Deunydd yn ymwneud â rhaglenni cyfryngol y bu Dic Jones yn rhan ohonynt, sef Dalen a Dail (recordiwyd 1994 a'i darlledu 1995) a rhaglen radio nas enwir (darlledwyd 2007).

Erthyglau gan Dic Jones

Erthyglau teipysgrif annyddiedig gan Dic Jones, yn ôl pob tebyg ar gyfer y cylchgrawn Golwg, i'r hwn y bu'n cyfrannu dros gyfnod o sawl blwyddyn. Mae'r erthygl sy'n dwyn y teitl 'Parch i'r Arch.' wedi'i lunio'n gyfan gwbl mewn cynghanedd.

Erthyglau gan Dic Jones

Erthyglau teipysgrif annyddiedig gan Dic Jones, yn ôl pob tebyg ar gyfer y cylchgrawn Golwg, i'r hwn y bu'n cyfrannu dros gyfnod o sawl blwyddyn. Oddi mewn i glawr ôl y ffolder frown ceir rhestr mynegai o destunau'r erthyglau. Oddi mewn i glawr blaen y ffolder frown ceir enw a chyfeiriad Josef Kramer, carcharor rhyfel a ddaeth i fyw a gweithio ar fferm yr Hendre, fferm deuluol Dic, yn ystod y 1940au (gweler dan y pennawd Dalen a Dail o fewn is-archif Papurau Idris Reynolds (Dic Jones), hefyd gweler Dic Jones: Os Hoffech Wybod ... a chofio Dic (Gwasg Gwynedd, 2010), tt. 145-8 ac Idris Reynolds: Cofio Dic: darn o'r haul draw yn rhywle (Gwasg Gomer, 2016), tt. 165-7).

Gohebiaeth at Dic Jones ac at/oddi wrth Siân Jones

Llythyrau a chardiau, 1976-2012, at Dic Jones a'i wraig Siân, sy'n cynnwys: llythyr yn hysbysu Dic ei fod wedi ennill Cadair Eisteddfod Llanbedr-Pont-Steffan 1997; cyfarchion penblwydd i Dic yn 70 (gan gynnwys un cerdyn oddi wrth Siân); llythyr oddi wrth y newyddiadurwr a'r llenor Dylan Iorwerth yn diolch i Dic am ei wasanaeth i'r cylchgrawn Golwg (yn cynnwys englyn); cyfarchion ar ethol Dic Jones yn Archdderwydd yn 2007; dymuniadau am wellhad buan yn ystod gwaeledd olaf Dic, 2009; a neges yn datgan siom na fyddai Dic, oherwydd gwaeledd, yn medru mynychu Eisteddfod Genedlaethol y Bala 2009. Ceir hefyd llythyr a cherdyn o gydymdeimlad at Mary, chwaer Dic, ar farwolaeth ei brawd, y llythyr oddi wrth y bardd a'r academydd Peredur Lynch (yn cynnwys hir-a-thoddeidiau). Ymysg y gohebwyr y mae'r Prifardd Idris ac Elsie Reynolds (yn cynnwys englynion), y Prifardd a'r llenor T. Llew Jones a'i fab Iolo Ceredig Jones (yn cynnwys englyn) a'r Prifardd Ceri Wyn Jones. Ynghyd â chylchlythyr oddi wrth Siân ar ran Ffederasiwn Prydain Fawr & Iwerddon o gymdeithas y Soroptomists Rhyngwladol a thoriad o'r Tivyside Advertiser, 11 Rhagfyr 2012, yn cynnwys llythyr oddi wrth Siân ynghylch y llygredd sŵn a gynhyrchwyd gan awyrennau drôn yn y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Aberporth.

Llwyddiannau ac anrhydeddau Dic Jones

Deunydd yn ymwneud â mynych lwyddiannau ac anrhydeddau Dic Jones o fewn y byd llenyddol/eisteddfodol, gan gynnwys copïau o ymgeisiadau barddonol, beirniadaethau a thystysgrifau a enillwyd gan Dic mewn eisteddfodau a thalyrnau, gan gynnwys tystysgrif awdl y Gadair ar destun 'Y Cynhaeaf' yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberafan a'r Cylch 1966 a Chyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi a'r Cylch 1976, sef yr achlysur ddadleuol pan orfodwyd Dic i ildio'r Gadair oherwydd iddo dorri rheolau'r gystadleuaeth (gw., er enghraifft: https://bywgraffiadur.cymru/article/c10-JONE-LEW-1934#?c=0&m=0&s=0&cv=0&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F1477272%2Fmanifest.json&xywh=994%2C1332%2C593%2C511); deunydd yn ymwneud â'r Radd er Anrhydedd a gyflwynwyd i Dic gan Brifysgol Cymru Caerdydd, Gorffennaf 1988; a deunydd yn ymwneud ag urddo Dic yn Archdderwydd, 2008.

Papurau Dic Jones

Papurau'r Prifardd a'r amaethwr Dic Jones, sy'n cynnwys: cerddi (llawysgrif, teipysgrif ac argraffiedig) a rhyddiaith (llawysgrif a theipysgrif) gan Dic Jones a cherddi i Dic Jones gan rai o'i gyd-feirdd; deunydd o'r wasg yn cofnodi mynych lwyddiannau ac anrhydeddau Dic Jones yn y maes llenyddol; adolygiadau o waith Dic Jones; ysgrifau coffa a rhai o'r llu teyrngedau i Dic Jones a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth; gohebiaeth at Dic Jones a'i wraig Siân; a deunydd amrywiol yn ymwneud yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol â Dic Jones.

Papurau Dic Jones = Dic Jones Papers

  • GB 0210 DICJONES
  • Fonds
  • 1949-2017

Papurau'r Prifardd a'r amaethwr Dic Jones, sy'n cynnwys: cerddi (llawysgrif, teipysgrif ac argraffiedig) a rhyddiaith (llawysgrif a theipysgrif) gan Dic Jones a cherddi i Dic Jones gan rai o'i gyd-feirdd; deunydd o'r wasg yn cofnodi mynych lwyddiannau ac anrhydeddau Dic Jones yn y maes llenyddol; adolygiadau o rai o weithiau Dic Jones; ysgrifau coffa a rhai o'r llu teyrngedau i Dic Jones a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth; gohebiaeth at Dic Jones a'i wraig Siân; a deunydd amrywiol yn ymwneud yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol â Dic Jones.
Hefyd yn cynnwys, fel rhan o'r archif, papurau o eiddo'r Prifardd Idris Reynolds, cyfaill agos i Dic Jones, sy'n cynnwys deunydd gan neu'n ymwneud â Dic Jones.

= Papers of the Chief Bard and farmer Dic Jones, which comprise: manuscript, typescript and printed poetry and manuscript and typescript prose by Dic Jones and poetry addressed to Dic Jones by some of his fellow poets; press material recording Dic Jones's multiple achievements and honours within the literary field; reviews of some of the works of Dic Jones; obituaries and some of the many tributes to Dic Jones published following his death; correspondence to Dic Jones and his wife Siân; and miscellaneous material which directly or indirectly relates to Dic Jones.
Also comprising, as part of the archive, papers belonging to Idris Reynolds, a Chief Bard and close friend of Dic Jones, which contain material by or relating to Dic Jones.

Jones, Dic, 1934-2009

Papurau Idris Reynolds (Dic Jones)

Papurau'r Prifardd Idris Reynolds, sy'n cynnwys deunydd gan neu'n ymwneud â Dic Jones, gan gynnwys: deunydd yn ymwneud â'r cyfrolau Yr Un Hwyl a'r Un Wylo: Cerddi Gwlad Dic Jones (Gwasg Y Lolfa, 2011), a olygwyd gan Elsie Reynolds, gwraig Idris, a Cofio Dic: Darn o'r haul draw yn rhywle ... (Gwasg Gomer, 2016) gan Idris Reynolds; cyfres o erthyglau gan Dic Jones; deunydd yn ymwneud â rhaglenni teledu a radio y bu Dic Jones yn rhan ohonynt; ysgrifau coffa a rhai o'r llu teyrngedau i Dic Jones a gyhoeddwyd yn dilyn ei farwolaeth; a deunydd amrywiol yn ymwneud yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol â Dic Jones.

Canlyniadau 1 i 20 o 29