file NLW ex 2843. - Diwydiannau coll,

Identity area

Reference code

NLW ex 2843.

Title

Diwydiannau coll,

Date(s)

  • [1943] / (Creation)

Level of description

file

Extent and medium

1 amlen.

Context area

Name of creator

Biographical history

Roedd Robert (Bob) Owen, Croesor (1885-1962) yn hanesydd, achyddwr a chasglwr llyfrau. Cafodd ei eni yn Llanfrothen, sir Feirionnydd, ar 8 Mai 1885 a'i fagu gan ei fam-gu, Ann Owen. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Elfennol Llanfrothen nes cyrraedd ei 13 mlwydd oed, pan adawodd i weithio ar wahanol ffermydd. Tair blynedd yn ddiweddarach cafodd ei gyflogi gan Chwarel Lechi Parc a Chroesor fel clerc a bu yno tan i'r chwarel gau yn 1931. Yna fe'i penodwyd yn drefnydd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr gan Gyngor Gwledig sir Gaernarfon, a bu'n darlithio yn ogystal. Er gwaethaf ei ddiffyg addysg ffurfiol, datblygodd yn hynafiaethydd, achyddwr ac ymchwilydd. Casglodd lawer o lawysgrifau a llyfrau a gwnaeth adysgrifau o gofnodion plwyf a dogfennau eraill. Roedd ganddo ddiddordeb mewn amrywiaeth eang o bynciau hanesyddol ond yn arbennig hanes y Cymry yn America a chyfrannodd golofn wythnosol, 'Lloffion Bob Owen' yn Y Genedl Gymreig, 1929-1937. Enillodd wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol am ei draethodau ar ymfudiad y Cymry i America yn y cyfnod 1760-1860 ac ar ddiwydiant ardal Dwyryd a Glaslyn yn sir Gaernarfon. Yn 47 mlwydd oed dyfarnwyd iddo radd MA er anrhydedd gan Brifysgol Cymru a derbyniodd yr OBE. Yr oedd yn ddarlithydd poblogaidd iawn a hefyd yn ddarlledwr. Priododd Nell (Ellen) Jones o Gaeathro, sir Gaernarfon, yn 1923 a chawsant fab a dwy ferch. Bu farw ar 30 Ebrill 1962 a'i gladdu yn Llanfrothen.

Archival history

Immediate source of acquisition or transfer

Mr Aled Jones; Rhuddlan; Rhodd; Ionawr 2014; 006698836.

Content and structure area

Scope and content

Teipysgrif o lyfr gan Bob Owen, Croesor, a gyhoeddwyd ym 1943, gydag olion cywiro drwyddo yn llaw Iorwerth Peate a Thomas Parry. [Ceir hanes ysgrifennu'r llyfr yn Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Lenyddol 1941 (Hen Golwyn), tud. 141, a hefyd yn Rhagair T[homas] Parry i'r llyfr].

Appraisal, destruction and scheduling

Accruals

System of arrangement

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio รข Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Conditions governing reproduction

Amodau hawlfraint arferol.

Language of material

Script of material

Language and script notes

Physical characteristics and technical requirements

Finding aids

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Related descriptions

Notes area

Note

Preferred citation: NLW ex 2843.

Alternative identifier(s)

Virtua system control number

vtls006698836

Access points

Subject access points

Place access points

Name access points

Genre access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rules and/or conventions used

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

Language(s)

  • Welsh

Script(s)

Sources

Accession area

Related subjects

Related people and organizations

Related genres

Related places

Physical storage

  • Text: NLW ex 2843.