Identity area
Type of entity
Person
Authorized form of name
Eifion Wyn, 1867-1926.
Parallel form(s) of name
Standardized form(s) of name according to other rules
Other form(s) of name
Identifiers for corporate bodies
Description area
Dates of existence
History
Ganwyd y bardd 'Eifion Wyn', Eliseus Williams (1867-1926) ym Mhorthmadog, sir Gaernarfon, yn fab i Robert Williams a nai i William Owen. Er iddo gael ond ychydig addysg, bu'n athro am gyfnod yn Ysgol Fwrdd Porthmadog, ac ym Mhentrefoelas, sir Ddinbych. O 1896 tan ei farw bu'n gweithio i Gwmni Llechi Gogledd Cymru ym Mhorthmadog fel clerc a chyfrifydd. Byddai'n pregethu mewn gwahanol gapeli Annibynnol o 1889 ymlaen. Priododd Annie Jones o Aber-erch, Pwllheli, sir Gaernarfon, yn 1907, a chael mab, Peredur Wyn Williams. Cyfansoddodd barddoniaeth yn y mesurau caeth a rhydd, gan ennill mewn amryw eisteddfodau lleol yn ogystal ag yn yr Eisteddfod Genedlaethol, lle bu hefyd yn feirniad. Cyhoeddodd gasgliadau o'i waith yn cynnwys Ieuenctid y Dydd (Caernarfon, 1894), Awdl y Bugail (Porthmadog: W.O. Jones, [c. 1900]), Telynegion Maes a Môr (Caernarfon, 1906) a Tlws y Plant (Llanwrtyd, 1906), llyfr emynau y bu ef yn gyfrifol am y geiriau. Cyhoeddwyd Caniadau'r Allt (Llundain, 1927) ac O Drum i Draeth (Llundain, 1929) ar ôl ei farw. Yn 1919 dyfarnwyd iddo radd MA gan Goleg Prifysgol Cymru, Bangor. Bu farw ym Mhorthmadog ar 13 Hydref 1926 a chladdwyd ef yn Chwilog, sir Gaernarfon. Lluniodd Peredur Wyn Williams (m, 1979) gofiant, Eifion Wyn (Llandysul: Gwasg Gomer, 1980). Roedd gan hwnnw fab, Penri Williams.