Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- 1839-1980 / (Creation)
Level of description
fonds
Extent and medium
0.095 metrau ciwbig (4 bocs)
Context area
Name of creator
Biographical history
Ganwyd y bardd 'Eifion Wyn', Eliseus Williams (1867-1926) ym Mhorthmadog, sir Gaernarfon, yn fab i Robert Williams a nai i William Owen. Er iddo gael ond ychydig addysg, bu'n athro am gyfnod yn Ysgol Fwrdd Porthmadog, ac ym Mhentrefoelas, sir Ddinbych. O 1896 tan ei farw bu'n gweithio i Gwmni Llechi Gogledd Cymru ym Mhorthmadog fel clerc a chyfrifydd. Byddai'n pregethu mewn gwahanol gapeli Annibynnol o 1889 ymlaen. Priododd Annie Jones o Aber-erch, Pwllheli, sir Gaernarfon, yn 1907, a chael mab, Peredur Wyn Williams. Cyfansoddodd barddoniaeth yn y mesurau caeth a rhydd, gan ennill mewn amryw eisteddfodau lleol yn ogystal ag yn yr Eisteddfod Genedlaethol, lle bu hefyd yn feirniad. Cyhoeddodd gasgliadau o'i waith yn cynnwys Ieuenctid y Dydd (Caernarfon, 1894), Awdl y Bugail (Porthmadog: W.O. Jones, [c. 1900]), Telynegion Maes a Môr (Caernarfon, 1906) a Tlws y Plant (Llanwrtyd, 1906), llyfr emynau y bu ef yn gyfrifol am y geiriau. Cyhoeddwyd Caniadau'r Allt (Llundain, 1927) ac O Drum i Draeth (Llundain, 1929) ar ôl ei farw. Yn 1919 dyfarnwyd iddo radd MA gan Goleg Prifysgol Cymru, Bangor. Bu farw ym Mhorthmadog ar 13 Hydref 1926 a chladdwyd ef yn Chwilog, sir Gaernarfon. Lluniodd Peredur Wyn Williams (m, 1979) gofiant, Eifion Wyn (Llandysul: Gwasg Gomer, 1980). Roedd gan hwnnw fab, Penri Williams.
Archival history
Mae'n ymddangos i'r papurau fod ym meddiant ei fab, Peredur Wyn Williams (marw 1979) a'i ŵyr Penri Williams.
Immediate source of acquisition or transfer
Mr Penri Williams, ŵyr Eifion Wyn; Benllech; Pryniad; 1988
Content and structure area
Scope and content
Papurau Eifion Wyn yn cynnwys copïau llawysgrif o'i gerddi, 1885-1925, rhai ohonynt wedi eu cyhoeddi yn Caniadau'r Allt (1927) ac O Drum i Draeth (1929); ei gyfieithiadau o farddoniaeth a rhyddiaith, 1906-1923; pregethau, emynau a chaneuon, [c.1914]-1921; cerddi gan eraill, 1889-1926; beirniadaethau cystadlaethau eisteddfodol, 1915-1925; llythyrau a gohebiaeth â llenorion, 1894-1926; llythyrau at ei wraig, 1922-1950; cofnodion cofrestru aelodau'r teulu, 1864-1941; tystysgrifau eisteddfodol, 1905-1924; deunydd printiedig,1908-1927; llyfrau, yn cynnwys gwaith gan Eifion Wyn, 1866-1930; dyddiaduron Eifion Wyn, 1919-1920; dyddiaduron ei dad Robert Williams, 1894-1900; a phapurau'n perthyn i'w ŵyr Penri Williams, 1926-[1980] = Papers of Eifion Wyn comprising manuscript copies of his poems, 1885-1925, some of which were published in Caniadau'r Allt (1927) and O Drum i Draeth (1929); translations by him of poetry and prose, 1906-1923; sermons, hymns and songs, [c. 1914]-1921; translations of his poetry by others, 1907-1924; poems addressed to him, 1919-1921; poems by others, 1889-1926; adjudications of eisteddfod competitions, 1915-1925; letters and correspondence with literary figures, 1894-1926; letters to his wife, 1922-1950; family civil registration records, 1864-1941; eisteddfod certificates, 1905-1924; printed matter, 1908-1927; books, including Eifion Wyn's works, 1866-1930; diaries of Eifion Wyn, 1919-1920, diaries of his father Robert Williams, 1894-1900; and papers belonging to his grandson Penri Williams, 1926-[1980].
Appraisal, destruction and scheduling
Action: Cadwyd yr holl gofnodion a brynwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Accruals
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System of arrangement
Trefnwyd yn 11 cyfres: barddoniaeth; emynau a chaneuon; beirniadaethau; pregethau; gohebiaeth; dyddiaduron; tystysgrifau; cardiau coffa; deunydd printiedig; papurau Peredur Wyn Williams; ac amrywiol.
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Conditions governing reproduction
Amodau hawlfraint arferol.
Language of material
- Welsh
- English
Script of material
Language and script notes
Cymraeg, Saesneg.
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Ceir copi caled o'r catalog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif. Mae papurau'r teulu yn rhagddyddio ac yn ôl-ddyddio cyfnod Eifion Wyn.
Alternative identifier(s)
Virtua system control number
Project identifier
Access points
Subject access points
Place access points
Name access points
- Eifion Wyn, 1867-1926 -- Archives (Subject)
- Williams, Annie, wife of Eifion Wyn. (Subject)
- Williams, Peredur Wyn, d. 1979 (Subject)
Genre access points
Description control area
Description identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Status
Level of detail
Dates of creation revision deletion
Chwefror 2003; diwygiwyd Awst 2005.
Language(s)
- Welsh
Script(s)
Sources
Archivist's note
Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr o Bapurau Eifion Wyn; Dictionary of Welsh Biography down to 1940 (Llundain, 1959); Stephens, Meic, Oxford Companion to the Literature of Wales (Rhydychen, 1986);