Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- [1980x2018] (Creation)
Level of description
File
Extent and medium
1 amlen
Context area
Name of creator
Archival history
Immediate source of acquisition or transfer
Content and structure area
Scope and content
Llungopïau o ffotograffau o Waldo Williams a'i chwiorydd Morvydd Monica Williams a Mary Enid Williams (yn ddiweddarach Francis) ac o'r pump plentyn - Morvydd Monica, Mary Enid, Waldo, Roger (brawd Waldo) a Dilys Williams (chwaer Waldo). Mae'r arysgrif anhysbys (wedi'i lungopïo) ochr-yn-ochr â'r lluniau yn datgan fel y nodwyd gwybodaeth ar gefn y ffotograffau gwreiddiol gan Dilys Williams.
Llungopi o doriad o'r wasg yn dangos ffotograff o blant ac athrawon Ysgol Mynachlog-ddu, 1915, yn eu plith Waldo Williams, ei chwiorydd Morvydd a Mary, ei frawd Roger a'i dad John Edwal Williams, prifathro'r ysgol. Rhestrir enwau'r plant a'r athrawon ar waelod y llun.
Appraisal, destruction and scheduling
Accruals
System of arrangement
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Conditions governing reproduction
Language of material
- Welsh
Script of material
Language and script notes
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Plentyn hynaf John Edwal ac Angharad Williams (née Jones) oedd Morvydd Monica, a chwaer hynaf Waldo Williams. Yn blant, 'roedd hi a Waldo yn agos ac yn barddoni efo'i gilydd. Mae awgrym fod Morvydd yn blentyn gwantan (gweler Alan Llwyd: Waldo: Cofiant Waldo Williams: 1904-1971 (Y Lolfa, 2014), tud. 56), a bu farw ar drothwy ei phenblwydd yn dair ar ddeg oed.
Ganed Mary Enid Margaret Williams ym 1903, yn ail blentyn i John Edwal ac Angharad Williams (née Jones) ac yn chwaer hŷn i Waldo Williams. Wedi marw ei gŵr, Jack Francis, ym 1957, bu Waldo'n lletya yn ei chartref am rai blylnyddoedd. Bu farw Mary ychydig fisoedd ar ôl Waldo, ym 1971.
Ganed Roger Williams ym 1907. Priododd Edith ym 1934. Bu farw ar ddiwrnod olaf 1969.
Ganed John Edwal Williams yng Nghlunderwen, Sir Benfro ym 1863 a'i addysgu yng Ngholeg y Normal, Bangor (1887-1888). Priododd Angharad Jones, mam Waldo, ym 1900. Bu'n athro mewn ysgol yn Peterborough ac yn Ysgol Sir Ddinbych cyn ei benodi'n brifathro Ysgol y Cyngor, Prendergast, Hwlffordd ac yna, ym 1911, yn brifathro Ysgol Gynradd Mynachlog-ddu. 'Roedd John Edwal yn sosialydd, yn heddychwr ac yn ymgyrchydd o blaid hawliau dynol; ymysg ei arwyr yr oedd Edward Carpenter, Keir Hardy, Walt Whitman, Ralph Waldo Emerson, John Ruskin a Thomas Evan Nicholas ('Niclas y Glais'). Er ei fod yn aelod o'r Bedyddwyr mewn enw, ni arddelai unrhyw grefydd ffurfiol. Barddonai ar ffurf y vers libre, ffurf farddonol anarferol ac amhoblogaidd ar y pryd, ac ysgrifennai erthyglau i'r gweisg lleol. Oddi wrth ei dad yr etifeddodd Waldo yr egwyddor o frawdoliaeth. Anfarwolwyd John Edwal a'i wraig Angharad yn 'Y Tangnefeddwyr', cerdd goffadwriaethol Waldo i'w rieni.
Note
Atgynhyrchir y ffotograff o Waldo, Mary a Morvydd yn Alan Llwyd: Waldo: Cofiant Waldo Williams: 1904-1971 (Y Lolfa, 2014).