Ffeil / File AD/1 - Gohebiaeth rhwng Swyddfa Ranbarthol Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, Bangor a Choleg Harlech = Correspondence between the Workers' Educational Association District Office, Bangor and Coleg Harlech

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

AD/1

Teitl

Gohebiaeth rhwng Swyddfa Ranbarthol Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, Bangor a Choleg Harlech = Correspondence between the Workers' Educational Association District Office, Bangor and Coleg Harlech

Dyddiad(au)

  • 1929-1944 (Creation)

Lefel y disgrifiad

Ffeil / File

Maint a chyfrwng

1 amlen / envelope

Ardal cyd-destun

Hanes archifol

Ffynhonnell

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Gohebiaeth a chopïau o ohebiaeth, 1929-1944, yn bennaf rhwng Swyddfa Ranbarthol Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, a leolwyd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor, a Choleg Harlech, ynghyd â gohebiaeth oddi wrth bencadlys Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yn Llundain (prif ohebydd Ernest Green, ysgrifennydd cyffredinol y Gymdeithas) at y Swyddfa Ranbarthol a gohebiaeth rhwng y Swyddfa Ranbarthol a darpar-fyfyrwyr Coleg Harlech. Bu'r Swyddfa Ranbarthol dan ysgrifenyddiaeth Robert (Silyn) Roberts hyd ei farwolaeth ar 15 Awst 1930, pryd y cymerwyd yr awennau gan Mary Silyn Roberts. Bu cysylltiad agos erioed rhwng Cymdeithas Addysg y Gweithwyr a Choleg Harlech hyd nes, yn 2001, fe gyfunwyd y ddau fudiad. Prif ohebwyr Coleg Harlech yw'r warden, Ben Bowen Thomas, a'r cadeirydd, Dr Thomas Jones. Sefydlwyd yr ysgoloriaeth a gyfeirir ati gan Dr Thomas Jones yn ei lythyr dyddiedig 25 Tachwedd 1934 er cof am ei fab, Elphin Lloyd Jones, a fu farw trwy ddamwain yn ddeuddeg oed (gweler, er enghraifft, Eirene White Papers yn LlGC). = Correspondence and copies of correspondence, 1929-1944, primarily between the District Office of the Workers' Educational Association, located at the University College of Wales, Bangor, and Coleg Harlech, together with correspondence from the Workers' Educational Association headquarters in London (main correspondent Ernest Green, general secretary of the Association) to the District Office and correspondence between the District Office and prospective Coleg Harlech students. The District Office was under the secretaryship of Robert (Silyn) Roberts until his death on 15 August 1930, after which the rôle was taken over by Mary Silyn Roberts. A close alliance had always existed between the Workers' Educational Association (WEA) and Coleg Harlech, the two bodies eventually merging in 2001. Coleg Harlech's primary correspondents are its warden, Ben Bowen Thomas, and its chairman, Dr Thomas Jones. The scholarship referenced by Dr Thomas Jones in his letter dated 25 November 1934 was established in memory of Dr Jones' son, Elphin Lloyd Jones, who died in an accident aged twelve years old (see, for example, Eirene White Papers at NLW).

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Croniadau

System o drefniant

Trefnwyd deunydd dyddiedig yn ôl dyddiad. Cedwir deunydd annyddiedig mewn amlen wedi'i nodi. = Dated material arranged chronologically. Undated items kept in marked envelope.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Amodau rheoli atgynhyrchu

Iaith y deunydd

  • Saesneg
  • Cymraeg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Am nodyn ar Gymdeithas Addysg y Gweithwyr, gweler prif weithlen yr archif. = For a note on the Workers' Educational Association, see the main section of this archive.

Ynghylch creu cangen Gogledd Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr yn rhanbarth annibynnol, gweler Gohebiaeth rhwng Robert (Silyn) Roberts a Mary Silyn Roberts, llythyr dyddiedig 15 Chwefror 1925. = For the creation of the North Wales branch of the Workers' Educational Association as an independent district branch, see Correspondence between Robert (Silyn) Roberts and Mary Silyn Roberts, letter dated 15 February 1925.

Am Goleg Harlech, gweler hefyd, er enghraifft, Arts Council of Wales Records; Dr Thomas Jones CH Papers; Gwyn Thomas Papers; a D. T. Guy Papers yn LlGC. = For Coleg Harlech, see also, for example, Arts Council of Wales Records; Dr Thomas Jones CH Papers; Gwyn Thomas Papers; and D. T. Guy Papers at NLW.

Am Dr Thomas Jones, gweler, er enghraifft, Dr Thomas Jones CH Papers, Eirene White Papers a J. H. Davies Papers yn LlGC. 'Roedd Dr Thomas Jones yn dad i Eirene White (gweler Gohebiaeth rhwng Mary Silyn Roberts ac Eirene Lloyd Jones) = For Dr Thomas Jones, see, for example, Dr Thomas Jones CH Papers, Eirene White Papers and J. H. Davies Papers at NLW. Dr Thomas Jones was the father of Eirene White (see Correspondence between Mary Silyn Roberts and Eirene Lloyd Jones).

Am Ben Bowen Thomas, gweler hefyd, er enghraifft, Sir Ben Bowen Thomas Papers a J. Glyn Davies Papers yn LlGC. = For Ben Bowen Thomas, see also, for example, Sir Ben Bowen Thomas Papers and J. Glyn Davies Papers at NLW.

Gweler hefyd Deunydd amrywiol yn ymwneud â Choleg Harlech. = See also Coleg Harlech miscellaneous material.

Am Ernest Green, gweler hefyd Gohebiaeth rhwng Robert (Silyn) Roberts a'r Holiday Fellowship a rhwng Mary Silyn Roberts a'r Holiday Fellowship = For Ernest Green, see also Correspondence between Robert (Silyn) Roberts and the Holiday Fellowship and between Mary Silyn Roberts and the Holiday Fellowship.

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

'Roedd Coleg Harlech yn goleg addysg breswyl ar gyfer oedolion a leolwyd yn Harlech, Gwynedd. Fe'i sefydlwyd ym 1927 gan Dr Thomas Jones (1870-1955) fel parhad o waith Cymdeithas Addysg y Gweithwyr o fewn amgylchedd breswyl. Warden cyntaf y Coleg oedd Syr Ben Bowen Thomas (1899-1977). Yn 2001, ymunodd Coleg Harlech â changen Gogledd Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr, cyn cyfuno drachefn efo cyrff eraill a throi'n Addysg Oedolion Cymru, sef y mudiad a fu'n rheoli safle Coleg Harlech nes ei werthu yn 2019. = Coleg Harlech was an adult education residential college situated in Harlech, Gwynedd. It was founded in 1927 by Dr Thomas Jones (1870-1955) as a continuation of the work of the Workers' Educational Association (WEA) within a residential environment. The College's first warden was Sir Ben Bowen Thomas (1899-1977). In 2001, Coleg Harlech merged with the North Wales branch of the Workers' Educational Association, before merging again with other bodies to become Adult Learning Wales, which took over the management of the Coleg Harlech site until its sale in 2019.

Ganed Ben Bowen Thomas (1899-1977) yn Ystrad Rhondda a'i addysgu yn Ysgol Ramadeg y Rhondda, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a Choleg Iesu, Rhydychen. Bu'n gweithio fel darlithydd cyn ei benodi'n warden cyntaf Coleg Harlech pan y'i sefydlwyd gan Dr Thomas Jones (1870-1955) ym 1927. Wedi gadael y wardeiniaeth ym 1940, fe'i penodwyd i'r Weinyddiaeth Lafur ac yna i'r Weinyddiaeth Addysg (1945-1963), lle'r ymgyrchodd i wella safonau mewn ysgolion Cymreig ac ar gyfer dysgu'r iaith Gymraeg. Gwasanaethodd fel Llywydd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth o 1964 hyd 1975. Bu farw ym Mangor. = Ben Bowen Thomas (1899-1977) was born in Ystrad Rhondda and educated in Rhondda Grammar School, University College of Wales, Aberystwyth and Jesus College, Oxford. He worked as a lecturer before being appointed the first warden of Coleg Harlech at its establishment in 1927 by Dr Thomas Jones (1870-1955), a post he retained until 1940. He went on to work for the Ministry of Labour and subsequently the Ministry of Education (1945-1963), in which rôle he campaigned for improved standards within Welsh schools and in the teaching of the Welsh language. He served as President of the University College of Wales, Aberystwyth from 1964 until 1975. He died in Bangor.

Ganed Thomas Jones (1870-1955) yn Rhymni, sir Fynwy, yn fab i David Benjamin a Mary Ann Jones. Fe'i addysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth a Phrifysgol Glasgow. Wedi cyfnod yn darlithio yn yr Alban ac Iwerddon, dychwelodd i Gymru fel ysgrifennydd yr Ymgyrch Cymreig yn erbyn y Diciáu, yna'i benodi'n ysgrifennydd Comisiwn Cenedlaethol Yswiriant Iechyd (Cymru). Ymadawodd am Lundain ym 1916 i ymgymeryd â swydd Is-ysgrifennydd y Cabinet, lle cafodd ei ddyrchafu'n ddiweddarch yn Ddirprwy Ysgrifennydd. O 1934 hyd 1940, bu'n aelod o'r Bwrdd Cymorth i'r Di-waith ac, o 1952 hyd 1954, 'roedd yn gadeirydd Ymddiriedolaeth Pilgrim. 'Roedd yn un o sylfaenwyr y Welsh Outlook (ac yn olygydd cyntaf y cylchgrawn o 1914 i 1916) a Gwasg Gregynog (1922) ac yn brif sylfaenydd Coleg Harlech ym 1927. Trwyddo ef yn fwy na neb y sefydlwyd Cyngor y Celfyddydau (fel y Cyngor er Cefnogi Cerddoriaeth a'r Celfyddydau) ym 1939. 'Roedd hefyd yn aelod o lawer cyngor, gan gynnwys Prifysgol Cymru, Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth (ac yn lywydd arni o 1944 hyd 1954), Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Ysgrifennodd a chyhoeddodd nifer o lyfrau, erthyglau a phamffledi. Fe'i wnaethpwyd yn Gydymaith Anrhydedd ym 1929 a dyfarnwyd ef yn aelod o Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ym 1944. Priododd (1902) ag Eirene Theodora Lloyd, a chawsant dri o blant, gan gynnwys Eirene (wedyn y Farwnes White) (1909-1999). = Thomas Jones (1870-1955) was born in Rhymney, Monmouthshire, the son of David Benjamin and Mary Ann Jones. He was educated at University College of Wales Aberystwyth and the University of Glasgow. Following a period lecturing in Scotland and Ireland, he returned to Wales as secretary of the Welsh National Campaign Against Tuberculosis before later being appointed secretary of the National Insurance Health Commission (Wales). In 1916 he departed for London to take up the post of Assistant Secretary to the Cabinet, later to be promoted to Deputy Secretary. From 1934 to 1940 he served as a member of the Unemployment Assistance Board and from 1952 to 1954 was chairman of the charitable Pilgrim Trust. Thomas Jones was one of the founders of the Welsh Outlook (becoming the magazine's first editor from 1914 to 1916) and of the Gregynog Press (1922) and, in 1927, was one of the main founders of the adult education establishment Coleg Harlech. He was the primary instigator in the establishment of the Arts Council (initially known as the Council for the Management of Music and the Arts) in 1939, serving on several arts-based councils, including that of the University of Wales, University College of Wales Aberystwyth (of which he was president from 1944 until 1954), the National Library of Wales and the National Museum of Wales. He was the author of numerous books, articles and pamphlets. He was made a Companion of Honour in 1919 and in 1944 was elected as a member of the Honourable Society of Cymmrodorion. He married in 1902 Eirene Theodora Lloyd, with whom he had three children, including Eirene (Baroness White) (1909-1999).

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad pwnc

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Iaith(ieithoedd)

Sgript(iau)

Ffynonellau

Ardal derbyn

Pynciau cysylltiedig

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig

Storfa ffisegol

  • Text: AD/1 (Box 1)