Ffeil / File Y/1 - Hugh Griffith

Identity area

Reference code

Y/1

Title

Hugh Griffith

Date(s)

  • [1939]-[1980] (Creation)

Level of description

Ffeil / File

Extent and medium

1 bocs bach (0.009 mᶟ)

Context area

Name of creator

Archival history

Immediate source of acquisition or transfer

Content and structure area

Scope and content

Deunydd yn ymwneud â'r actor Cymreig Hugh Griffith, sy'n cynnwys:
Cardiau post yn dangos Theatr Frenhinol Shakespeare a Theatr yr Alarch (Swan Theatre), Stratford-upon-Avon (di-ddyddiad).

Taflenni argraffiedig gyda manylion dadorchuddio cerflun er cof am Hugh Griffith gan y cerflunydd John Meirion Morris. Am yr achlysur hwn, gweler, er enghraifft: https://artuk.org/discover/artworks/hugh-griffith-19121980-277631 [1980].

Llungopi o 'Y Gigfran', drama radio a ddarlledwyd ar Radio Cymru, 15 Tachwedd 1946, sy'n seiliedig ar waith y llenor Edgar Allan Poe, yn arbennig felly ei gerdd 'The Raven', a atgynhyrchir yma ochr-yn-ochr â chyfieithiad y gerdd i'r Gymraeg; cymerir rhan cymeriad 'Llais 2' gan Hugh Griffith. Dyddir y deunydd gwreiddiol [1946].

Llungopi o erthygl yn y wasg gan Hugh Griffith yn dwyn y teitl 'Tro ym Mhen Llŷn' (dim dyddiad yn amlwg, ond mae cynnwys yr erthygl yn awgrymu dechrau'r Ail Ryfel Byd).

Llungopi o gyfieithiad i'r Saesneg [?gan ac] yn llaw y gwleidydd, bardd, dramodydd a'r adolygydd llenyddol Saunders Lewis o bennill gyntaf yr emyn 'Iesu, Iesu, 'rwyt ti'n ddigon, 'Rwyt ti'n llawer gwell ['mwy' yw'r testun cywir] na'r byd ...' (di-ddyddiad).

Llungopïau o ffotograffau yn dangos Hugh Griffith yn ei fynych rannau mewn ffilmiau (di-ddyddiad, ond awgrymir dyddiad yn ôl y ffilm).

Darlun cartŵn o Hugh Griffith yn rhan Falstaff (1964) (gweler https://collections.shakespeare.org.uk/search/museum/strst-sbt-2017-13-38). Dyddir y deunydd gwreiddiol [1964].

Llungopïau o lythyrau at Hugh Griffith, sydd bennaf yn trafod gwaith a llwyddiannau Griffith, y gohebwyr fel a ganlyn:
Y gwleidydd, bardd, dramodydd a'r adolygydd llenyddol Saunders Lewis (1950, 1959, 1960, 1975); y darlledwr a swyddog gweithredol y BBC Huw Wheldon (1954); yr actor a'r canwr Richard Harris (1962); y bardd, adolygydd ac ysgolhaig Gwenallt (1962); y gwleidydd, cyfreithiwr ac awdur Gwynfor Evans ([?1963]); y bardd a'r dramodydd Cynan (1965); y dramodydd, awdur ac ysgolhaig John Gwilym Jones (1965); y bardd a'r dramodydd Christopher Fry (1975); a'r newyddiadurwr, awdur a gohebydd John Arlott (di-ddyddiad).
Ceir hefyd lythyr di-ddyddiad oddi wrth 'Charlotte' (enw'r derbynnydd yn annarllenadwy).

Llungopïau a chopïau o lythyrau oddi wrth Hugh Griffith, y gohebwyr fel a ganlyn:
Y gwleidydd, cyfreithiwr ac awdur Gwynfor Evans (1964); y bardd a'r dramodydd Cynan (1965); y bardd, adolygydd ac ysgolhaig Gwenallt (1965); a'r awdur, cynhyrchydd drama ac ymgyrchydd iaith Norah Isaac (1940-1941, 1961 a di-ddyddiad), rhai o'r llythyrau wedi'u hanfon tra bod Griffith yn cyflawni gwasanaeth milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Llungopïau a chopïau teipysgrif o lythyrau oddi wrth Hugh Griffith at aelodau teuluol, gan gynnwys yr actores a'r athrawes Elen Roger Jones a'i gŵr Gwilym Roger Jones, sef chwaer a brawd-yng-nghyfraith Hugh Griffith, a'u merch Mary (neu Meri) Rhiannon (un llythyr yn anghyflawn) (1942-1945, 1957-1959 a di-ddyddiad); a'i fam Mary Griffith (di-ddyddiad). Anfonwyd nifer o'r llythyrau tra 'roedd Griffith yn cyflawni gwasanaeth milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Llungopïau a chopïau yn bennaf o ohebiaeth, 1960-1961 a di-ddyddiad, rhwng Hugh Griffith a chynrychiolwyr o gwmni ffilmiau Metro-Goldwyn-Mayer (MGM) tra 'roedd Griffith yn chwarae, neu'n paratoi i chwarae, rhan 'Alexander Smith' yn y ffilm 'Mutiny on the Bounty' (1962), ynghyd â rhai amserlenni (call sheets) a rhan o'r sgript. Rhai o'r llythyrau oddi wrth Griffith wedi'u croesi allan a heb eu hanfon. Un llythyr yn Ffrangeg.

Appraisal, destruction and scheduling

Accruals

System of arrangement

Cedwir pob eitem mewn amlen neu ffolder ar wahân, gyda chynnwys yr amlen/ffolder wedi'i nodi arni.

Trefnwyd gohebiaeth dyddiedig yn ôl trefn gronolegol; gosodwyd gohebiaeth di-ddyddiad yng nghefn pob cyfres o lythyrau

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Conditions governing reproduction

Language of material

  • English
  • Welsh

Script of material

Language and script notes

Cynnwys iaith y deunydd yn eithaf cytbwys rhwng y Gymraeg a'r Saesneg, gyda'r rhan helaethaf yn y Gymraeg.

Un llythyr yn Ffrangeg.

Physical characteristics and technical requirements

Finding aids

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Related descriptions

Notes area

Note

Am Hugh Griffith, gweler, er enghraifft: https://en.wikipedia.org/wiki/Hugh_Griffith.

Am John Meirion Morris, gweler Papurau John Meirion Morris = John Meirion Morris Papers yn LlGC, a hefyd, er enghraifft: https://www.johnmeirionmorris.org/.

Am Edgar Allan Poe, gweler, er enghraifft: https://en.wikipedia.org/wiki/Edgar_Allan_Poe. Am ei gerdd 'The Raven', gweler, er enghraifft: https://www.poetryfoundation.org/poems/48860/the-raven.

Am Saunders Lewis, gweler, er enghraifft: https://en.wikipedia.org/wiki/Saunders_Lewis.

Am Christopher Fry, gweler, er enghraifft: https://en.wikipedia.org/wiki/Christopher_Fry.

Am John Arlott, gweler, er enghraifft: https://en.wikipedia.org/wiki/John_Arlott.

Am Hugh Wheldon, gweler, er enghraifft: https://en.wikipedia.org/wiki/Huw_Wheldon.

Am Gwenallt, gweler, er enghraifft: https://en.wikipedia.org/wiki/D._Gwenallt_Jones.

Am Cynan, gweler, er enghraifft: https://en.wikipedia.org/wiki/Albert_Evans-Jones.

Am John Gwilym Jones, gweler, er enghraifft: https://en.wikipedia.org/wiki/John_Gwilym_Jones.

Am Richard Harris, gweler, er enghraifft: https://en.wikipedia.org/wiki/Richard_Harris.

Am Gwynfor Evans, gweler, er enghraifft: https://en.wikipedia.org/wiki/Gwynfor_Evans.

Am Norah Isaac, gweler, er enghraifft: https://en.wikipedia.org/wiki/Norah_Isaac.

Am Elen a Gwilym Roger Jones a Meri Rhiannon, gweler, er enghraifft: https://en.wikipedia.org/wiki/Elen_Roger_Jones.
Mae'n bosib mai Meri Rhiannon yw'r awdur Meri Rhiannon Edwards: https://www.amazon.co.uk/Books-Meri-Rhiannon-Edwards/s?rh=n%3A266239%2Cp_27%3AMeri+Rhiannon+Edwards

Am Mary Griffith, gweler, er enghraifft, dan 'Early life' yn https://en.wikipedia.org/wiki/Hugh_Griffith.

Am 'Mutiny on the Bounty', gweler, er enghraifft: https://en.wikipedia.org/wiki/Mutiny_on_the_Bounty_(1962_film).

Am Metro-Goldwyn-Meyer (MGM), gweler, er enghraifft: https://en.wikipedia.org/wiki/Metro-Goldwyn-Mayer.

Alternative identifier(s)

Access points

Subject access points

Place access points

Genre access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

Rules and/or conventions used

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

Language(s)

Script(s)

Sources

Accession area

Related subjects

Related genres

Related places

Physical storage

  • Text: Sgriptiau Eurwyn Williams (Deunydd ychwanegol - Medi 2022) Y/1