Showing 7333 results

Archival description
Archif Plaid Cymru,
Print preview View:

Grwp o bamffledi'n ymwneud â chenedlaetholdeb a rhai phasiffistaidd eu naws ynghyd â thaflenni etholiadol, gan gynnwys Cymru am Byth ...,

Grwp o bamffledi'n ymwneud â chenedlaetholdeb a rhai phasiffistaidd eu naws ynghyd â thaflenni etholiadol, gan gynnwys Cymru am Byth, 1943; Tra Mor - Tra Meirion, 1948; Cymoedd Tan Gwmwl, 1958; The Welsh Condition, 1970; Gorfodaeth Filwrol ar Ferched Cymru, heb ddyddiad; Gair o Enau'r Gwroniaid: Datganiadau Arwyr Meirion ar Hunan-Lywodraeth, heb ddyddiad; a Christnogaeth a Chenedlaetholdeb, heb ddyddiad. (Adnau C1997/22).

Pamffledi Heddychwyr Cymru

Copïau o bamffledi o'r gyfres gyntaf: (9) George M. Ll. Davies, 'Gandhi a chenedlaetholdeb India', [c.1942]; (10) Tom Parry, 'Tystiolaeth y tadau', [d.d.]; o'r ail gyfres: (10) Davies Aberpennar, 'Ffederaliaeth', [c.1944?]; (11) J. Gwyn Griffiths, 'Anarchistiaeth', [d.d.]; (12) Iorwerth C. Peate a R. J. Jones, 'Cenhadon Hedd II' [S.R. a Thomas Rees], [d.d.]; a'r drydedd gyfres: (2) J. Lloyd Jones, 'Diffodd y golau', [d.d.]; (3) Rhys J. Davies AS, 'Rhagrith rhyfeloedd', [post 1944]; (5) Iorwerth Jones, 'Satyagraha: grym di-drais', [d.d.]; (6) Dr E. K. Jones, 'Heddychwyr wrth eu gwaith', [d.d.]; a (7) D. E. Williams, 'Homiliau heddwch', [d.d.].

Amryw gylchlythyron

Amryw gylchlythyron
Amryw gylchlythyron, gan gynnwys 'Llais Cymru / Voice of Wales', [c.Rhag. 1968]; 'Nôl gartref: Plaid Cymru North America', vol. 1, issues 1, 5, 8, vol. 4, issue 2, 1994-1998; 'Cyswllt' ('Contact' yn rhifyn 41), bwletin aelodau seneddol Plaid Cymru, rhifau 41-44, Tach. 1998-Mawrth 1999; 'Gweithlen: cylchlythr canghennau ac etholaethau Plaid Cymru', Ebrill 2002 ac Ion. 2003; cylchlythyr dyddiol 'Llais y Maes: Eisteddfod Genedlaethol 2006', 5, 7-9 ac 11 Awst 2006; a chopiau unigol o 'Ar Gered' (Ceredigion), 'Forward: newsletter of the ruling Plaid Cymru group of Caerffili County Borough Council', 'Llais Conwy', 'Llais Môn', 'Plaid Voice' (Ogwr), 'Tref Pontypridd Llais', 'Y ddraig goch' (Cymdeithas Cynghorwyr Plaid Cymru), 1997-2004.

Rhaglenni gwaith a chynllunniau

'Cymru yn Ewrop: cymuned o gymunedau, rhaglen Plaid Cymru ar gyfer y 90au = Wales in Europe, a community of communities, Plaid Cymru's programme for the 90s'; 'Plaid Cymru: five year plan', drafft, Rhagfyr 1994; 'Tuag at 2000: rhaglen Plaid Cymru ar gyfer Cymru yn Ewrop = Towards 2000: Plaid Cymru's programme for Wales in Europe'.

Amryw gyhoeddiadau

Amryw gyhoeddiadau, gan gynnwyd Phil Williams, 'Pam y dylai Cymru gael hunanlywodraeth? = Why should Wales have self-government?', 1997; Victor Anderson a Cynog Dafis, 'Dyfodol cynaliadwy i Gymru', 1998; 'Y chwech a ddaeth i Bwllheli: hanes sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru, 5 Awst, 1925 = When six men met in Pwllheli: the story of the founding of Plaid Genedlaethol Cymru (The National Party of Wales), 5 August, 1925' (Cangen Pwllheli o Blaid Cymru, 2000); 'Plaid Cymru, ymateb i'r ddogfen ymgynghorol Gwell Gymru = Response to Better Wales', c.2000; 'The Welsh language and its communities: a discussion paper', 2001 (allbrint); 'Plaid Cymru response to the consultation draft of the National Assembly for Wales statistics plan 2001-01 to 2002-03'; 'Taclo tlodi yng Nghymru = Tackling poverty in Wales', 2005.

Adroddiadau a phapurau trafod

Copïau o 'Darlith i ddathlu 75 mlwyddiant Plaid Cymru - The Party of Wales; traddodwyd ar Awst 9 yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli, 2000 gan Dr John Davies'; 'Adroddiad y Comisiwn Polisi Daioni: Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol', 2006; 'Datblygu Awdurdodaeth Gyfreithiol i Gymru', [post 2007]; 'Gwanwyn Gwyrdd: Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Caerfyrddin: Papur Trafod Dilynol', Ebrill 2009; 'Gwneud Cymru'n Ddiogel: Papur Trafod y Gynhadledd', Tachwedd 2009; 'Adroddiad Comisiwn Polisi Plaid Cymru : Rôl Trethi', [c.2010]; The Flotilla Effect: Europe's small economies through the eye of the storm; a report for Jill Evans MEP by Adam Price and Ben Levinger', [c.2010]; 'GallCymru Clyfar. Gwyrdd. Iach' (papur trafod ymgynghorol), 2010; 'Cymru Wledig - Cymru Hyfyw: Adroddiad Tasglu Polisi Plaid Cymru', Awst 2010; 'Ymgynghoriad Polisi: Gweledigaeth y Blaid dros Gymru well', 2014; rhaglen Cynhadledd Wanwyn, Caerdydd, 2014; a 'Plaid Cymru: sut yr ydym yn gweithio', [d.d.].

Results 21 to 40 of 7333