- 4/8
- Ffeil / File
- 1995
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud â'r ddrama lwyfan Melltith y Mamau (1995), gan gynnwys copi teg o'r sgript, posteri a thocynnau ar gyfer y perfformiad ac adolygiadau.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud â'r ddrama lwyfan Melltith y Mamau (1995), gan gynnwys copi teg o'r sgript, posteri a thocynnau ar gyfer y perfformiad ac adolygiadau.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud â'r opera Melangell (geiriau gan Menna Elfyn, cerddoriaeth gan Pwyll ap Sion), gan gynnwys drafft o'r libretto, braslun o'r naratif a gohebiaeth rhwng Menna Elfyn a Pwyll ap Sion ac eraill.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud â'r ddrama lwyfan Malwod Mawr!, gan gynnwys copi o sgript yn dwyn teitlau blaenorol a rhaglenni a phosteri printiedig yn hysbysebu'r ddrama.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud â'r ddrama lwyfan Madog (1989), gan gynnwys drafft o'r sgript, adolygiadau o'r wasg, posteri printiedig yn hysbysebu'r ddrama a llythyr at Menna Elfyn oddi wrth Nigel Jenkins.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud â swyddogaeth Menna Elfyn fel Cyfarwyddwr Creadigol y cwrs MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan, gan gynnwys copïau drafft a theg o destunau darlithoedd, prospectws ar gyfer y cwrs a manylion am weithdy ysgrifennu creadigol a gynhaliwyd yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy ym Medi 2002.
Llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth Tony Conran
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth y bardd a'r cyfieithydd Tony Conran.
Llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth Stevie Davies
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Llythyrau, cardiau ac ebyst at Menna Elfyn oddi wrth yr awdur a'r nofelydd Stevie Davies.
Llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth R. S. Thomas
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth y bardd a'r offeiriad Anglicanaidd R. S. Thomas.
Llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth Nigel Jenkins
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Llythyrau, ebyst a chardiau at Menna Elfyn oddi wrth y bardd, awdur, dramodydd a darlithydd Nigel Jenkins.
Llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth Joseph Clancy
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Llythyrau a chardiau at Menna Elfyn oddi wrth y bardd, awdur a chyfieithydd Joseph Patrick (Joe) Clancy.
Llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth John Rowlands
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Llythyrau ac ebyst at Menna Elfyn oddi wrth yr awdur a'r Athro yn y Gymraeg John Rowlands, ynghyd â llythyr, 2016, at Menna Elfyn oddi wrth Eluned, gwraig John Rowlands. Yn amgaeëdig gydag un o'r llythyrau ceir erthygl a ysgrifennodd John Rowlands ar gyfer cylchgrawn Barn.
Llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth Gwyneth Lewis
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Llythyrau a chardiau at Menna Elfyn oddi wrth y bardd a'r awdur Gwyneth Lewis
Llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth Gillian Clarke
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Llythyrau a chardiau at Menna Elfyn oddi wrth y bardd, awdur, dramodydd a darlithydd Gillian Clarke.
Llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth Bryan Martin Davies
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth y bardd a'r athro Bryan Martin Davies.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Llyfrau nodiadau Menna Elfyn, yn cynnwys drafftiau o gerddi, cyfieithiadau o gerddi a rhyddiaith yng Nghymraeg a Saesneg, gan gynnwys cyfieithiadau o 'Y Tangnefeddwyr' a 'Yr Heniaith' gan Waldo Williams a dechreuad yr hyn a ymddengys fel nofel Menna Elfyn i bobl ifanc Madfall ar y Mur (Gwasg Gomer, 1993).
Llawlyfr: Dim Llais i Drais/Hands Off
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Dau gopi o Hands Off, llawlyfr a gyhoeddwyd gan Gronfa Achub y Plant a Chymorth i Fenywod. Ysgrifenwyd testun y cyfieithiad Cymraeg, dan y teitl Dim Llais i Drais, gan Menna Elfyn.
Libretti cynnar: Patagonia & Aber
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Sgoriau a geiriau dwy gân yn dwyn y teitlau 'Patagonia' ac 'Aber', a gyfansoddwyd gan Menna Elfyn (geiriau) a Helen Gwynfor (cerddoriaeth) tra'n ddisgyblion ysgol. Dyfarnwyd 'Patagonia', a berfformwyd gan grŵp o'r enw Y Trydan, y gân fuddugol yn Eisteddfod Sir Yr Urdd Caerfyrddin 1968.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud â'r anghydfod rhwng Israel a Phalesteina, gan gynnwys gohebiaeth oddi wrth gynrychiolwyr o Ganolfan Lajee, sef canolfan ar gyfer plant yn bennaf a sefydlwyd ym 1999 fel rhan o Wersyll Ffoaduriaid Aida; ynghyd â thorion papur newydd yn ymwneud ag effeithiau rhyfel, gormes, tlodi a thrais, yn rhannol ar blant a phobl ifanc, deiseb wedi'i chyfeirio at Carwyn Jones AC oddi wrth Menna Elfyn ac eraill o'r byd llenyddol a chelfyddydol yn annog y gweinidog i ohirio ei ymweliad arfaethedig ag Israel yn 2003 a cherdd gan Menna Elfyn wedi'i chyfeirio at blentyn a fu farw yn dilyn Rhyfel Cyntaf y Gwlff.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Sgôr gerddorol In These Stones Horizons Sing, darn a gomisiynwyd i ddathlu agoriad Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd; y gerddoriaeth gan Karl Jenkins a'r geiriau gan Menna Elfyn, Grahame Davies a Gwyneth Lewis.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud ag addasiad Cymraeg Menna Elfyn o ddrama lwyfan Mike Kenny Ho Ho Ho (2002), gan gynnwys drafft o'r ddrama a chopïau teg o'r sgript.