Fonds GB 0210 MENFYN - Papurau Menna Elfyn

Identity area

Reference code

GB 0210 MENFYN

Title

Papurau Menna Elfyn

Date(s)

  • 1950-2017 (Creation)

Level of description

Fonds

Extent and medium

0.232 m³ (8 bocs mawr); 00.144 m³ (16 bocs bach)

Context area

Name of creator

Biographical history

Archival history

Immediate source of acquisition or transfer

Prynwyd oddi wrth Dr Menna Elfyn, Caerfyrddin, Rhagfyr 2017.

Content and structure area

Scope and content

Papurau Dr Menna Elfyn, 1950-2017, sy'n adlewyrchu ei bywyd a'i gwaith llenyddol a gwleidyddol, gan gynnwys deunydd yn ymwneud â'r meysydd canlynol: barddoniaeth, rhyddiaith, dramâu ar gyfer y llwyfan a'r cyfryngau a phrosiectau cerddorol a chelfyddydol ar y cyd, ynghyd â chyfieithiadau o'i gwaith barddonol i amryw ieithoedd; ei mynych deithiau i ŵyliau barddonol, seminarau a darlleniadau ac i gynnal gweithdai; gyrfa academaidd Menna Elfyn, gan gynnwys ei chyfnodau fel awdur preswyl; anrhydeddau a gwobrau a ddaeth i'w rhan yn ystod ei gyrfa; cyfnodau ymgyrchu a charcharu Menna Elfyn a'i gŵr Wynfford James fel aelodau o Gymdeithas yr Iaith, ac ymgyrchoedd dros heddwch, cyfiawnder a hawliau merched; yn ogystal ag ystod sylweddol o ohebiaeth, yn bennaf gyda beirdd a llenorion eraill.

Appraisal, destruction and scheduling

Accruals

System of arrangement

Gosodwyd deunydd dyddiedig, e.e. gohebiaeth, yn ôl trefn gronolegol.

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Conditions governing reproduction

Language of material

  • Arabic
  • Basque
  • Breton
  • Bulgarian
  • Catalan
  • Chinese
  • Czech
  • Dutch
  • English
  • Estonian
  • French
  • Galician
  • German
  • Greek
  • Hindi
  • Irish
  • Italian
  • Japanese
  • Lithuanian
  • Occitan
  • Polish
  • Portuguese
  • Punjabi
  • Sinhala
  • Slovenian
  • Spanish
  • Swedish
  • Tamil
  • Turkish
  • Ukrainian
  • Vietnamese
  • Welsh
  • Western Frisian

Script of material

Language and script notes

Abjad (Arabeg)
Hanzi (Tsieinëeg)
Kanji (Siapanaeg)
Devanagari (Hindi)
Abugida (Sinhala & Tamil)
Cyrillic (Bwlgareg & Wcreineg)
Tyrceg
Peth Hanzi (Tsieinëeg).

Physical characteristics and technical requirements

Finding aids

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Trosglwyddwyd posteri a lluniau (mewn ffrâm yn bennaf) i'r casgliad gweledol, ynghyd â dau focs o ddeunydd clyweledol i AGSSC, yn Rhagfyr 2017. Holwch os am fynediad i'r deunydd hwn.

Related descriptions

Notes area

Note

Mae Menna Elfyn (g. 1952) yn fardd, dramodydd, colofnydd a golygydd. Ymhlith ei chynnyrch toreithiog ceir sawl cyfrol o farddoniaeth, dramâu ar gyfer y llwyfan, radio a theledu, rhaglenni teledu dogfennol a llyfrau plant, yn ogystal â nifer o brosiectau cerddorol ar y cyd gyda chyfansoddwyr ac artistiaid. Mae ei gweithiau dwyieithog yn cynnwys y dair flodeugerdd Eucalyptus (1995), Cell Angel (1996) a Cusan Dyn Dall (2001). Ennillodd nifer o wobrwyon am ei gwaith, gan gynnwys y Creative Wales Award yn 2008 a chymeradwyaeth gan y Poetry Book Society am The Bloodaxe Book of Modern Welsh Poetry, cyfrol a gyd-olygodd gyda'r awdur a'r academydd John Rowlands. Mae'n cymryd rhan mewn gwyliau llenyddol rhyngwladol ac yn rhedeg cyrsiau a gweithdai ysgrifennu. Yn 2002 fe'i hapwyntiwyd yn Fardd Llawryfog ar gyfer Plant Cymru. Cyfieithiwyd ei gwaith i ystod eang o ieithoedd, gan gynnwys Sbaeneg, Tsieinëeg, Lithwaneg, Swedeg, Wcreineg, Groeg, Hindi a Slofeneg. Fe'i disgrifiwyd gan y bardd Eingl-Gymreig Tony Conran fel "the first Welsh poet in 1500 years to have her work known outside Wales". Ers sawl blwyddyn bellach mae'n Gyfarwyddwraig Creadigol y cwrs MA mewn Ysgrifennu Creadigol yng Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a bu'n Gymrawd Llenyddol Prifysgolion Aberystwyth (2002-2006, 2013/14) ac Abertawe (2007-2010). Yn 2015 enillodd Gymrodoriaeth y Royal Society of Literature yn ogystal â Llywyddiaeth PEN Cymru ac, yn 2018, fe'i penodwyd yn Gymrawd o'r Learned Society of Wales.

Alternative identifier(s)

Alma system control number

99815105302419

Access points

Place access points

Name access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

Rules and/or conventions used

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

Language(s)

Script(s)

Sources

Archivist's note

Lluniwyd y disgrifiad gan Bethan Ifan, Ionawr 2018.

Accession area