Dangos 197 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Menna Elfyn
Rhagolwg argraffu Gweld:

Barddoniaeth gynnar

Llyfrau nodiadau Menna Elfyn yn cynnwys ymdrechion barddoni cynnar a drafftiau o gerddi, rhai ohonynt a gynhwyswyd yn ddiweddarach ar ffurf cyflawn mewn gweithiau cyhoeddiedig megis Mwyara (1976), 'Stafelloedd Aros (1978) a Tro'r Haul Arno (1982), ynghyd â barddoniaeth gan feirdd eraill ac amrywiol ddyfyniadau.

O'r Iawn Ryw

Deunydd yn ymwneud â'r flodeugerdd O'r Iawn Ryw (1991), a olygwyd gan Menna Elfyn, gan gynnwys adolygiadau ac erthyglau.

Trying the Line

Deunydd yn ymwneud â'r flodeugerdd Trying the Line, (1997), a olygwyd gan Menna Elfyn, gan gynnwys adolygiadau.

Ffŵl yn y Dŵr

Deunydd yn ymwneud â Ffŵl yn y Dŵr (1999), cyfrol o gerddi ar gyfer pobl ifanc a olygwyd gan Menna Elfyn, gan gynnwys adolygiad.

Bondo

Deunydd yn ymwneud â'r flodeugerdd ddwyieithog Bondo (2017), gan gynnwys drafft anodiadol o'r gyfrol a datganiad i'r wasg.

Cerddi amrywiol

Cerddi gan Menna Elfyn a gynhwysir yn ei chyfrolau cyhoeddiedig ond nad oeddent wedi'u cyplysu o fewn y casgliad ag unrhyw gyfrol(au) penodol.

Teyrngedau i Seamus Heaney

Teyrngedau i Seamus Heaney, gan gynnwys barddoniaeth a rhyddiaith gan Hayden Murphy ac arlunwaith gan Hugh Bryden a John Behan.

Gwobrwyon ac anrhydeddau

Deunydd yn ymwneud â gwobrywon ac anrhydeddau a ddaeth i ran Menna Elfyn yn ystod ei gyrfa, y rhan helaeth ohono yn deillio o'i chyfnod fel Bardd Plant Cymru.

Deunydd ychwanegol Mai 2023

Papurau o eiddo neu sydd yn ymwneud â'r bardd, dramodydd, colofnydd a golygydd Dr Menna Elfyn a ychwanegwyd at yr archif ym mis Mai 2023, yn cynnwys barddoniaeth, rhyddiaith a gweithiau llwyfan a chyfryngol (drafftiau llawysgrif, teipysgrifau a deunydd argraffiedig) gan Menna Elfyn; deunydd yn ymwneud â chyrsiau academaidd a gweithdai a diwtorwyd gan neu a gyd-gyfarwyddwyd gan Menna Elfyn; llyfrau nodiadau; gohebiaeth; erthyglau, adolygiadau a datganiadau i'r wasg gan awduron eraill sy'n ymwneud â bywyd a gwaith Menna Elfyn; ynghyd â rhai papurau'r Parchedig T. (Thomas) Elfyn Jones, tad Menna Elfyn.

Rhyddiaith

Deunydd rhyddieithol gan Menna Elfyn, yn cynnwys: copïau proflen o Optimist Absoliwt: Cofiant Eluned Phillips (Gwasg Gomer, 2016); ei llên-gofiant Cennad (Cyhoeddiadau Barddas, 2018); a'i chyfrol Cwsg (Gwasg Gomer, 2019); copïau teipysgrif o benodau a gyfranwyd gan Menna Elfyn at y cyfrolau Megalith (gol. Damian Walford Davies, Gwasg Gomer, 2006), Canu Caeth: y Cymro a'r Affro-Americanaidd (gol. Daniel G. Williams, Gwasg Gomer, 2010), [?Welsh Writers] ([?] gol. Institute of Welsh Affairs, [?]2012) a Dros Ryddid! (gol. Llinos Dafydd & Ifan Morgan Jones, Gwasg y Lolfa, 2022); copi teipysgrif o'r Rhagymadrodd gan Menna Elfyn i'r gyfrol Shirgar Anobeithiol (gol. Menna Elfyn, Cyngor Sir Gaerfyrddin, 2000); copi rhwymedig o draethawd ymchwil yn dwyn y teitl 'Barddoniaeth Menna Elfyn: Pererindod Bardd' a gyflwynwyd gan Menna Elfyn i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar gyfer gradd Doethuriaeth mewn Gweithiau Cyhoeddedig, 2010; ac erthyglau, ysgrifau ac adolygiadau gan Menna Elfyn, rhai ohonynt ar ffurf llawysgrif ddrafft neu deipysgrif ac eraill wedi'u cymryd o ffynhonellau argraffiedig.
Ambell eitem yn dwyn arnodiadau yn llaw Menna Elfyn.

Gweler hefyd dan Llyfrau nodiadau.

Erthyglau, ysgrifau ac adolygiadau

Erthyglau (gan gynnwys colofnau i'r wasg), ysgrifau ac adolygiadau gan Menna Elfyn, rhai ohonynt ar ffurf llawysgrif ddrafft neu deipysgrif ac eraill wedi'u cymryd o ffynhonellau argraffiedig.
Ambell eitem yn cynnwys arnodiad(au) yn llaw Menna Elfyn.
Sawl un o'r eitemau yn ddi-ddyddiad.

Caneuon

Geiriau 'Cân yr Alltud/The Exile's Song', rhan gyntaf y gwaith corawl/cerddorfaol 'In These Stones, Horizons Sing', a gyfansoddwyd gan y cyfansoddwr a'r offerynnwr Karl Jenkins, y geiriau Cymraeg/Saesneg gan Menna Elfyn, y bardd, awdur, golygydd, libretydd, adolygydd llenyddol a'r cyn-ohebydd Grahame Davies a'r bardd Gwyneth Lewis. Comisiynwyd y gwaith ar gyfer agoriad Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2004 a'i ddatgan gan y canwr bâs-baritôn byd-enwog Bryn Terfel. Gwyneth Lewis gyfansoddodd y testun a ymddengys uwchben Canolfan y Mileniwm.
Testun yr eitem wedi'i arnodi/gywiro yn llaw Menna Elfyn.

Gohebiaeth

Gohebiaeth amrywiol at, oddi wrth neu sydd yn ymwneud â Menna Elfyn.

Am Menna Elfyn: Erthyglau, adolygiadau a datganiadau i'r wasg

Erthyglau, adolygiadau a datganiadau i'r wasg gan awduron oddieithr Menna Elfyn ond sy'n ymwneud â bywyd a gwaith Menna Elfyn, gan gynnwys: adolygiadau o'i chasgliadau barddonol megis Aderyn Bach Mewn Llaw (1990), Cell Angel (1996), Cusan Dyn Dall/Blind Man's Kiss (2001), Perffaith Nam/Perfect Blemish (2007) Merch Perygl (2011) a Murmur (Bloodaxe Books, 2012), The Bloodaxe Book of Modern Welsh Poetry (2003), a gyd-olygwyd gan Menna Elfyn a John Rowlands, Y Forwyn Goch (1992), drama am yr aflonyddwraig, diwinydd ac athronydd Simone Weil, ac Ar Dir Y Tirion (1993), drama'r geni tra amgen, ill dwy a sgriptiwyd gan Menna Elfyn, a'i nofel i blant a phobl ifanc Madfall ar y Mur (1993)); hanes digwyddiadau a gŵyliau y bu Menna Elfyn yn cymryd rhan ynddynt, gan gynnwys Binding the Braids, digwyddiad barddonol rhyng-Geltaidd a gynhaliwyd yng Nghaeredin ym 1992, Gŵyl Lenyddol Ilkley, Swydd Efrog, 1992, a 'Threave Poets', digwyddiad fel rhan o Ŵyl Gelfyddydau Dumfries a Galloway a gynhaliwyd yn Castle Douglas ym 1994; erthygl yn ymwneud â darlleniad o farddoniaeth yng Nghymraeg, Saesneg, Lithwaneg a Malteg i ddathlu digwyddiad o fewn yr Undeb Ewropeaidd; datganiadau i'r wasg sy'n ymwneud yn bennaf â llwyddiannau barddonol a llenyddol Menna Elfyn, gan gynnwys ei phenodiad fel Bardd Plant Cymru am 2002-2003 (y bardd benywaidd cyntaf i'w hanrhydeddu â'r swyddogaeth honno); ac erthyglau yn ymwneud â Menna Elfyn, ei bywyd a'i gwaith, gan gynnwys toriad o'r Western Mail, 1 Rhagfyr 1970, sy'n dangos llun o Menna Elfyn a rhai o'i chyd-fyfyrwyr o Goleg y Brifysgol Abertawe yn gwrthdystio yn erbyn yr hyn a welsant fel y mewnlifiad gormodol o fyfyrwyr Seisnig i'r Brifysgol.
Dwy erthygl yn ymddangos fel petaent yn anghyflawn.
Sawl eitem yn ddi-ddyddiad.
Am y gweithiau gan Menna Elfyn a grybwyllir, gweler dan y penawdau perthnasol o fewn yr archif.

Deunydd amrywiol

Deunydd cyffredinol yn ymwneud â chyfieithu, gan gynnwys hanes sefydlu canolfan gyfieithu yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy, datganiad am y llenor Basgaidd Eli Tolaretxipi, cerddi yn yr iaith Arabeg a chyfieithiadau i'r Saesneg o hen benillion Cymraeg.

Erthyglau ac ysgrifau gan neu am Menna Elfyn

Erthyglau ac ysgrifau gan neu yn ymwneud â Menna Elfyn, gan gynnwys drafftiau o ragymadroddion, rhageiriau a phenodau ar gyfer deunydd cyhoeddedig; ynghyd â dwy erthygl am Fflur Dafydd, merch Menna Elfyn, a gohebiaeth berthnasol at Menna Elfyn oddi wrth yr Athro John Rowlands ac eraill.

Nofel: Madfall ar y Mur

Deunydd yn ymwneud â Madfall ar y Mur (1993), nofel gyntaf Menna Elfyn ar gyfer pobl ifanc, gan gynnwys drafft cyntaf o'r gwaith, llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth sefydliad Juconi, sy'n cynnig lloches i blant y stryd yn ninas Puebla, Mecsico (a lle bu Menna Elfyn yn aros tra'n ymchwilio i'r nofel), nodiadau cefndirol, erthyglau papur newydd a chopi printiedig o'r nofel.

Canlyniadau 1 i 20 o 197