Print preview Close

Showing 160 results

Archival description
Papurau Waldo Williams File Welsh
Print preview View:

Llythyr at Dilys Williams oddi wrth [Elizabeth Williams]

Llythyr, 5 Gorffennaf [1953], at Dilys Williams oddi wrth 'Anti Lizzie' (nodyn yn llaw Dilys Williams ar frig y llythyr), sef Elizabeth Williams (ganed Watkins), yn enedigol o ardal Llandysilio-yn-Nyfed, Sir Benfro, gwraig Levi Williams, oedd yn frawd i John Edwal Williams, tad Dilys Williams. Ceir cyfeiriadau at Waldo Williams, brawd Dilys, at eu chwaer Mary [Francis, ganed Williams] ac at 'David' - o bosib David Williams, nai Dilys.

Llythyr at Dilys Williams oddi wrth Emyr Llywelyn

Llythyr di-ddyddiad [1970] at Dilys Williams oddi wrth yr ymgyrchydd a'r llenor Emyr Llywelyn oddi mewn i rifyn Medi 1970 o'r misolyn Barn, sy'n cynnwys erthygl gan Emyr Llywelyn yn dwyn y teitl 'Y Gymru Newydd'. Mae'r llythyr yn cyfeirio at '[g]ystudd hir' Waldo Williams, brawd Dilys, a'r ysbrydoliaeth a gafodd Emyr Llywelyn o fod yng nghwmni Waldo ac o ddarllen ei waith.

Llythyr at Dilys Williams oddi wrth Glynne a'i Gwmni, cyfreithwyr

Llythyr, 23 Mai 1985, at Dilys Williams oddi wrth Glynne a'i Gwmni, cyfreithwyr, Bangor, yn trafod ystâd bersonol y diweddar John Aneurin Jones, Bangor, mab John Elias Jones, brawd Angharad Williams (née Jones), mam Dilys; ynghyd â manylion ynghylch eiddo a dyledion yr ymadawedig a rhestr o'r rheini, Dilys yn eu plith, a fyddai'n elwa o gyfran o'r eiddo ariannol. Ceir nodiadau [yn llaw Dilys Williams] ar restr y rhai a fyddai'n elwa yn dynodi perthynas yr unigolion i aelodau teulu Dilys Williams a Waldo Williams.

Llythyr at Dilys Williams oddi wrth Jean Hunt

Llythyr di-ddyddiad at Dilys Williams oddi wrth Jean Hunt (gynt Ware, ganed Jones), a oedd (yn ôl tystiolaeth coeden deulu - gweler Achau teuluol a chyfrifiadau dan bennawd Angharad Williams (née Jones)) yn wyres i Syr Henry Jones, brawd i John Jones, tad Angharad Williams (née Jones), mam Dilys. Mae'r llythyr yn crybwyll Mwynlan Mai Edmond (née Jones) a Wilhelmina (Minnie) Edmunds (née Jones), chwiorydd Angharad (a modrybedd Dilys), ac Elias Henry Jones, tad Jean Hunt (a mab i Syr Henry Jones), yn ogystal â'r cywydd 'Angharad' a gyfansoddodd Waldo er cof am ei fam.

Llythyr at Dilys Williams oddi wrth William Price Jones

Llungopi o lythyr, 16 Hydref 1975, at Dilys Williams oddi wrth ei hewythr, William Price Jones (brawd ei mam, Angharad Williams (née Jones)), yn diolch iddi am ei chydymdeimlad wedi marwolaeth gwraig William Price Jones (gweler William Price Jones dan bennawd Angharad Williams (née Jones)).

Llythyr at Mr & Mrs John Hughes, Llangernyw

Llungopi o lythyr, dyddiedig 3 Gorffennaf 19[?88], at Mr & Mrs John Hughes, Llangernyw oddi wrth 'Gareth' o'r Baptist Missionary Society, Llundain yn diolch am ei ymweliad â bwthyn Syr Henry Jones, ewyrth Angharad Williams (née Jones), yn Llangernyw (am Syr Henry Jones, gweler yr enw hwnnw dan bennawd Angharad Williams (née Jones)).

Llythyr at Waldo Williams oddi wrth Brenda Jones

Llythyr, 4 Mai 1960, at Waldo Williams oddi wrth Brenda Jones yn amgau barddoniaeth yng Nghymraeg a Saesneg gan D .T. Jones, o bosib ei gŵr, rhai o'r cerddi mewn teipysgrif a rhai ohonynt wedi'u copïo yn llaw Brenda Jones; hefyd, copïau teipysgrif o farddoniaeth gan Esther Phillips.

Llythyr at Waldo Williams oddi wrth Dewi Thomas

Llungopi o lythyr, 24 Medi 1967, at Waldo Williams oddi wrth Dewi Thomas. Nid yw'n eglur pa un ai'r un Dewi Thomas sydd yma â'r Parch Dewi W. Thomas a ddisgrifir gan Alan Llwyd (Alan Llwyd: Waldo: Cofiant Waldo Williams: 1904-1971 (Y Lolfa, 2014), tud. 229-230, 339).

Llythyr at Waldo Williams oddi wrth George Evans

Llungopi o lythyr, 20 Medi 1970, at Waldo Williams oddi wrth George Evans, a oedd yn wreiddiol o Glunderwen, Sir Benfro (gweler nodyn [?yn llaw Dilys Williams, chwaer Waldo] ar frig y llythyr). Ysgrifennwyd y llythyr tra 'roedd Waldo dan ei gystudd olaf yn Ysbyty Sant Thomas, Hwlffordd.

Llythyr at Waldo Williams oddi wrth Ioan Edmunds

Llungopi o lythyr, 17 Ebrill 1970, at Waldo Williams oddi wrth ei gefnder Ioan Edmunds, mab Wilhelmina (Minnie), chwaer Angharad Williams (née Jones), mam Waldo. Ceir hefyd gyfeiriad at Mwynlân (Mai Edmond (née Jones)), chwaer arall Angharad. Ysgrifennwyd y llythyr at Waldo yn ystod ei gystudd olaf, ac yntau'n glaf yn Ysbyty Sant Thomas, Hwlffordd.

Llythyr at Waldo Williams oddi wrth Pádraig Ó Fiannachta

Llungopi o lythyr, dim dyddiad [1960x1971], at Waldo Williams oddi wrth yr ysgolhaig, bardd ac offeiriad y Tad Pádraig Ó Fiannachta (Patrick Fenton). Yn ystod ei arhosiad yn Iwerddon ym 1960, dysgodd Waldo'r iaith Wyddeleg yng Ngholeg Maynooth, swydd Kildare, lle 'roedd y Tad Pádraig yn Athro mewn Gwyddeleg Cynnar.

Llythyr oddi wrth Dilys Williams at Meic Stephens

Llythyr drafft, 19 Ionawr 1974, oddi wrth Dilys Williams at Meic Stephens, oedd ar y pryd yn Gyfarwyddwr gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, yn trafod manylion poster a fyddai'n dwyn geiriau'r gerdd 'Cofio' gan Waldo Williams, brawd Dilys. 'Roedd 'Cofio' yn un o gyfres o bosteri a gyhoeddwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a oedd yn arddangos cerddi Cymraeg yn erbyn cefndiroedd darluniadol o waith yr arlunydd Sue Shields.

Llythyr oddi wrth Nan a Waldo Roberts at Gwladys [Llewellyn]

Llythyr, 14 Gorffennaf 1920, oddi wrth Nan a Waldo Roberts, Sgiwen, Castell-nedd Port Talbot at Gwladys [Llewellyn] yn datgan cydymdeimlad ar achlysur marwolaeth ewythr Gwladys, sef William Williams (Gwilamus), brawd John Edwal Williams, tad Waldo (gweler William Williams (Gwilamus) dan bennawd John Edwal Williams).

Llythyr oddi wrth Syr Thomas Parry at Gwladys Llewellyn

Llungopi o lythyr, 2 Mehefin 1943, oddi wrth yr ysgolhaig Cymreig Syr Thomas Parry at Gwladys Llewellyn, Rhosaeron, Clunderwen yn holi ar ran ei frawd, Gruffudd Parry, ynglŷn â phrynu torch ar gyfer angladd Linda Williams (née Llewellyn), gwraig Waldo Williams. 'Roedd Gruffudd Parry a Waldo yn gyd-athrawon yn Ysgol Ramadeg Botwnnog pan fu farw Linda o'r ddarfodedigaeth ar y cyntaf o Fehefin 1943.

Llythyr oddi wrth Waldo Williams at Dilys Williams

Llungopi o lythyr, [1942], oddi wrth Waldo Williams at ei chwaer Dilys Williams. Crybwyllir yn y llythyr fod Waldo newydd gwblhau ei ddatganiad o wrthwynebiaeth cydwybodol i'r rhyfel ar gyfer ei achos yn y tribiwnlys ar 12 Chwefror 1942, a sonnir hefyd am bryderon Waldo ar ran ei wraig Linda (née Llewellyn), oedd yn poeni y byddai Waldo'n colli ei swydd (fel prifathro Ysgol Casmael, Sir Benfro) o ganlyniad i'w ddaliadau heddychol.

Results 81 to 100 of 160