Llythyr at David [Williams] oddi wrth Elizabeth a Graham
- 2/4/1/3
- File
- [2000x2018]
Part of Papurau Waldo Williams
Llythyr di-ddyddiad at David [Williams] oddi wrth 'Elizabeth' a 'Graham' yn crybwyll gwaeledd [Cecilia, gwraig David Williams].
Llythyr at David [Williams] oddi wrth Elizabeth a Graham
Part of Papurau Waldo Williams
Llythyr di-ddyddiad at David [Williams] oddi wrth 'Elizabeth' a 'Graham' yn crybwyll gwaeledd [Cecilia, gwraig David Williams].
Llythyr at David a Cecilia Williams oddi wrth Y Tad Pádraig Ó Fiannachta
Part of Papurau Waldo Williams
Llythyr, 11 Rhagfyr 2012, at David Williams a'i wraig Cecilia oddi wrth Y Tad Pádraig Ó Fiannachta. Sonnir am Waldo Williams yn aros gyda chwaer Pádraig Ó Fiannachta tra 'roedd y bardd yn dysgu Gwyddeleg ym Mhrifysgol Maynooth, Swydd Kildare.
Llyfrau nodiadau Angharad Williams
Part of Papurau Waldo Williams
Llyfrau nodiadau yn llaw Angharad Williams (née Jones) yn cynnwys dyfyniadau o ffynhonellau crefyddol a llenyddol, copïau o lythyrau a ryseitiau ar gyfer y gegin a'r cartref.
Llyfr y Trysorydd, Urdd Gobaith Cymru Cylch Abergwaun
Part of Papurau Waldo Williams
Llyfr nodiadau yn cynnwys cyfrifon trysorydd Urdd Gobaith Cymru Cylch Abergwaun. Yn rhydd yn y gyfrol ceir nodyn, 13 Mawrth 1943, at Dilys Williams oddi wrth H[ilda] M. Martin, trysorydd y Cylch am y blynyddoedd 1930-1933, 1934-, mantolen yn dangos manylion cyfrifon Urdd Gobaith Cymru Cylch Abergwaun am y flwyddyn 1954, a llythyr, 27 Tachwedd 1957, at Dilys Williams oddi wrth Wynford Davies, Cyfarwyddwr Addysg Sir Benfro, ynghylch Eisteddfod yr Urdd 1957 (gweler Gŵyl y Sir, Abergwaun, 1957 dan bennawd Dilys Williams - Gohebiaeth at Dilys Williams).
Llyfr nodiadau: Ymgyrch lyfrau, grŵp trafod
Part of Papurau Waldo Williams
Llyfr nodiadau yn llaw Dilys Williams, yn cynnwys rhestr o lyfrau ar gyfer Ymgyrch Lyfrau 1984 a nodiadau ynghylch grŵp trafod. Rhai tudalennau yn nhu blaen y gyfrol wedi'u torri allan. Mae rhan helaethaf y gyfrol yn wag.
[Llyfr nodiadau Linda a Waldo]
Part of Papurau Waldo Williams
Llyfr nodiadau yn rhannol yn llaw Linda (née Llewellyn), gwraig Waldo Williams, yn cynnwys mesuriadau a phrisiau carpedi a llenni ar gyfer y cartref (gan nodi fod angen llenni 'black-out' i ambell ffenest) a rhestr siopa ('What Linda wants'); ynghyd â nodiadau bras yn llaw Waldo Williams yng nghefn y gyfrol. Nodir yr enwau 'Waldo' a 'Linda' ar glawr y gyfrol.
Llyfr lloffion Angharad Williams
Part of Papurau Waldo Williams
Llyfr lloffion o eiddo Angharad Williams (née Jones) yn adlewyrchu ei diddordeb mewn gwleidyddiaeth, llenyddiaeth a hanes cyfoes trwy gyfrwng barddoniaeth, portreadau o unigolion nodedig (gan gynnwys Syr Henry Jones, ewythr Angharad), a thorion papur newydd, yn eu plith eitemau'n olrhain hanes digwyddiadau'r Rhyfel Byd Cyntaf; ynghyd â ryseitiau coginiol a meddyginiaethol a manylion cyfrif Angharad gyda John Morris, siopwr yn Llandysilio.
Part of Papurau Waldo Williams
Llyfr banc o eiddo Waldo Williams, ac yn rhannol yn ei law, yn cynnwys manylion ei drafodion gyda Banc Barclays, 1934-1945. Mae'r sawl cyfeiriad cartref a arysgrifwyd o fewn y gyfrol yn dyst i symudiadau Waldo yn ystod y cyfnod hwn.
Part of Papurau Waldo Williams
Copi o gywydd byr gan Waldo Williams er cof am ei wraig Linda (ganed Llewellyn). Ychydig wythnosau wedi ei marwolaeth anhymig ar y cyntaf o Fehefin 1943, anfonodd Waldo gopïau o'r gerdd wedi'i hargraffu ar gerdyn fechan at deulu a chyfeillion.
Part of Papurau Waldo Williams
Deunydd yn ymwneud â Lewis Williams, brawd John Edwal Williams, gan gynnwys ffotograff o Lewis Williams ac eraill; cerdyn post at John Edwal Williams oddi wrth Lewis Williams; ysgrif deipysgrif [?gan Lewis Williams]; a gohebiaeth o'r Unol Daleithiau wedi'i gyfeirio at John Edwal ynglyn ag eiddo y diweddar Lewis Williams wedi i hwnnw golli ei gyllidion yn dilyn cwymp Wall Street ym 1929. Ceir nodyn yn llaw David Williams, nai Waldo Williams a gor-nai John Edwal, ar frig un dalen (am David Williams, gweler Aelodau eraill teulu Waldo Williams - David Williams).
Part of Papurau Waldo Williams
Label bagiau yn dangos enw a chyfeiriad Waldo Williams yn 'Great Harmston [sic - am Harmeston], Johnston, Haverfordwest'.
Part of Papurau Waldo Williams
Llungopi o'r gerdd I'r Hafod gan Waldo Williams, y copi gwreiddiol yn ei law.
Idylls of the King; Tristram and Iseult; mytholeg Gymreig
Part of Papurau Waldo Williams
Llyfr nodiadau yn llaw Waldo Williams yn cynnwys dyfyniadau o Idylls of the King gan Alfred, Lord Tennyson ac o Tristram and Iseult gan Matthew Arnold, nodiadau ar fytholeg Gymreig a bras nodiadau eraill.
High Above The Great West Road ....
Part of Papurau Waldo Williams
Copi llawysgrif o gerdd gan ac yn llaw Waldo Williams yn cychwyn 'High above the Great West Road ...' a anfonodd Waldo fel rhodd Nadolig, 20 Rhagfyr 1948, at nai Maude Webb, prifathrawes Ysgol Gynradd Lyneham ger Chippenham, swydd Wiltshire, lle 'roedd Waldo'n dysgu ar y pryd; ynghyd â llungopi o'r gerdd. Darlunir y gerdd â phaentiad dyfrlliw gwreiddiol o Geffyl Gwyn Cherhill a Chofeb Lansdowne.
Hanes Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif; Hywel Dda
Part of Papurau Waldo Williams
Llyfr nodiadau yn llaw Waldo Williams sy'n cynnwys nodiadau a gymerwyd o Hanes Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif gan R. T. Jenkins (Gwasg Prifysgol Cymru, 1928); nodiadau ar Hywel Dda (c. 880-950); nodiadau ar hanes economaidd a gwleidyddol; a mân nodiadau eraill.
Part of Papurau Waldo Williams
Llyfr nodiadau, y rhan helaethaf ohono yn llaw Dilys Williams, gyda'r nodyn canlynol ar y clawr: 'Is-bwyllgor. Trefnu Rhaglen Cyngerdd yr Adrannau Gwyl [sic] Sir. 1957', sef cyngerdd Adrannau'r Urdd a oedd i'w gynnal 4 Gorffennaf 1957 yn ystod Gŵyl y Sir yn Abergwaun. Mae'r gyfrol yn cynnwys cofnodion cyfarfodydd yr is-bwyllgor wrth drafod a threfnu'r cyngerdd, a oedd i gynnwys datganiadau o'r awdl Tŷ Ddewi gan Waldo Williams, brawd Dilys, a'r gân 'Molawd Penfro' (geiriau Waldo Williams, cerddoriaeth Gerallt Evans). Yn nhu blaen y gyfrol ceir nodyn, dyddiedig 5 Mehefin 1957, oddi wrth Tom Lewis o Ysgol Gynradd Mynachlogddu at Dilys Williams. Ymddengys mai Dilys Williams oedd ysgrifennyddes yr is-bwyllgor. Ceir hefyd gohebiaeth at Dilys Williams ynglŷn â threfniadau cystadlu Aelwyd Abergwaun ar gyfer yr Ŵyl.
Part of Papurau Waldo Williams
Deunydd yn ymwneud â digwyddiadau Gŵyl Waldo, a drefnwyd gan yr Academi Gymreig, sy'n cynnwys darlith gan yr ysgolhaig Cymraeg Dr R. Geraint Gruffydd, taith lenyddol yng nghwmni'r bardd a'r athro Jâms (James) Nicholas, a chyfraniadau gan amryw feirdd a llenorion megis T. Llew Jones, Gruffudd Parry, T. James Jones ac eraill.
Part of Papurau Waldo Williams
Gwahoddiad i Dilys Williams i swper fel rhan o ddigwyddiadau Gŵyl Waldo, a drefnwyd gan yr Academi Gymreig, 18-19 Ebrill 1986; ynghyd ag amserlen gweithgareddau a phoster yn ymwneud a'r Ŵyl.
Part of Papurau Waldo Williams
Ebost, dyddiedig 5 Rhagfyr 2011, at dderbynnydd anhysbys yn cynnwys gwybodaeth achyddol am deulu John Edwal Williams. Ceir yr enw 'Dai' (David Williams, nai Waldo Williams a gor-nai John Edwal - gweler Aelodau eraill teulu Waldo Williams - David Williams) ar frig y ddalen yn llaw David Williams.
Gwrthodiad i dalu'r dreth incwm, dedfryd a charchariad Waldo Williams
Part of Papurau Waldo Williams
Toriadau papur newydd yn ymwneud â gwrthodiad Waldo Williams i dalu ei dreth incwm, ynghyd â'i ddedfrydu a'i garcharu o ganlyniad i hynny ym mis Medi 1960; hefyd toriad o rifyn 6 Hydref 1960 o bapur newydd Y Tyst yn cynnwys cerdd gan 'Gerallt' wedi'i chyfeirio at Waldo Williams yn ystod cyfnod ei garchariad.