Showing 3783 results

Archival description
file Welsh
Print preview View:

4 results with digital objects Show results with digital objects

Castell Abertawe

Papurau yn ymwneud â'r ymgyrch i achub Castell Abertawe, [c.1930]-1958, gan gynnwys llythyrau, papurau teipiedig, cofnodion, nodiadau a thorion papur newydd. Mae yma hefyd dri llyfryn, The Bishop's Palace, St. David's, Pembrokeshire a The Bishop's Palace at Lamphey, Pembrokeshire gan C. A. Ralegh Radford, sydd wedi eu cynnwys oherwydd eu cysylltiad pensaernïol â Chastell Abertawe, a llyfryn Galwadau Cyngor, sy'n cynnwys paragraff am Gastell Abertawe.

Cath a Llygoden (1994),

Papurau'n ymwneud â pharatoi'r cyfieithiad o nofel Günter Grass, Katz und Maus, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Gwilym Ll[oyd] Edwards, y cyfieithydd, a phroflenni. J. Gwyn Griffiths oedd golygydd cyfres yr Academi o gyfieithiadau.

Edwards, Gwilym Lloyd, 1920-

Catrodau'r Hydref: drama gyfres,

Tair drama a luniwyd ganddo ar gyfer y teledu - 'Digon i'r dydd', 'Diwrnod i'r Brenin' a 'Dail criin'. [Mae copi o 'Digon i'r dydd' a ddarlledwyd gan BBC Cymru yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru].

Ceisiadau am swyddi

Papurau'n ymwneud â gyrfa G. J. Williams, gan gynnwys ceisiadau am swyddi a thystlythyrau, 1914-1927, 1946; ynghyd â chopi o gais Saunders Lewis am swydd yng Ngholeg Rhydychen, 1947.

Ceisiadau am swyddi,

Ceisiadau am swyddi fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Astudiaethau Efrydiau Allanol ym Mhrifysgol Caeredin, [cyn 1955], tiwtor cynorthwyol yn Adran Efrydiau Allanol Prifysgol Bangor, 1955, a darlithydd cynorthwyol yn Adran Gymraeg Coleg y Brifysgol Caerdydd (llenyddiaeth ddiweddar), 1957.

Ceisiadau,

Papurau, 1933-1986, gan gynnwys cais am radd DD, 1980, tystlythyrau, 1933-1934 a curriculum vitae, cais am gadair yn y Clasuron, Prifysgol Abertawe, 1967, ymchwil proffesiynol, ynghyd ag adroddiad 'Taith Ymchwil yn yr Undeb Sofiet', 1986.

'Cell gymysg'

'Cell gymysg' sef casgliad o adysgrifau gan Erfyl Fychan a ddechreuodd yn 1929, gan gynnwys anterliwt gan Ellis y Cowper a nifer o englynion gan T. Gwynn Jones. Ceir hefyd enghreifftiau o waith Erfyl Fychan ei hun gan gynnwys 'Y Di-wifr'; penillion 'Dadl ynghylch Neuadd y Sir ym Maldwyn 1930'; 'Noswyl J. Breese Davies, Dinas Mawddwy, hunodd 4/x/40'; englyn, 'Eryri'; penillion a luniodd ar gyfer agoriad Gŵyl Gerdd Dant Cymru yn Y Felinheli, 1947, a phenillion cyfarch i D. R. Hughes ('Myfyr Eifion') ar achlysur cyflwyno Tysteb Genedlaethol iddo yng Nghaerdydd yn 1948; 'Carol y Byd Dyrus', 1962, a chyfarchion pen-blwydd i Cynan yn 70, 1965. Ceir hefyd ychwanegiadau gan [ei fab Geraint Vaughan-Jones] a phapurau rhydd yn ei law.

'Celwyddau'

Mae'r ffeil yn cynnwys rhan gyntaf o lawysgrif, ynghyd â chynllun, 1998, o waith a ymddengys i fod yn nofel yn dwyn y teitl 'Celwyddau'.

Cenedlaetholdeb a'r clasuron (1997),

Papurau'n ymwneud â threfniadau Cyngres Canmlwyddiant Urdd y Graddedigion a gynhaliwyd yng Ngregynog, Mawrth 1994, gan gynnwys llythyr oddi wrth Telfryn [Pritchard], 1994, a'r ddarlith mewn teipysgrif.

Pritchard, R. Telfryn (Roger Telfryn), 1940-

Cerdd gan G. J. Williams, Bangor,

  • NLW Misc. Records 406.
  • file
  • [?1977].

Llungopi o gerdd mewn teipysgrif gan G. J. Williams (1854-1933), Bangor. = Photocopy of a typewritten poem by G. J. Williams, Bangor.

Results 341 to 360 of 3783