Showing 3783 results

Archival description
file Welsh
Print preview View:

4 results with digital objects Show results with digital objects

Cerdd gan Niclas y Glais,

  • NLW Facs 1046.
  • file
  • 2011 /

Llungopi o benillion gan T. E. Nicholas ('Niclas y Glais', 1879-1971) i William Lewis, ffermwr cefnog a diacon yng nghapel y Glais. Mae'n bosib iddo ei ysgrifennu yn ystod ei gyfnod fel gweinidog yn y Glais rhwng 1904 1 1914.

Nicholas, T. E. (Thomas Evan)

Cerdd gan Waldo Williams,

  • NLW MS 23897B.
  • file
  • 1955-1956.

Copi o E. Llwyd Williams a Waldo Williams, Cerddi'r Plant, 2il arg. (Aberystwyth, 1955), yn cynnwys cerdd ddi-deitl, 6 Mai 1956, gan Waldo Williams, yn llaw yr awdur, wedi ei gyflwyno i Enid Jones (t. 2). Cyhoeddwyd a thrafodwyd y gerdd yn erthygl ei mam Anna Wyn Jones, 'Waldo', yn Waldo: Cyfrol Deyrnged i Waldo Williams, gol. gan James Nicholas (Llandysul, 1977), tt. 37-49 (t. 45). = A copy of E. Llwyd Williams and Waldo Williams, Cerddi'r Plant, 2nd edn (Aberystwyth, 1955), containing an untitled autograph poem, 6 May 1956, by Waldo Williams, dedicated to Enid Jones (p. 2). The poem is published and discussed in her mother Anna Wyn Jones's article 'Waldo', in Waldo: Cyfrol Deyrnged i Waldo Williams, ed. by James Nicholas (Llandysul, 1977), pp. 37-49 (p. 45).

Williams, Waldo, 1904-1971

Cerddi

Mae'r ffeil yn cynnwys cerddi llawysgrif a theipysgrif, [1970x2000], gan John Stoddart yn ôl pob tebyg.

Cerddi

Copïau llawysgrif o rai o gerddi'r Parch. W. Glasnant Jones, [1889x1951], ynghyd â chopïau o gerddi gan feirdd eraill. Mae'r dyddiad 1937 ar un o'r cerddi.

Cerddi

Mae'r ffeil yn cynnwys cerddi a anfonwyd fel cyfraniadau i'r Faner gan amryw o feirdd, 1988-1991.

Cerddi

Llyfr nodiadau gan gynnwys ei bryddest i 'Abraham Lincoln' [a enillodd goron iddo yn San Ffransisco yn 1913]; llyfr nodiadau, 1913, yn cynnwys cerdd i G[oronwy] O[wen]; amlen gyda drafftiau o'r cerddi 'Morgannwg (Gwlad y glo)' a 'Mynwent y cŵn (yn Nanteos)'; llyfr nodiadau'n cynnwys cerddi ar ffurf torion o'r wasg ar gyfer Trydydd Cerddi Crwys a gyhoeddwyd yn 1935 (ond rhoir 1936 ar ddiwedd rhagair y llawysgrif), ynghyd â thorion diweddarach megis 'Anathoth', Y Tyst, 1966 ac amlen wedi'i labelu 'Poems by Dad'; a chopi o Shakespeare, The Merchant of Venice (Rhydychen, 1891) gyda cherdd 'Casglu blodau' gan W. C. Williams, [18]95, wedi'i hysgrifennu yn y gyfrol.

Cerddi

Mae'r ffeil hon yn cynnwys cerddi amrywiol yn ei feddiant neu wedi eu hysgrifennu neu eu copïo ganddo, [1921]-[1992].

Cerddi a rhyddiaith amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys cerddi a rhyddiaith gan awduron amrywiol, nifer ohonynt wedi eu hysgrifennu ar gyfer Seren yr Ysgol Sul a chyhoeddiadau eraill ar bynciau crefyddol neu ddiwylliannol.

Cerddi am Norah Isaac

Llungopi o gerdd 'Nora' gan Gwenallt a gyflwynwyd i Norah Isaac wedi iddi actio mewn drama gan J. B. Priestly yn 1949; 'Yr olygfa fawr' gan Brinley Richards, 1979, wedi iddo weld y pwythau a gafodd yn dilyn ei llawdriniaeth yn Ysbyty Westminster, 1978; 'Wynebau' gan T. Glynne [Davies], 1981; englynion 'Merch y Llwybrau', [1985] gan [J.] Eirian Davies ; ffotograff o boster E. Meirion Roberts, [1987], yn cynnwys englyn T. H. Parry-Williams iddi; 'Cywydd i gyfarch Norah Isaac' (printiedig) gan T. Gwynn Jones, 1989; a 'Cyfarchion penblwydd i Norah Isaac', papur bro Cwlwm, Rhagfyr 1994.

Cerddi Caersallwg,

  • NLW MS 16306A.
  • file
  • 1849-1862 /

Llyfr poced masnachol, 1849-1862, yn cynnwys cerddi gan, ac yn llaw, W. J. Roberts ('Caersallwg'), dilledydd, Caernarfon, ynghyd â nodiadau ganddo yn ymwneud â dirwest. = Commercial pocket book, 1849-1862, containing poems by, and in the hand of, W. J. Roberts ('Caersallwg'), draper, Caernarfon, together with notes by him relating to temperance.

Roberts, W. J. (William J.).

Results 361 to 380 of 3783