Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1995-1999, rhwng Cymdeithas yr Iaith a nifer o westai, tafarnau, a bwytai yng Nghaerdydd yn trafod polisi iaith Gymraeg. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys datganiad i’r wasg (1996) oddi wrth y Gymdeithas.
Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1995-1996, oddi wrth Gymdeithas yr Iaith i nifer o fwytai a chaffiau yng Nghaerdydd, a darparwyr gwasanaethau draffordd, yn ymwneud â gweithredu polisi iaith Gymraeg.
Sgript 'Buchedd Dewi' gan Moelwyn Merchant gyda chyfieithiad Norah Isaac a chyfarwyddiadau llwyfan wedi'u hychwanegu ganddi. Fe'i perfformiwyd ar Ddydd Gŵyl Dewi 1976 yn Eglwys Llanddewi Brefi. Ceir hefyd nodiadau am wisgoedd y cymeriadau.
Drafftiau llawysgrif a theipysgrif o'i nofel gyntaf, adolygiadau o'r nofel a gyhoeddwyd yn 1993, ynghyd â llyfr lloffion, 1985-1988, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Gerallt Lloyd Owen ar ran Gwasg Gwynedd. Ceir llythyrau oddi wrth ddarllenwyr yn ei llongyfarch ar ysgrifennu'r nofel, adolygiadau o gylchgronau ac anerchiadau i gymdeithasau ar gefndir hanesyddol a daearyddol y nofel a nodiadau ar gyfer cyfweliad radio.
Llungopïau o sgôr 'Breuddwydion' (Dreams), trefniant ar gyfer unsain, gan Gilmor Griffiths, geiriau Cymraeg gan I. D. Hooson, geiriau Saesneg gan Gilmor Griffiths. Perfformiwyd am y tro cyntaf gan y tenor Bob Roberts o Henllan.