Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- [1931]-1993 (Creation)
Level of description
Fonds
Extent and medium
3 bocs bach (0.086 metrau ciwbig).
Context area
Name of creator
Biographical history
Yr oedd Tydfor Jones yn fardd a diddanwr a anwyd ar 2 Medi 1934 yn Nolwylan, Cwmtydu. Yr oedd yn unig blentyn i Evan George a Hetty Jones. Y mae ei enw yn gyfuniad o ‘Tydu’ a ‘môr’. Enw barddol ei Dad oedd ‘Sioronwy’ ac ef oedd y degfed o ddeuddeg plentyn fferm enwog y Cilie. Symudodd y teulu i fferm Y Gaerwen pan oedd Tydfor tua dwy flwydd oed.
Priododd Margaret Ann Jones (Ann Tydfor) ar 28 Mawrth 1978. Yr oedd yn aelod o‘r grŵp Adar Tydfor. Ef oedd yn gyfrifol am y sgriptiau a’r sgetsus gan gyfansoddi geiriau’r caneuon i gyd ac ef hefyd oedd arweinydd y noson. Roedd yn gyn gyfrannwr cyson i’r rhaglen radio ‘Penigamp’ ar ddechrau’r 1970au. Bu farw ar 20 Mehefin 1983 drwy ddamwain dractor ar ei fferm.
Archival history
Immediate source of acquisition or transfer
Mrs Mair Williams; Caernarfon; Rhodd; Chwefror a Rhagfyr 2019; 99915344702419.
Content and structure area
Scope and content
Papurau'r bardd Tydfor Jones, [1931]-1993, yn cynnwys ei gerddi cynnar, cerddi'r gyfrol Rhamant a hiwmor a Tydfor a gyhoeddwyd yn 1993, ynghyd â phapurau'n ymwneud â Bois y Cilie, yn arbennig ei ewythr John (Tydu) Jones a ymfudodd i Ganada. = Papers of the poet Tydfor Jones, [1931]-1993, comprising his early poems, poems for Rhamant a hiwmor a Tydfor published in 1993, together with papers relating to Bois y Cilie, especially his uncle John (Tydu) Jones who emigrated to Canada.
Appraisal, destruction and scheduling
Accruals
System of arrangement
Trefnwyd yn bedair cyfres yn LlGC: Cerddi, Rhamant a hiwmor Tydfor, Y Gaerwen a Bois y Cilie.
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Conditions governing reproduction
Amodau hawlfraint arferol.
Language of material
Script of material
Language and script notes
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Mae’r dyddiad creu olaf wedi iddo farw, oherwydd ceir papurau yn ymwneud â chyfrol o’i farddoniaeth a gyhoeddwyd ddeng mlynedd ar ôl ei farwolaeth.
Alternative identifier(s)
Alma system control number
Access points
Subject access points
Place access points
Name access points
- Jones, Tydfor- -- Archives (Subject)
Genre access points
Description control area
Description identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Status
Level of detail
Dates of creation revision deletion
Chwefror 2020.
Language(s)
Script(s)
Sources
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r catalog: Ann Tydfor (golygydd), Rhamant a hiwmor Tydfor (Llandysul, 1993), Jon Meirion Jones, Teulu'r Cilie (Llandysul, 1999) a 'Colli Ann Tydfor yn 80 oed - y cysylltiad olaf â beirdd y Cilie' ar wefan Golwg 360 [https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/534869-colli-tydfor-cysylltiad-olaf-beirdd-cilie, gwelwyd 14 Ionawr 2020].
Archivist's note
Lluniwyd gan Ann Francis Evans.