Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 1388 canlyniad

Disgrifiad archifol
Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Bathu geiriau a thermau

Papurau a nodiadau yn ymwneud â bathu geiriau a thermau, ynghyd â nodiadau am waith cyfieithu. Ceir rhestrau geiriau a thermau Urdd y Graddedigion / adrannau Prifysgol Cymru ar gyfer amaethyddiaeth; ffiseg, mathemateg a seryddiaeth; a choginio ymhlith y papurau.

Beibl teuluol

Beibl teuluol J. T. ac Elizabeth Rees, Bronceiro, yn cynnwys cofnodion achyddol. Y cofnod olaf a nodwyd yw marwolaeth Ceredig Phillips Rhys yn 2015.

Beth yw'r seren dlos,

Llawysgrif a llungopi o sgôr gyda geiriau o 'Beth yw'r seren dlos?', alaw gan Gilmor Griffiths, geiriau 'Aur Thys a Myrr' gan Dorothy Jones.

Betsan,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Clychau Glas' gan E. Llwyd Williams i'r gainc 'Betsan'.

Boed mawl i ti,

Sgôr mewn llawysgrif a llungopïau o'r alaw 'Boed mawl i ti' mewn dau wahanol gywair, i S.A. gan Gilmor Griffiths, geiriau gan James Arnold Jones.

'Bois y Cilie'

Sgript gan T. Llew Jones a luniodd ar gyfer rhaglen y Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi 1976. Yr oedd Tydfor yn un o'r llefarwyr.

Breintlythyrau a dogfennau swyddogol

Mae'r bocs yn cynnwys casgliad o Freintlythyrau [Letters patent], tystysgrifau a llythyrau cymeradwyaeth T. Ifor Rees sy'n cwmpasu ei yrfa ddiplomyddol, sy'n cynnwys ei benodiad cyntaf fel Is-gonswl Feneswela yn 1914 hyd at ei benodiad yn Llysgennad yn La Paz yn 1947.

Breuddwydio,

Llungopi o sgôr 'Breuddwydio' ar gyfer unsain, gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Dorothy Jones.

Breuddwydion,

Llungopïau o sgôr 'Breuddwydion' (Dreams), trefniant ar gyfer unsain, gan Gilmor Griffiths, geiriau Cymraeg gan I. D. Hooson, geiriau Saesneg gan Gilmor Griffiths. Perfformiwyd am y tro cyntaf gan y tenor Bob Roberts o Henllan.

Bro Meirion,

Llungopi o osodiad Gilmor Griffiths o eiriau 'Nythod y Brain', Isfoel, i'r alaw 'Bro Meirion' gan E. G. Griffiths, Blaenau Ffestiniog.

Bro Meirion,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Hen ŵr bychan a dwy ŵydd dew' i'r alaw 'Bro Meirion' gan E. G. Griffiths, Blaenau Ffestiniog.

Bro Meirion,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Gwenoliaid', gan B. T. Hopkins i'r alaw 'Bro Meirion' gan E. G. Griffiths, Blaenau Ffestiniog.

Canlyniadau 101 i 120 o 1388