Showing 6 results

Archival description
Papurau John Ellis Williams Series
Print preview View:

Toriadau papur newydd amrywiol

Mae'r gyfres yn cynnwys llyfrau lloffion, 1912-1974, yn bennaf o doriadau papur newydd o erthyglau John Ellis Williams, adolygiadau o'i ddramâu, ac erthyglau yn ymwneud â'i weithiau llenyddol, ei gwmni drama, ei rôl fel prifathro a'i ymddeoliad, ynghyd â'i raglenni radio a theledu. Mae'r llyfrau lloffion hefyd yn cynnwys llythyrau oddi wrth ffigyrau amlwg yn y byd llenyddol Cymreig ynghylch gweithiau John Ellis Williams, rhaglenni cystadlaethau a gwyliau drama lle defnyddir dramâu John Ellis Williams neu ei fod yntau'n beirniadu; ffotograffau o'i ddramâu a ffotograffau personol.

Taith y Pererin

Mae'r gyfres yn cynnwys toriadau papur newydd yn ymwneud â chynhyrchiad cwmni drama John Ellis Williams ym Mlaenau Ffestiniog o Taith y Pererin, 1933-1934. Ceir hefyd raglen y cynhyrchiad a phoster hysbysebu, [1934].

Yr Herald Cymraeg

Mae'r gyfres yn cynnwys ffeiliau o doriadau papur newydd o'i golofnau a'i erthyglau yn Yr Herald Cymraeg, o 1946 hyd at ei farwolaeth ar 7 Ionawr 1975.

The Leader

Mae'r gyfres yn cynnwys toriadau papur newydd o'i golofnau a'i erthyglau yn The South Caernarvon & Merioneth Leader (Yr Arweinydd), 1947-1953.

Y Rhedegydd

Mae'r gyfres yn cynnwys dwy gyfrol o rifynnau'r papurau newydd Y Rhedegydd, 1950-1951, yn ystod y cyfnod y bu John Ellis Williams yn olygydd y papur.

Drafftiau

Mae'r gyfres yn cynnwys drafftiau o ddwy gyfrol nas cyhoeddwyd sef 'Drama', 1936, a 'Byd y Ddrama', [1973].