Showing 3 results

Archival description
Davies, Aneirin Talfan Welsh
Print preview View:

Thomas Gwynn Jones: Cofiant,

Papurau ymchwil a ffynonellau gwreiddiol, 1913-1984, yn ymwneud â chyfrol David Jenkins, Thomas Gwynn Jones: Cofiant (Dinbych, 1973), gan gynnwys cerdyn, 1949, oddi wrth weddw T. Gwynn Jones yn diolch i Dr David Jenkins am ei eiriau o gydymdeimlad; rhannau o lawysgrif y gwaith; dyfyniadau o ohebiaeth ac erthyglau; llungopïau o lawysgrifau Bangor; nodiadau gan Francis Wynn Jones, mab yng nghyfraith T. Gwynn Jones; ynghyd â chopi o anerchiad y Parchedig W. Ffowc Evans ar achlysur dadorchuddio'r dabled goffa i T. Gwynn Jones ym Metws-yn-Rhos, 1958. Ceir hefyd anerchiad, Dr David Jenkins, [1971], adeg dathlu canmlwyddiant geni T. Gwynn Jones; a llythyrau, 1972 a 1984, oddi wrth Dr Iorwerth Hughes Jones. Ymhlith y deunydd gwreiddiol mae cerddi 'Y Dynged', 1941-1942, yn llaw T. Gwynn Jones, gyda llythyr, 1941, oddi wrtho at 'Ap Talfan' [Aneirin Talfan Davies] a dau lythyr, 1971 a 1972, at Dr David Jenkins oddi wrth Aneirin Talfan Davies. Bwriadwyd cynnwys y cerddi mewn blodeugerdd o gerddi modern ond ni ddigwyddodd hyn. Ceir llythyr hefyd, [19]13, oddi wrth Ca[dwala]dr Jones, Cwm Penmachno, at ei nai T. Gwynn Jones ac ysgrif ar y llenor gan Silyn Roberts, [cyn 1930].

Davies, Aneirin Talfan

Llythyrau,

Llythyrau, [1936]-[1946], 1992, oddi wrth Aneirin [Talfan Davies] (10), Keidrych [Rhys] (6), ynghyd â'i ddatganiad yn nodi'i safiad yn erbyn y rhyfel ac mae'n gwrthod ymladd 'under the present conditions', [1941]-[1945] ac Alun Llywelyn-Williams (2) ac eraill. Yn eu plith hefyd mae llythyrau oddi wrth ei noddwraig Mrs Fitzgerald. Ceir Cylchlythyr yr Academi, Haf 1992, yn cyfeirio at Arddangosfa o fywyd a gwaith Pennar Davies a gynhaliwyd ym Mhrifiysgol Abertawe.

Davies, Aneirin Talfan

Llythyrau at Saunders Lewis

  • NLW MS 23918E.
  • File
  • 1908-1978

Papurau, gan gynnwys un llythyr ar bymtheg, 1933-1978, a ddarganfyddwyd yn rhydd y tu mewn i gyfrolau o lyfrgell Saunders Lewis. = Papers, including sixteen letters, 1908-1978, found loose inside volumes from the library of Saunders Lewis.
Maent yn cynnwys llythyrau at Lewis oddi wrth Sir John Herbert Lewis, 1933 (f. 1), Edouard Bachellery, 1950-1951 (ff. 2-4, yn trafod ei lyfr L'oeuvre Poetique de Gutun Owain (Paris, 1950, 1951)), Tony Conran, 1961 (f. 7), Gareth Alban Davies, 1964 (f. 8), Aneirin Talfan Davies, 1969-1970 (ff. 9-10 verso), R. Brinley Jones, 1970 (f. 11), Donatien Laurent, 1975 (f. 14), a Michael T. Davies, 1977 (f. 15). Mae yna hefyd nodiadau amrywiol, 1908-[?1971], yn llaw Saunders Lewis (ff. 18-27), gan gynnwys nodiadau ar G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948) a G. J. Williams, Iolo Morganwg: Y Gyfrol Gyntaf (Caerdydd, 1956) (ff. 22-25), a Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan Ap Tudur Penllyn, gol. gan Thomas Roberts (Caerdydd, 1958) (f. 27). = They include letters to Lewis from Sir John Herbert Lewis, 1933 (f. 1), Edouard Bachellery, 1950-1951 (ff. 2-4, commenting extensively on his own L'oeuvre Poetique de Gutun Owain (Paris, 1950, 1951)), Tony Conran, 1961 (f. 7), Gareth Alban Davies, 1964 (f. 8), Aneirin Talfan Davies, 1969-1970 (ff. 9-10 verso), R. Brinley Jones, 1970 (f. 11), Donatien Laurent, 1975 (f. 14), and Michael T. Davies, 1977 (f. 15). Also included are miscellaneous manuscript notes, 1908-[?1971], by Saunders Lewis (ff. 18-27), including notes on G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Cardiff, 1948) and G. J. Williams, Iolo Morganwg: Y Gyfrol Gyntaf (Cardiff, 1956) (ff. 22-25), and on Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan Ap Tudur Penllyn, ed. by Thomas Roberts (Cardiff, 1958) (f. 27).

Lewis, J. Herbert (John Herbert), Sir, 1858-1933