Showing 164 results

Archival description
Archif Plaid Cymru, File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Pamffledi Heddychwyr Cymru

Copïau o bamffledi o'r gyfres gyntaf: (9) George M. Ll. Davies, 'Gandhi a chenedlaetholdeb India', [c.1942]; (10) Tom Parry, 'Tystiolaeth y tadau', [d.d.]; o'r ail gyfres: (10) Davies Aberpennar, 'Ffederaliaeth', [c.1944?]; (11) J. Gwyn Griffiths, 'Anarchistiaeth', [d.d.]; (12) Iorwerth C. Peate a R. J. Jones, 'Cenhadon Hedd II' [S.R. a Thomas Rees], [d.d.]; a'r drydedd gyfres: (2) J. Lloyd Jones, 'Diffodd y golau', [d.d.]; (3) Rhys J. Davies AS, 'Rhagrith rhyfeloedd', [post 1944]; (5) Iorwerth Jones, 'Satyagraha: grym di-drais', [d.d.]; (6) Dr E. K. Jones, 'Heddychwyr wrth eu gwaith', [d.d.]; a (7) D. E. Williams, 'Homiliau heddwch', [d.d.].

Lythyrau a memoranda

Lythyrau a memoranda yn ymwneud â chwynion a gwleidyddiaeth mewnol, gan gynnwys symud yn erbyn grŵp New Nation, 1964; sylwadau Dan Thomas, Trysorydd, ar femorandum Ray Smith, d.d. [gweler, efallai, memorandum R.S., trefnydd De Cymru, yn beirniadu trefniannau mewnol y Blaid, 1963, yn *Amryw Nans Jones, 1955-1993]; a thriniaeth Pedr Lewis, trefnydd llawn-amser, 1966-1967.

Llythyrau i Nans Jones

Llythyr a chardiau post i Nans Jones, gan gynnwys oddi wrth Kate Roberts yn gofyn am gyfeiriad newydd Noëlle Davies, 1959; D. J. Williams ar farwolaeth ei wraig, 1965; Gwynfor Evans, 1967, a Cyril a Pegi, 1968, ar ei hymddeoliad; Cassie Davies yn trefnu cwrdd yng Nghapel Heol y Crwys yn y gwasanaeth i ddiolch am J. E., 1970; Gwenan Jones o Aberystwyth, 1970; Dilys o Fangor [Dilys Jones?], 1970; cerdyn Nadolig oddi wrth Eamon de Valera, 1971; Noëlle Davies o Co. Wicklow, 1972; Enid ar farwolaeth ei chwaer Pegi, 1976; cerdyn Nadolig oddi wrth Gwynfor Evans a Rhiannon, [d.d.]; Alun o Gaerfyrddin [D. Alun Lloyd?], [dim blwyddyn].

Llofnodion a llawysgrifau

Casgliad o lofnodion bras casglwyd gan Nans Jones, 'yr wyf yn ceisio gwneud "traycloth" gydag enwau aelodau'r Blaid arno i'w rafflo yn yr Ysgol Haf', gan gynnwys Trefor Beasley, W. Ambrose Bebb, J. Kitchener Davies, Gwynfor Evans, Gwenan Jones, J. E. Jones, Nans Jones, Saunders Lewis, Kate Roberts, O. M. Roberts, Lewis Valentine a D. J. Williams, [pre-1952]. Hefyd saith darn o ryddiaith neu farddoniaeth mewn llawysgrif wedi'u llofnodi, sef 'Adnabod Duw' gan D. Tecwyn Evans, 'I Gymru hon' gan Gwenan Jones, 'Cân y Cwteri' gan Wil Ifan, 'Y llwybr arian' gan E. Tegla Davies, 'Afradlondeb' gan Davies Aberpennar, 'Y Graith (Pen. XVIII)' gan Elena Puw Morgan, a 'Ffair Wragedd' gan T. Hudson-Williams, [c.1954].

Results 21 to 40 of 164