- 1-48.
- Series
- 1908-17.
Part of Papurau Kate Roberts
20 results with digital objects Show results with digital objects
Part of Papurau Kate Roberts
Llythyr oddi wrth May [ ? ], yn Llundain,
Part of Papurau Kate Roberts
Hanes ymweliad ag arddangosfa yn Llundain. Gellir gwario £20 y dydd yno. Bwriada weld arddangosfa o dân gwyllt. Sôn am ei bwriad i newid ysgol. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth Enid [Stanley Jones][= Mrs D J Davies, Capel Als, Llanelli], ym Mhorth,
Part of Papurau Kate Roberts
Cafodd bythefnos o wyliau yn Llanwrtyd. Bu'n chwarae llawer o denis a bu'n hwylio ar y llyn. Aethant oddi yno i Gil-y-cwm i arddwest yr etifedd yn dod i oed. Mae'n aros gydag ewyrth yn y Porth. Mae ganddi wyth o gefndryd yno. Trafod sut y mae hi'n gwisgo ei gwallt. Mae'n bwriadu cael tynnu ei llun yno. Mae ei hoff gefnder, Richie, wedi cyrraedd Cape Town yn ddiogel. Mae streiciau rheilffyrdd, dociau a phyllau glo yn Ne Cymru. Nid oes sicrwydd os bydd trên iddi ddychwelyd adref. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth Dafydd Elis, yng Nghorwen,
Part of Papurau Kate Roberts
Yr oedd KR yn iawn i agor y parsel. Nid oes awydd gwaith arno. Bwriada fwynhau ei hunan tra ei fod adref o'r Coleg. Mae am anfon cerdyn ati pan fyddant yn barod. Achosodd y cardiau hwyl fawr tua'r Coleg. [Ceir hanes y cardiau Nadolig hyn mewn erthygl a gyhoeddwyd gyntaf gan KR yn Taliesin, cyf. 11 (1965), tt 15-27. Ailgyhoeddwyd yr erthygl yn David Jenkins (gol.), Erthyglau ac Ysgrifau Llenyddol Kate Roberts (Abertawe, 1978), tt 155-67 yn dwyn y teitl "David Ellis: Bardd a Gollwyd". Buasai KR a Dafydd Ellis yn gyfrifol am anfon hanesion Coleg y Gogledd i'r Brython ar gais Ifor Williams. "Penderfynasom ofyn am anrheg gan gwmni'r Brython ar ddiwedd y chwarter cyntaf, chwarter Nadolig 1912, sef ychydig o gardiau Nadolig preifat Cymraeg ... bu cwmni'r Brython yn ddigon caredig i roi inni ddwsin. Yr oedd yn beth mawr inni yn 1912 gael cardiau a'n henwau ni ein hunain wedi eu hargraffu arnynt. Anfonwyd samplau inni i'r Coleg, ond daeth y parsel wedi i David Ellis fyned adref ar y gwyliau, a minnau'n aros ymlaen i wneud ymarfer dysgu yn un o ysgolion Bangor. Agorais y parsel a gwneud fy newisiad fy hun, a'i anfon ymlaen iddo yntau wedyn." (David Jenkins, op.cit., tt 158-9).
Llythyr oddi wrth David Ellis, Penyfed, Corwen,
Part of Papurau Kate Roberts
Cerdyn Nadolig personol. Printiedig.
Llythyr oddi wrth J. C. W[illiams], Plaistow, Llundain,
Part of Papurau Kate Roberts
Diolch am lythyr. Cafodd lawer pwl o hiraeth. Mae wedi bod yn sefyll arholiad y Central Midwives Board ac wedi bod yn llwyddiannus. Mae rheolau'r ysbyty yn gaeth iawn. Mae'n mynychu capel Cymraeg Stratford bron bob Sul. Gwelodd un claf yn dioddef o'r gwahanglwyf. Sôn am gleifion o Rwsia a'r Is-Almaen hefyd. Mae trigolion y cartref nyrsus yn Dorïaidd ac Ucheleglwysig ac yn elynion i Lloyd George. Oddi allan i'r ysbyty y mae yna lawer o dlodi a diweithdra.
Llythyr oddi wrth Gwen [ ? ], yn Aberystwyth,
Part of Papurau Kate Roberts
Trefnu i anfon llun. Cafwyd storm arw o fellt a tharanau y noson gynt. Sôn am ei harholiadau. Cofion at ei chydnabod yng Ngholeg y Gogledd, Bangor.
Llythyr oddi wrth K. Pugh, yn Aberystwyth,
Part of Papurau Kate Roberts
Diolch am lythyr a'i gynnwys. Ymddiheuro na fu iddi ymateb ynghynt. Cerdyn post. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth D[afydd] E[lis], [Penyfed, Corwen], CPGC Bangor,
Part of Papurau Kate Roberts
Nid oes llawer o awydd gweithio arno. Bu'n darllen rhai o gywyddau yr hen feirdd. Mae un cwpled wedi aros ar ei gof:. "Ofer yw byw yn y byd. Un ni welo'i anwylyd". Bu wrth y pentan dros y Pasg heb fynychu unrhyw oedfa. Ond bu yn y dre yn gwrando ar gôr yn perfformio "The Creation". Mae R. J. Jones yn dod i aros atynt dros y Sul gan ei fod yn pregethu yn eu capel hwy. Bydd yn disgwyl bod KR wedi ysgrifennu "haid o straeon" ar gyfer ei ddifyrru yn ystod y tymor dilynol. Cyhoeddwyd y llythyr hwn yn David Jenkins, op.cit., tt 159-60.
Llythyr oddi wrth R. L. Archer, Athro Addysg, CPGC Bangor,
Part of Papurau Kate Roberts
Tystlythyr yn cymeradwyo Kate Roberts ar gyfer swydd athrawes. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth M. Williams (Hyfforddwraig Gwnïo), CPGC Bangor,
Part of Papurau Kate Roberts
Tystlythyr yn nodi bod KR wedi cwblhau cwrs wyth mis o wnïo yn y Coleg. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth Hughie [Williams], ym Mryn-mawr (at 'Mrs. Roberts'),
Part of Papurau Kate Roberts
Mae'n anfon rhai pethau ati, os nad oes eu hangen gall eu taflu i ffwrdd. Mae'n dal i hoffi'r dre a'r gwaith yn y banc ond hoffai symud yn nes at sir Fôn gan iddo fod yn Ne Cymru am 71/4 o flynyddoedd.
Llythyr oddi wrth J[ohn] Morris-jones, CPGC Bangor,
Part of Papurau Kate Roberts
Tystlythyr yn cymeradwyo KR ar gyfer dysgu Cymraeg. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth [Dafydd Elis], Penyfed, Ty Nant, Corwen,
Part of Papurau Kate Roberts
Bu'n gweithio'n galed yn y caeau o chwech y bore tan saith yr hwyr a bu'n rhy flinedig i ysgrifennu. Cafodd freuddwyd am KR. Ni chafodd lawer o hanes eu cydfyfyrwyr. Mae'n llongyfarch KR ar ei llwyddiant tua'r Coleg. Mae'n gofyn os yw hi'n bwriadu dychwelyd i ddysgu yn Llanberis. Disgrifia ei gartref fel "lle di-enaid, di-eneth". Cafodd gip ar Cissie Owen, gynt o Ysgol Sir Caernarfon ac yr oedd yn cofio at KR. Cyhoeddwyd y llythyr hwn yn David Jenkins, op.cit., tt 160-1.
Llythyr oddi wrth Apo[lonia Evans née Griffith], yn Llanbedrog,
Part of Papurau Kate Roberts
Mae'n mynd adref ddydd Sadwrn am bythefnos. Tro Kate Roberts yw hi i ysgrifennu ond fe wnaiff hi ysgrifennu ar ôl cyrraedd. Cerdyn post. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth D[afydd] Ellis, ym Mae Colwyn,
Part of Papurau Kate Roberts
Ni chlywodd oddi wrth KR am gyfnod hir. Clywodd iddi fod yn canu mewn "sosial tîs". Ar ôl gadael ysgol Dinmael bu yn Llangollen yn dysgu plant hygar. Bellach, cafodd ei ysgubo i Fae Colwyn ac y mae'n gorfod dysgu hanner cant o blant o dosbarth arall yn rhannu'r un ystafell. Mae'r athro arall ac yntau yn gweiddi ar y plant fel dau arwerthwr. Mae'r plant yn wyllt iawn hefyd. Mae'n cynnwys englyn o'i waith sydd yn crisialu ei brofiad yno. Mae arno hiraeth am Goleg Bangor. Cyhoeddwyd y llythyr hwn yn David Jenkins, op.cit., tt 161-2.
Llythyr oddi wrth J. E. Jones, Prifathro Ysgol Dolbadarn, Llanberis,
Part of Papurau Kate Roberts
Tystlythyr yn canmol gwasanaeth Kate Roberts fel athrawes ddosbarth a goruchwyliaeth y gwersi gwnïo yn Ysgol y Cyngor Dolbadarn, Llanberis. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth Dei [Dafydd] Ellis, [Bangor],
Part of Papurau Kate Roberts
"Cywydd diolch i 'Kate' am y fflur a dderbyniasai y bardd yn 'rhec' ganddi, Hydref 24:14.". Cyhoeddwyd y cywydd hwn yn David Jenkins, op.cit., t 163.
Llythyr oddi wrth P[aul] Diverres, ym Margoed,
Part of Papurau Kate Roberts
Awgrymu llyfr ar ddysgu Llydaweg i Kate Roberts. Ceir cyfeiriad at M. Vallée, St Brieuc, y gramadegydd Llydaweg. Dylai ysgrifennu, yn Gymraeg, at M. P. Mocaer, Brest. Ni ddylai brynu geiriadur ar hyn o bryd gan eu bod yn annibynadwy a bod un gwell i'w gyhoeddi wedi'r Rhyfel Mawr. Mae'n esbonio'r gwahaniaethau rhwng y pedair tafodiaith Lydewig. Beirniadu llyfr y Parch Percy Treasure ar ddysgu Llydaweg. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth 'Dei' [Dafydd Elis], ym Mae Colwyn,
Part of Papurau Kate Roberts
Cerdyn Nadolig. Printiedig. Saesneg/English.