Dangos 2178 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau T. H. Parry-Williams ac Amy Parry-Williams, Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

'Y Ddinas',

Buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bangor, 1915:. D10: Llyfr ysgrifennu; pensel, gyda nodiadau a newidiadau pensel, 11 Mai 1914. D11: Llyfr ysgrifennu; inc, gyda nifer bychan o newidiadau pensel. D12-42: Llythyrau (31), 1963, oddi wrth gyfeillion ac ysgolheigion, yn cydnabod derbyn copi o adargraffiad preifat o Y Ddinas (Llandysul, 1962). Ymhlith y gohebwyr amlycaf mae Glyn Ashton (D12), E. Gwyndaf Evans (D14), Idris Ll. Foster (D15), Ll. Wyn Griffith (D16), Ll. Bruce Griffiths (D17), Mathonwy Hughes (D18), David Jenkins (D20), Gwilym R. Jones (D21), John Gwilym Jones, Y Groeslon (D24), D. Tecwyn Lloyd (D27), 'Meuryn' [Robert John Rowlands] (D29), Iorwerth C. Peate (D31), Brinley Rees (D33), T. Ifor Rees (D34), Goronwy Roberts (D35), Ben Bowen Thomas (D36), Alun Llywelyn-Williams (D39), J. E. Caerwyn Williams (D40), Stephen J. Williams (D42).

Y Deyrnas,

O10: Mawrth 1917. 'Jerusalem, Jerusalem ... ', t. 1. O11: Hydref 1917. 'Duw ar Fawrth', t. 9. O12: Chwefror 1919. 'I Gi', t. 37; ynghyd â thudalen 399 o John O' London's Weekly, 25 Rhagfyr 1920, yn cynnwys y cyfieithiad Saesneg, 'To a Dog'.

Canlyniadau 2061 i 2080 o 2178