Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 2018 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau T. H. Parry-Williams ac Amy Parry-Williams, Ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

'Carmen' (Bizet),

Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth, 1952. I113: Llythyrau (25), 1952, oddi wrth W. H. Smith ac M. E. Moreland, Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, yn ymwneud â'r cyfieithiad; ynghyd â drafft llawysgrif o un tudalen o'r cyfieithiad. I114: Llythyr, 10 Mai 1958, oddi wrth A. G. Lloyd, Pwyllgor y Cyhoeddiadau, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, yn ymwneud â chyfieithu 'Cân y Toreador' o Carmen ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy, 1958; ynghyd â chopi teipysgrif o'r cyfieithiad, gyda nodiadau yn llaw THP-W. I115: Drafft inc ('copi glân, ysgrifenedig'), o'r Corawdau, 19 tt. I116: Dau gopi teipysgrif llawn o'r Corawdau, 26 tt. I117: Tri chopi teipysgrif o Act I, ac un copi teipysgrif o Act IV, Corawdau yn unig, 18 tt. I118: Copi teipysgrif, ynghyd â nodiadau, 46 tt; 'Synopsis of "Carmen"', teipysgrif; a 'Braslun o Stori "Carmen"', yn llaw THP-W, 2 tt. I119: Copi teipysgrif ('Solos, Duets, &c. All except choruses'), 47 tt. I120: Llythyr, 13 Mehefin 1960, oddi wrth John Roberts, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Eisteddfod Genedlaethol, yn amgáu copi teipysgrif o'r cyfieithiad, 48 tt. I121: Llythyr, 4 Chwefror 1982, oddi wrth Margaret E. Moreland, Opera Cenedlaethol Cymru, at AP-W, yn amgáu llungopïau a theipysgrif o'r cyfieithiad o Archifau'r Cwmni Opera, 62 tt.

Carolau,

Ffeil yn cynnwys carolau (llawysgrifau, teipysgrifau, llungopïau), gan gynnwys 'Carol natur', 'Fy maban, cwsg yn ddiddos', 'Carol Calypso', 'Canwn oll â llawen lef', 'Chwilio am lety', 'Carol y Cowboi', 'Dewch fugeiliaid' a 'Drwy'r dwfn dawelwch'. Ynghyd â chopïau o Man: a monthly record of anthropological science, rhifyn Mehefin 1935, yn cynnwys Iorwerth C. Peate, 'A Welsh Wassail-Bowl: with a Note on Mari Lwyd'; a rhifyn Mai-Mehefin 1943, yn cynnwys Iorwerth C. Peate, 'Mari Lwyd: a suggested explanation'.

Canlyniadau 221 i 240 o 2018