Papurau'r Cyfarfod Blynyddol: 1990
- CSP3/9
- ffeil
- 1990
Papurau'r Cyfarfod Blynyddol: 1990
Papurau'r Cyfarfod Blynyddol: 1992
Papurau'r Cyfarfod Busnes: 1978
Papurau'r Cyfarfod Cyffredinol
Mae'r gyfres hon yn cynnwys papurau'r Cyfarfodydd Cyffredinol; agenda, cofnodion, adroddiadau a pheth gohebiaeth berthynol.
Heb deitl
Papurau'r Cyfarfod Cyffredinol: 1989
Mae'r gyfres hon yn cynnwys papurau'r Grwpiau Rhanbarthol; agenda, cofnodion, adroddiadau a rhai llythyrau perthynol.
Heb deitl
Mae'r gyfres yn cynnwys papurau'r Pwyllgor Hanes Llenyddiaeth; adroddiadau a gohebiaeth berthynol yn bennaf.
Heb deitl
Pwyllgor Staffio yr Ochr Gymraeg
Mae'r gyfres yn cynnwys cofnodion y Pwyllgor Staffio a rhai papurau perthynol.
Heb deitl
Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth yn trafod sefydlu'r Academi Gymreig dan ysgrifenyddiaeth a chadeiryddiaeth dros dro Bobi Jones a Thomas Parry, ac yn cynnwys trafodaeth ar natur ac aelodaeth wreiddiol yr Academi, gwahoddiadau i ymuno â hi ac ymatebion y rhai a wahoddwyd, ynghyd â llungopïau o'r ymateb a fu i'r newyddion yn y wasg. Mae'r llenorion dan sylw yn cynnwys Gwenallt, Gwilym R. Jones, J. Gwyn Griffiths, Waldo Williams, Islwyn Ffowc Elis, Kate Roberts, Euros Bowen, Aneurin Talfan Davies, Alun Llywelyn-Williams, Elis Gwyn Jones, Emyr Humphreys, R. S. Thomas, John Gwilym Jones a Pennar Davies. Ar gefn drafft o lythyr gan Bobi Jones mae copi o eirda a roddwyd iddo gan Griffith John Williams ym 1952.
Jones, Bobi, 1929-2017
Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Bobi Jones, ynghyd â sylwadau ar gyhoeddi Taliesin. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; D. Myrddin Lloyd, T. H. Parry-Williams, John Gwilym Jones, R. Gerallt Jones a J. E. Caerwyn Williams.
Jones, Bobi, 1929-2017
Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Euros Bowen, a threfniadau Cynhadledd Caredigion Taliesin yn benodol, ynghyd â sylwadau ar gyhoeddi Taliesin. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; J. E. Caerwyn Williams, R. S. Thomas, Islwyn Ffowc Elis a Gwenallt. Ceir cyfeiriadau at roi Gwobr Griffith John Williams i Gwaed Gwirion, Emyr Jones, yn ogystal â chyfeiriadau Tecwyn Lloyd at rai o helyntion is-etholiad Sir Gaerfyrddin, 1966 a llythyr oddi wrth Vernon Jones, athro yn Ysgol y Berwyn y Bala, yn cynnig y syniad, am y tro cyntaf, o enwebu Saunders Lewis ar gyfer Gwobr Nobel.
Bowen, Euros,
Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Gwyn Thomas. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; Rhydwen Williams, Gwynne Williams, Marion Eames ac R. Bryn Williams. Ceir cyfeiriadau at gyflwyno Gwobr Goffa Griffith John Williams i Saunders Lewis, yn 1968, am Cymru Fydd^ ac i J. G. Williams, yn 1970, am Pigau'r Ser.
Thomas, Gwyn, 1936-
Gohebiaeth gyffredinol: 1975-1978
Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd. Mwyafrif yr ohebiaeth yw llythyrau at, ac oddi wrth, y Cadeirydd, Bobi Jones, yn trafod y newidiadau cyfansoddiadol a gynigiwyd ganddo a'r syniad o ddefnyddio Bodiwan, Y Bala, fel canolfan i'r Academi.
Jones, Bobi, 1929-2017
Gohebiaeth gyffredinol: 1979-1987
Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth rhwng swyddogion cyflogedig a swyddogion etholedig yr Academi Gymreig, 1979-1987, ac yn adlewyrchu eu gweithgraedd o ddydd i ddydd.
Gohebiaeth gyffredinol: Undeb Awduron Cymru a'r Writer's Guild of Great Britain
Undeb Awduron Cymru
Gohebiaeth gyffredinol: 1983-1986
Gohebiaeth gyffredinol: Geraint Gruffydd
Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth rhwng yr Athro Geraint Gruffydd, y Cadeirydd, a'r swyddogion cyflogedig, sy'n adlewyrchu peth o weithgaredd yr Academi o ddydd i ddydd rhwng 1986 a 1988.
Gruffydd, R. Geraint
Gohebiaeth gyffredinol: 1987-1988
Mae'r ffeil hon yn cynnwys gohebiaeth gyffredinol sy'n adlewyrchu gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan gadeiryddiaeth yr Athro Geraint Gruffydd, 1987-1988. Mae'n cynnwys cryn dipyn o ohebiaeth yn trafod y gwaith ar Eiriadur yr Academi, achos R. S. Thomas yn erbyn y Cyhoeddwr Christopher Davies, adroddiad manwl ar Gynllun Ymchwil yr Academi a gyhoeddwyd yn Ionawr 1988 a datganiadau bod J. Beverly Smith a Ray Evans wedi ennill Gwobr Goffa Griffith John Williams ar gyfer 1986 am eu cyfrolau Llywelyn ap Gruffydd Tywysog Cymru a Y Llyffant.
Gruffydd, R. Geraint