Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- 1958-1998 / (Creation)
Level of description
Fonds
Extent and medium
2.552 metrau ciwbig (88 bocs / boxes); 1 bocs mawr (Mehefin 2009); 13 bocs mawr (Gorffennaf 2013); 2 focs mawr (Hydref 2013)
Context area
Name of creator
Administrative history
Er i'r syniad o sefydlu cymdeithas genedlaethol i lenorion Cymru gael ei drafod cyn 1939 fe gododd ei ben eto rhwng 1956 a 1958 mewn sgyrsiau rhwng Bobi Jones a Waldo Williams. Ar ôl i'r ddau drafod nifer o enwau posibl gwahoddwyd cnewyllyn o lenorion i Westy'r Marine, Aberystwyth, ar 3 Ebrill 1959 i drafod y syniad o sefydlu Yr Academi Gymreig. Yn enw Bobi Jones y gyrrwyd y gwahoddiadau gwreiddiol a hynny at Kate Roberts, Gwenallt, Waldo, Aneirin Talfan Davies, Pennar Davies a Thomas Parry. Awgrymodd yr hanner dwsin hyn y dylid ychwnaegu enwau Euros Bowen, Islwyn Ffowc Elis, Alun Llywelyn-Williams a John Gwilym Jones at y rhestr. Ystyriwyd y cyfarfod cyntaf hwnnw, a'r ail ar 5 Medi 1959, yn gyfarfodydd 'rhag-bwyllgor' i'r Academi Gymrieg, cymdeithas gyfyngedig o bedwar ar hugain o lenorion. Yng Ngwesty'r Parc, Caerdydd y cynhaliwyd cyfarfod swyddogol cyntaf yr Academi Gymreig a hynny ar 22 a 23 Ebrill 1960. Yn y cyfarfod cyntaf hwn yr etholwyd G. J. Williams yn llywydd, Iorwerth Peate yn gadeirydd, Bobi Jones yn ysgrifennydd a Gwilym R. Jones yn drysorydd. Yn yr un cyfarfod penderfynwyd sefydlu'r cylchgrawn Taliesin dan olygyddiaeth Gwenallt.
Dewiswyd yr enw 'Cymreig' yn hytrach na 'Chymraeg' oherwydd bod y rhai a oedd yn y 'rhag-bwyllgor' cyntaf oll yn awyddus i weld yr Academi, unwaith y byddai wedi cael ei thraed dani, yn mynd i gyfeiriadau eraill gan gynnwys croesawu llenorion Saesneg Cymru i'w rhengoedd. Ni ddigwyddodd hynny am bron i ddeng mlynedd. Ar 10 Ebrill 1968 y cafwyd cyfarfod ar y cyd â nifer o lenorion Eingl-Gymreig yn Abertawe pryd y penderfynwyd y byddid yn sefydlu adran iaith Saesneg i'r Academi ond gan gadw'r enw Academi Gymreig gan nad oedd modd ei gyfieithu i'r Saesneg.
Dau weithgaredd cyntaf yr Academi oedd cynnal cynadleddau a sefydlu'r cylchgrawn Taliesin. Aethpwyd ymlaen i drefnu cyfres o gyfieithiadau i'r Gymraeg o glasuron Ewropeaidd, geiriadur Saesneg-Cymraeg yr Academi, a'r cynllun clasuron i drefnu ailgyhoeddi nifer o glasuron llenyddiaeth Gymraeg. Yn ogystal â hyn mae'r Academi'n trefnu gweithgareddau eraill megis nosweithiau i goffáu awduron, cynadleddau ac ymweliadau rhyngwladol, teithiau llenyddol, gwobrau a chystadleuthau a chyrsiau preswyl ar wahanol agweddau o ysgrifennu creadigol.
Parhaodd yr Academi yn gorff annibynnol ond dechreuodd dderbyn nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru tua 1977 a'i galluogodd i benodi staff llawn amser a gadarnhaodd y twf a fu yn ogystal â chychwyn cynlluniau newydd. Rhai a fu ynghlwm â gweinyddu'r ochr Gymraeg oedd Gwerfyl Pierce Jones, Gwynn ap Gwilym Ann Beynon a Sian Ithel.
Ym 1998 enillodd yr Academi y cytundeb gan Gyngor Celfyddydau Cymru i sefydlu Asiantaeth Lenyddiaeth Genedlaethol. Bellach mae'r Academi, ar ei wedd newydd ac ehangach, yn gweinyddu cynllun Awduron ar Daith Cymru, amrywiaeth o Gynlluniau Preswyl i awduron, prosiectau datblygu a Sgwadiau 'Sgwennu i Bobl Ifainc, ac mae'n cynnig cymorth i'r rhai hynny sy'n trefnu eu rhaglenni llenyddol eu hunain. Er mwyn cyflawni'r gwaith hwn mae gan yr Academi swyddfeydd yng Nghaerdydd a swyddogion maes sy'n gweithio yng Ngogledd a Gorllewin Cymru. Mae'r Academi yn hyrwyddo ei digwyddiadau ei hun ac yn cyhoeddi A470, cylchgrawn deufisol sy'n llawn newyddion llenyddol o bob cwr o Gymru. Mae'r Academi hefyd yn rhedeg cyrsiau, cystadlaethau (gan gynnwys Cystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol Caerdydd), cynadleddau, teithiau gan awduron, ymweliadau cyfnewid rhyngwladol, digwyddiadau ar gyfer ysgolion, darlleniadau, perfformiadau llenyddol a gwyliau ac mae'n cynrychioli buddiannau awduron Cymru ac ysgrifennu yng Nghymru o fewn ffiniau'r wlad a thu hwnt. Mae'n gweithio ar y cyd â Thŷ Newydd, y ganolfan breswyl i awduron ger Cricieth.
Mae rhaglen gyhoeddi'r Academi yn cynnwys Taliesin, cylchgrawn llenyddol chwarterol yn y Gymraeg, y New Welsh Review, prif gylchgrawn llenyddol Cymru yn Saesneg (ar y cyd â Chymdeithas Prifysgolion Cymru),yCydymaith i Lenyddiaeth Cymru a'r Oxford Companion to the Literature of Wales, Geiriadur yr Academi, ac amryw o gyfieithiadau. Gyda chefnogaeth y Loteri, mae'r Academi wrthi ar hyn o bryd yn gweithio ar y Gwyddoniadur Cymreig cyntaf, a fydd yn ymddangos yn y Gymraeg ac yn y Saesneg yn 2002.
Golygodd y datblygiadau hyn gryn dipyn o newidiadau yn strwythr yr Academi. Nid yw ei haelodaeth yn gyfyngedig i gylch bychan o lenorion; bellach mae gan y ddwy Adran tua tri chant o aelodau llawn rhyngddynt a chyfanswm hyd yn oed yn uwch o aelodau cysylltiol neu gefnogwyr. Erbyn hyn enw swyddogol Yr Academi Gymreig yw Yr Academi Gymreig/The Welsh Academy, a'i henw gweithredol yn y ddwy iaith yw Academi, ac fe'i disgrifir fel 'cymdeithas genedlaethol sy'n hyrwyddo awduron a llenyddiaethau Cymru'.
Mae gan yr Academi Brif Weithredwr, pedwar o staff amser-llawn a nifer o staff rhan-amser. Fe'i llywodraethir gan Fwrdd Rheoli; daw aelodau'r Bwrdd o blith aelodaeth yr Academi ei hun, cyrff sydd mewn partneriaeth â hi, awdurdodau lleol, cymdeithasau i awduron y mae eu gwaith yn berthnasol i amcanion yr Academi, y cyfryngau a byd masnach. Bydd aelodau o'r Bwrdd yn gwasanaethu am dair blynedd ac etholir neu cadarnheir yr aelodau gan gyfarfod cyffredinol blynyddol y Gymdeithas. Mae gan y Bwrdd gyd-gadeiryddion. Yn ogystal â'r Bwrdd Rheoli, mae gan yr Academi Bwyllgor Aelodau a ffurfiwyd yn unswydd i ofalu am faterion sy'n ymwneud â'r aelodau. Mae gan y Pwyllgor hwn ddwy adran (un yr un ar gyfer y ddwy iaith), ac etholir hwn hefyd gan gyfarfod cyffredinol blynyddol y Gymdeithas. Mae pwyllgor yr aelodau yn cysylltu ac yn cyd-drafod gyda'r Bwrdd trwy'r cyd-gadeiryddion.
Archival history
Immediate source of acquisition or transfer
Daeth prif gorff yr archif i'r Llyfrgell Genedlaethol yn uniongyrchol o Brif Swyddfa'r Academi, 3ydd Llawr, Tŷ Mount Stuart, Sgwar Mount Stuart, Caerdydd ym 1998 trwy law Mr Peter Finch, Swyddog Gweinyddol. Fodd bynnag trosglwyddwyd rhai rhannau o'r Archif i'r Llyfrgell Genedlaethol cyn hynny gan wahanol adneuwyr. Mae'r adneuon hyn bron yn ddieithriad yn adlewyrchu gweithgaredd yr adneuwr unigol oddi fewn i rengoedd Academi. Trosglwyddwyd cyfres A1-14 gan Dr John Rowlands yn Ionawr 1973. Derbyniwyd llythyrau a darnau llenyddol a anfonwyd i'r cylchgrawn Taliesin rhwng 1965 a 1972 gan D. Tecwyn Lloyd ym Mawrth 1973, a chafwyd papurau ychwanegol, 1965-84, yn rhodd ganddo yng Ngorffennaf 1986, a chasgliad o gopi gwreiddiol Taliesin rhwng 1964 a 1986 ar adnau yn 1990. Ychwanegwyd at archifau Taliesin gan Nesta Wyn Jones, yn Ionawr 1993, pan gyflwynodd gopi a phroflenni rhifynnau 68-76 (1989-92). Cyflwynwyd papurau'r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru/Companion to the Literature of Wales ar adnau gan Meic Stephens yng Ngorffennaf 1990, a chyflwynwyd dau focs yn rhodd ganddo ym Medi 2004. -- Ym mis Medi 1974 cyflwynodd Mrs Sally Roberts Jones bedair ffeil o ohebiaeth gyffredinol Adran Saesneg yr Academi Gymreig o'r cyfnod rhwng Mehefin 1968 a Rhagfyr 1972, a dwy ffeil o ohebiaeth, 1968-1970, yn ymwneud â Chyngres Taliesin a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym mis Medi 1969, ar adnau yn y Llyfrgell. Derbyniwyd 1 bocs trwy law Dafydd Ifans ym mis Mehefin 2009. Derbyniwyd 13 bocs mawr trwy law Ms Petra Bennett, Canolfan Glyn Jones, Caerdydd ym mis Gorffennaf 2013 a mis Hydref 2013. = The main body of the archive was donated to the National Library directly from the Academi's Main Office, 3rd Floor, Mount Stuart House, Mount Stuart Square, Cardiff in 1998 per Mr Peter Finch, the Administrative Officer. However, parts of the Archive had already been transferred to the National Library by various depositors. These deposits almost invariably reflect the activities of individual depositors within the Academi's ranks. Series A1-14 were transferred by Dr John Rowlands in January 1973. Letters and literary pieces sent to the periodical Taliesin between 1965 and 1972 were received from D. Tecwyn Lloyd in March 1973. Additional papers, 1965-84, were donated by him in July 1986, and a collection of original copies of Talieisin between 1964 and 1986 were placed on deposit by him in 1990. Additions were made to the Taliesin archive by Nesta Wyn Jones, in January 1993, when she presented copies and proofs of numbers 68-76 (1989-92). -- On behalf of the English Language Section of the Academi, four files of general correspondence dating from June 1968 to December 1972, and two files of correspondence, 1968-70, relating to the Taliesin Congress held in Cardiff in September 1969, were deposited in the National Library by Mrs Sally Roberts Jones in September 1974.; C1998/25, 0200410430
Content and structure area
Scope and content
Mae'r casgliad yn cynnwys papurau sy'n adlewyrchu gwahanol weithgareddau'r Academi yn ogystal â gweithgaredd aelodau o staff cyflogedig a swyddogion gwirfoddol y gymdeithas. Mae'n adlewyrchu y trefniant cwbl wirfoddol oedd yn bodoli rhwng 1960 a 1977, cyfraniad staff cyflogedig yn y cyfnod ers derbyn nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru ym 1977, a'r ychwanegu a fu at weithgaredd y gymdeithas wrth greu Adran Saesneg ym 1968. Mae papurau'r Adran Gymraeg yn adlewyrchu'r cyfan o weithgaredd yr Academi hyd at sefydlu'r Adran Saesneg. O hynny ymlaen ymranna'n Adran Gymraeg, Adran Saesneg a Gweinyddiaeth Ganolog. Cynnwys ohebiaeth gyffredinol a phapurau gweinyddol cyffredinol megis cofnodion pwyllgorau, ymgyrchoedd aelodaeth, deunydd yn ymwneud â'i gwahanol gyhoeddiadau a'i amrywiol weithgareddau. Derbyniwyd 13 bocs mawr o gofysgrifau ym mis Gorffennaf 2013 a 2 focs mawr mis Hydref 2013. Nid yw'r papurau hyn wedi eu catalogio eto. = The collection consists of papers which reflect the various activities of the Academi as well as the activities of paid officials and voluntary members. They reflect the voluntary arrangement that existed between 1959 and 1977, the expansion of activities which followed the formation of the English Language Section in 1968 and the contribution made by paid staff in the period after the award of a Welsh Arts Council Grant in 1977. The papers of the Welsh Language Section reflect the whole activities of the Academi up to the formation of the English Language Section. From then on, the papers are split into those of the Central Administration, the Welsh Language Section and the English Language Section. The collection includes general correspondence, administrative papers such as committee minutes, membership details and material relating to various publications, events and activities. Thirteen large boxes of records were received July 2013 and a further 2 large boxes in October 2013. These groups remains uncatalogued.
Appraisal, destruction and scheduling
Action: Gwaredwyd unrhyw ddyblygion, cofnodion ariannol, deunydd hysbysebu a rhestrau aelodaeth nad oedd eu cynnwys o unrhyw werth o ran gwybobdaeth. Mae awdurdod i ddinistrio cofnodion/papurau yng nghytundeb adnau C1998/25. = Duplicates, financial records and advertising material of no historical value have been disposed. Authority to destroy papers/records is given in deposit agreement C1998/25..
Accruals
Disgwylir ychwanegiadau = Accruals are expected.
System of arrangement
Trefnwyd yr archif yn dri grŵp: Adran Gymraeg, Adran Saesneg a Gweinyddiaeth Ganolog. Yn achos ffeiliau unigol cadwyd at drefn wreiddiol yr Academi ag eithrio yn achos y ffeiliau hynny oedd eisoes wedi eu trefnu fel rhan o adnau cynharach. = Arranged into three sections: Central Administration, Welsh Language Section, English Language Section. The original order within the files has been maintained except in the case of those files which have already been arranged as part of an eariler deposit.
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Nid yw rhannau o'r archif ar gael (gweler y manylion yn y disgrifiadau lefel priodol). Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'. = Parts of the collection are not available (see relevant level descriptions). Readers consulting modern papers in the National Library of Wales are required to sign the 'Modern papers - data protection' form.
Conditions governing reproduction
Amodau hawlfraint arferol / Usual copyright laws apply.
Language of material
- Welsh
- English
Script of material
Language and script notes
Welsh; English.
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Previous title: Archifau'r Academi Gymreig.
Alternative identifier(s)
Virtua system control number
GEAC system control number
Access points
Subject access points
Place access points
Name access points
- Academi Gymreig -- Archives. (Subject)
Genre access points
Description control area
Description identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
Description follows NLW guidelines based on ISAD(G) 2nd ed.; AACR2; and LCSH
Status
Level of detail
Dates of creation revision deletion
July 2010.
Language(s)
Script(s)
Sources
Archivist's note
Lluniwyd y disgrifiad gan / compiled by Arwel Jones, Manon Foster Evans, Rhys Davies;