Torion papur newydd / Press cuttings
- SU/2
- ffeil
- 1978-1979
Torion papur newydd / Press cuttings
Mae'r ffeil yn cynnwys ychydig o bapurau yn ymwneud ag enwebu aelodau newydd ar gyfer 1982. Etholwyd Hywel Teifi Edwards, Gwilym Tilsley a Rhydderch Jones.
Edwards, Hywel Teifi
Mae'r ffeil yn cynnwys papurau a gohebiaeth yn ymwneud ag enwebu ac ethol aelodau newydd i'r Adran Gymraeg ym 1980. Derbyniwyd yr enwebiad gan W. R. P. George, Dafydd Jenkins, Alan Llwyd ac Einir Jones ac fe'i gwrthodwyd gan Jane Edwards, Derec Llwyd Morgan a Mathonwy Hughes.
Edwards, Jane
Aelodaeth: ethol Cadeirydd, 1979
Mae'r ffeil yn cynnwys papurau enwebu ar gyfer dewis Cadeirydd newydd i'r Adran Gymraeg a llythyr a datganiad i'r wasg yn cadarnhau ethol Alun Llywelyn Williams i'r swydd, 1979.
Aelodaeth: etholiadau, 1978-1979
Mae'r ffeil yn cynnwys papurau a gohebiaeth yn ymwneud ag ethol aelodau newydd o'r Academi ar gyfer 1979; etholwyd Dafydd Rowlands, Selyf Roberts a T. Llew Jones.
Jones, T. Llew (Thomas Llew)
Aelodaeth: cyd-bwyllgor aelodaeth
Mae'r ffeil yn cynnwys peth gohebiaeth ynglŷn â'r cyd-bwyllgor aelodaeth a gynhaliwyd rhwng dwy adran yr Academi ym 1978.
Aelodaeth: nodiadau bywgraffyddol
Aelodaeth: etholiadau, 1990-1992
Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau a phapurau yn ymwneud ag ethol aelodau newydd i'r Adran Gymraeg ym 1990-1991. Mae'n cynnwys llythyrau gan Eirian Davies, Mathonwy Hughes, Glyn Tegai Hughes a Owen E. Evans yn derbyn eu henwebiadau a Dyfnallt Morgan, Derec Llwyd Morgan a Jane Edwards yn gwrthod.
Morgan, Dyfnallt, 1917-1994
Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau a phapurau yn ymwneud ag ethol Is-gadeirydd newydd i'r Adran Gymraeg ym 1990-1991. Enwebwyd Meredydd Evans a Harri Pritchard Jones ac yn dilyn pleidlais gyfartal ac ail bleidlais etholwyd Harri Pritchard Jones.
Aelodaeth: etholiadau, 1989-1990
Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau a phapurau yn ymwneud ag ethol aelodau newydd i'r Adran Gymraeg ar gyfer 1989. Mae'n cynnwys llythyrau gan Donald Evans, M. Wynn Thomas a John Emyr yn derbyn yr enwebiad ac un gan Gwyn Erfyl yn ei wrthod.
Erfyl, Gwyn
Mae'r ffeil yn cynnwys papurau yn ymwneud ag enwebu ac ethol Cymrodyr er Anrhydedd am y tro cyntaf ym 1989. Etholwyd pump, Pennar Davies, Rhydwen Williams, R. S. Thomas, Gwilym Tilsley a Gwilym R. Jones.
Davies, Pennar
Aelodaeth: ethol llywydd, 1988-1989
Mae'r ffeil yn cynnwys tri llythyr yn awgrymu enw J. E. Caerwyn Williams ar gyfer llywydd newydd yr Academi, 1988-1989.
Aelodaeth: ethol llywydd, 1985-1986
Mae'r ffeil hon yn cynnwys enwebiadau a manylion ethol llywydd newydd i adran Gymraeg yr Academi yn dilyn marwolaeth Kate Roberts. Enwebwyd Euros Bowen, John Gwilym Jones a J. E. Caerwyn Williams.
Bowen, Euros,
Mae'r ffeil yn cynnwys papurau yn ymwneud ag enwebu aelodau newydd ar gyfer 1985. Ceir yma lythyrau gan Gerallt Lloyd Owen, William R. Lewis a Menna Elfyn yn derbyn eu henwebiadau.
Owen, Gerallt Lloyd, 1944-2014
Aelodaeth: enwebiadau, 1983-1990
Aelodaeth: etholiadau, 1982-1983
Mae'r ffeil yn cynnwys papurau yn ymwneud ag enwebu aelodau newydd ar gyfer Hydref 1983. Etholwyd T. Glynne Davies, Meredydd Evans, Dafydd Ifans, Gruffydd Parry ac Urien William.
Davies, T. Glynne (Thomas Glynne)
Aelodaeth: etholiadau, 1974-1975
Mae'r ffeil yn cynnwys papurau a llythyrau yn ymwneud ag enwebu ac ethol aelodau newydd i'r Academi , 1974-1975. Yr aelodau a etholwyd oedd Geraint Gruffydd, Wil Sam a Caradog Prichard; ymddengys i T. Llew Jones gael ei enwebu ac iddo wrthod.
Gruffydd, R. Geraint