Print preview Close

Showing 186 results

Archival description
Archifau Urdd Gobaith Cymru Ffeil / File English
Print preview View:

Casgliad A M James

Casgliad o bethau'n ymwneud ag Aelwyd yr Urdd yn Aberystwyth a changen yr Urdd yn yr Ysgol i Ferched gan A M James o'r 30au.

Teledu ac S4C

Ymdrechion yr Urdd i gyfrannu i'r frwydr o gael sianel deledu Gymraeg ar y teledu, gan gynnwys datganiad i'r wasg, toriadau allan o bapurau newydd, copi o'r ddeiseb a luniwyd gan yr Urdd: 'Sianel Deledu i Gymru'. Llythyrau i'r BBC yn gofyn iddynt ddarlledu mwy o faes yr Eisteddfod. Llythyr gan Ffred Ffransis o'r carchar yn trafod yr ymgyrch. 'Second Report from the Committee on Welsh Affairs: Broadcasting in the Welsh Language and the Implications for Welsh and Non-Welsh Speaking Viewers and Listeners. (cyhoeddwyd 24/07/81)

Taith Canada 1955

Argraffiadau Taith Canada - drafftiau cyntaf ac yna'r drafft terfynol: Adroddiad ar yr Ymweliad â Chanada, Awst 18 - Tachwedd 18, 1955. (gwaith dwyieithog).

Gŵyl Werin yr Urdd

Gohebiaeth Gŵyl Werin Aberystwyth. Gohebiaeth Gŵyl Werin Merthyr Tudfil gan gynnwys Rhaglen yr Ŵyl. Rhaglen gwasanaeth Gŵyl Werin Gwent.

Taith Mistar Urdd

Cyflwyno Mistar Urdd yn fyw: Poster digwyddiad 'Helo Mistar Urdd' Ionawr 24 1979; trefn y prynhawn o safbwynt rhaglen, sgript a pherfformiad a rhestr o wahoddedigion. Taith Mistar Urdd 1979: poster, trefniadau staffio, trefn a dyddiadau'r daith. Shew Hewl: trefn a dyddiadau'r daith, a chyfrifoldebau staffio.

Results 1 to 20 of 186