Showing 687 results

Archival description
Papurau Evan Roberts, Llandderfel
Print preview View:

Adolygiadau

Adolygiadau gan Evan Roberts, [1956]-[1957], o'r llyfrau canlynol: Dan Jones, Atgofion Llafurwr i Ieuenctyd [sic] Cymru (Goginan, 1956); John Redwood Anderson, Almanac, and Other Poems (London, 1956); R. T. Jenkins, Casglu Ffyrdd (Wrecsam, 1956) (yn ogystal a nodyn am erthygl gan Jenkins yn y Bywgraffiadur); a Tecwyn Ellis, Edward Jones Bardd y Brenin: 1752-1824 (Caerdydd, 1957) [nifer o adolygiadau/ddrafftiau gwahanol].

Bala a Phenllyn

Nifer o ysgrifau yn ymwneud a Bala a Phenllyn, yn arbennig ar hanes yr ardal, yn cynnwys 'Llangower yntau Llangywair sydd gywir?';
[Tipyn o Hanes y Bala], [Hanes rhannau o Pum Plwyf Penllyn], 'Plwyf Llandderfel Can Mlynedd yn ôl', [Pum Plwyf Penllyn], ayyb, (i gyd yn ymgeision i ail gydio ar ysgrifennu ar ôl cyfnod o salwch); 'Y Gwyniaid – Pysgodyn a geir yn Llyn Tegid, Y Bala'; 'Teirawr yn y Bala gyda'r Cewri', 1956; ayyb.
Ceir hefyd fân nodiadau ar amryw bynciau.

Barddoniaeth

Copïau o fân gerddi, yn llaw Evan Roberts ac eraill, yn cynnwys casgliad o hen benillion a dwy gerdd gan Thomas Jones, Cerrigellgwm,
ynghyd ag erthyglau ar Hên Feirdd ac eisteddfodau 1958 ac 1960.

Results 1 to 20 of 687