Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- [1658]-[?1990au] (Creation)
Level of description
Fonds
Extent and medium
0.17 metrau ciwbic (18 bocs bach, 1 gyfrol).
Context area
Name of creator
Biographical history
Roedd Evan Roberts (1877-1977) o Landderfel, sir Feirionnydd, yn awdur a hanesydd lleol. Ganwyd ef yn Llandderfel ar yr 2 Mehefin 1877 yn fab i Peter ac Ann Roberts. Cafodd addysg yn Hen Ysgol y Bwrdd yn Llandderfel cyn mynd i weithio yn ffatri wlân Cefnddwysarn pan yn 14 mlwydd oed. Priododd Ellen Davies (1882-1972) yn 1906 a chawsant ddau blentyn, Eirianwen (1909-1971) a Tegwyn (g. 1911).
Ar ôl i'w iechyd dorri yn 1913 roedd yn gaeth i'w wely am rhai blynyddoedd. Roedd y cyfnod yma yn sbardun i'w ddiddordeb mewn darllen ac ysgrifennu, yn enwedig ar bynciau hanes lleol. Ymddangosodd ei golofn wythnosol 'Ysgubau o Ysgrepan y Lloffwr' ym mhapur newydd Y Seren (Bala) o'r 1920au hyd yr 1950au ac ysgrifennodd erthyglau yn rheolaidd i nifer o gyfnodolion eraill. Roedd hefyd yn darlithio ac yn cystadlu mewn eisteddfodau; cyhoeddwyd dau o'i draethodau eisteddfodol yn y gyfrol Casgliad o Enwau Lleoedd ym Mhlwyf Llandderfel, a'u hystyron ... ynghyda Diwydiannau Coll Plwyf Llandderfel … (Bala; 1928). Yn sgìl ei waith daeth yn gyfaill i nifer o enwogion o Gymru a thu hwnt, yn eu plith John Cowper Powys, Bob Owen, Croesor, Iorwerth Peate a John Redwood Anderson. Bu farw Evan Roberts ym mis Mai 1977, yn 99 mlwydd oed.
Archival history
Immediate source of acquisition or transfer
1-246: Evan Roberts; Llandderfel; Pryniad; 1949.
247-612: Evan Roberts; Llandderfel; Pryniad; Medi 1951.
613-986: Evan Roberts; Llandderfel; Pryniad; 1952.
987-1311: Evan Roberts; Llandderfel; Pryniad; Hydref 1955.
1312-1613: Evan Roberts; Llandderfel; Pryniad; Awst 1956.
Is-fonds A: Mrs Nan Jones (wyres Evan Roberts); Wrecsam; Rhodd; Ebrill 2024; 99126299502419.
Content and structure area
Scope and content
Papurau Evan Roberts, Llandderfel, [1658]-[?1990au], yn cynnwys llythyrau a chardiau post, 1921-1973, oddi wrth ystod eang o ohebwyr, gan gynnwys John Cowper Powys; erthyglau, traethodau a darlithoedd ganddo, ynghyd â nodiadau ymchwil, [?1924]-[1968x1975]; papurau personol, 1924-[?1990au]; llyfrau lloffion, papurau newydd a deunyddiau printiedig eraill, [1658]-1970; a llawysgrifau, yn cynnwys gweithiau llawysgrif gan amryw awdur megis Clwydydd a Derfelog, a gasglwyd ganddo, [c. 1736]- [20 gan., ½ cyntaf]. = Papers, [1658]-[?1990s], relating to Evan Roberts, Llandderfel, including letters and postcards, 1921-1973, from a wide range of correspondents, including John Cowper Powys; articles, essays and lectures by Evan Roberts, together with research notes, [?1924]-[1968x1975]; personal papers, 1924-[?1990s]; scrapbooks, newspapers and other printed materials, [1658]-1970; and manuscript material, including manuscript works by various authors such as Clwydydd and Derfelog, collected by him, [c. 1736]- [20 cent., first ½].
Appraisal, destruction and scheduling
Cadwyd yr holl bapurau a dderbyniwyd gan y Llyfrgell, heblaw am ychydig o eitemau printiedig dyblyg.
Accruals
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System of arrangement
Trefnwyd yn LlGC fel a ganlyn: gohebiaeth; erthyglau a llawysgrifau; ychwanegiad Ebrill 2024. (Yn y siediwlau gwreiddiol trefnwyd y pump grwp 1949-1956 yn ôl dyddiad derbyn.)
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Conditions governing reproduction
Amodau hawlfraint arferol.
Language of material
- English
- Welsh
Script of material
Language and script notes
Cymraeg, Saesneg.
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Ceir copïau caled o'r catalogau ar gyfer grwpiau 1949-1956 yn LlGC, sef: 'A List of Manuscripts and Letters received from Mr Evan Roberts, Llandderfel', September 1951, 1952, October 1955, August 1956; a fersiwn diwygiedig o dan y teitl 'Rhestr o Lawysgrifau a Llythyron a roddwyd gan Evan Roberts, Llandderfel, Awst 1949-Awst 1956' (1987). Mae catalog 1987 yn cynnwys Mynegai i'r Gohebwyr (tt. 52-64) a Mynegai Testunol (tt. 65-72).
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Publication note
Mel Williams, 'Evan Roberts - Y Bob Owen Arall', Y Casglwr, 82 (Gaeaf 2004), 1.
Publication note
Mel Williams, 'Evan Roberts - Y Llyfrbryf o Landderfel (2)', Y Casglwr, 83 (Gwanwyn 2005), 1, 20.
Notes area
Note
Teitl yn seiliedig as gynnwys y fonds.
Alternative identifier(s)
Rhif rheoli system Virtua
Project identifier
Access points
Subject access points
Place access points
Name access points
- Roberts, Evan, 1877-1977 -- Archives (Subject)
Genre access points
Description control area
Description identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau ANW a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Status
Level of detail
Dates of creation revision deletion
Chwefror 2025.
Language(s)
- Welsh
Script(s)
Sources
Defnyddiwyd y ffynonnellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: LlGC, Papurau Evan Roberts; Mel Williams, 'Evan Roberts - Y Bob Owen Arall', Y Casglwr, 82 (Gaeaf 2004), 1; Mel Williams, 'Evan Roberts - Y Llyfrbryf o Landderfel (2)', Y Casglwr, 83 (Gwanwyn 2005), 1, 20.
Archivist's note
Adolygwyd y disgrifiad gan Rhys Jones.