Showing 503 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Papurau R. Williams Parry Welsh
Print preview View:

Copiau llawysgrif, teipysgrif a phrintiedig o gerddi a gyhoeddwyd yn Yr Haf A Cherddi Eraill neu Cerddi'r Gaeaf. Rhwymwyd hwynt ...,

Copiau llawysgrif, teipysgrif a phrintiedig o gerddi a gyhoeddwyd yn Yr Haf A Cherddi Eraill neu Cerddi'r Gaeaf. Rhwymwyd hwynt yn ôl eu trefn yn y cyfrolau hynny. Yn y rhestr cynnwys sy'n dilyn, nodir unrhyw wahaniaeth sydd rhwng cerddi'r gyfrol wneud a'r cerddi fel y'u cyhoeddwyd yn ogystal a gwahaniaeth teitl. Ceir rhestr deipiedig o'r cynnwys hefyd ar flaen y gyfrol. 16 Ff. I Yr Iberiad [gw. Yr Haf A Cherddi Eraill, t. 40. Pennill 1-5 yn unig; pennill 5 yn wahanol]. Ii In Memoriam, Mary Roberts, Gwyddfor, 1841-1917 [gw. 'Gwragedd, 1', Yr Haf A Cherddi Eraill, t. 46). Iii Yr Haf [gw. Yr Haf A Cherdd i Eraill, t. 51. Pytiau yn unig]. Vii Cyfieithiad o Emyn J. S. Arkwright [gw. 'Gorffwys', Yr Haf A Cherddi Eraill, t. 98. 2 gopi, un yn dwyn y teitl 'Memorial Hymn' ac yn cynnwys y gerddoriaeth gan E. T. D[avies]. Ceir sylwadau llawysgrif ar y modd y dylid lliwio'r canu]. Ix Eifionydd [gw. Cerddi'r Gaeaf, t. 2. Ceir 2 fersiwn o'r ail bennill a'r pedwerydd]. X Y Ffliwtydd [gw. Cerddi'r Gaeaf, t. 43. Mae'r pennill olaf yn wahanol.]. Xi Erledigaeth [gw. 'Hitleriaeth', Cerddi'r Gaeaf, t. 60. Rhai amrywiadau]. Xii Y Genedl Gymreig [gw. 'Ein Didduw Brydyddion', Cerddi'r Gaeaf, t. 67. Nifer o wahaniaethau, yn enwedig yn y chwechawd]. Xiii Dyffryn Nantlle Ddoe a Heddiw (Y fersiwn cyntaf) [gw. Cerddi'r Gaeaf, t. 83. Fersiwn hollol wahanol i'r un a gyhoeddwyd]. Xiv "Dwy Galon Yn Ysgaru" [gw. Cerddi'r Gaeaf t. 85. 2 fersiwn. Nifer o amrywiadau]. Xvi Y Diweddar David Hughes, Llanarmon-Yn-Iâl [gw. Cerddi'r Gaeaf, t. 91. 2 englyn ynghyd â theyrnged fer. Esgyll yr ail englyn yn wahanol i'r hyn a gyhoeddwyd].

Copïau llawysgrif, teipysgrif a phrintiedig o gerddi nas cynhwyswyd yn Yr Haf A Cherddi Eraill nac yn Cerddi'r Gaeaf; ceir ...,

Copïau llawysgrif, teipysgrif a phrintiedig o gerddi nas cynhwyswyd yn Yr Haf A Cherddi Eraill nac yn Cerddi'r Gaeaf; ceir copïau glân yn llaw R. Williams Parry, Myfanwy Williams Parry, a Derwyn Jones [gw. rhif 532]. Ceir rhestr o gynnwys y gyfrol yn dilyn isod ac mae rhestr deipiedig hefyd ar flaen y gyfrol. 19 Ff. I Mewn hen Feibl [gw. Y Geninen, Cyf, xxvi, Rhif 2, Ebrill 1908, t. 128]. Ii 'Och! gyfaill, peidiwch gofyn -----'. [Danfonwyd at Mr John Davies, Llwyniolyn, Sarnau, wedi i R. Williams Parry adael yr ardal am Y Barri; gw. rhif 848]. Iii Darlun Idris, Cyntaf-anedig y Shoeing-Smith H. Hughes, Bryn, Nebo, Llanrwst [Cyfansoddwyd ym 1918; gw. rhifau 51, 94]. Iv Pennill 'Er Coffadwriaeth am Edith Wynn a gyfarfyddodd a damwain, Awst 26ain. 1924'. V Pa Le y Mae'r Hen Gymry? (R. Williams Parry. Western Mail, 11-2-26). Vi Yn y Bebis [gw. rhif 55]. Vii Y Dyrfa (gan 'Llywelyn') [gw. rhifau 56, 532]. Viii 'Megis ag yr oedd ---' (gan 'Llywelyn') [gw. rhifau 57, 532]. Ix Cofia [gw. rhif 61. Parodi ar gerdd W. J. Gruffydd; gw. Ynys Yr Hud A Chaneuon Eraill, t. 10]. X Democratiaeth (Heddiw II. Mehefin 1937) [gw. rhifau 457; 458]. Xi Pererin: Dialog yn null A.E.H. (Heddiw Cyf. 3, Chwef. 1938). Xii Gwynfor. Xiii Nid gwneud Miwnishons 'Nawr: Ymson Y Taniwr (Cân dalcen-slip). Xiv Stori Fer Wir (gan 'Dirwestwr'). Xv Cyfarchiad Priodas Mr a Mrs R. Sylvanus Parry [gw. rhif 848]. Xvi Beddargraff Idwal Jones (ac yntau'n fyw). Xvii Cyfieithiad o 'The Moon' W. H. Davies [gw. rhif 532]. Xvii 'Dau frawd fwriwyd i farw -----': Englyn ar fedd Ann Jones ym mynwent Llanddeiniolen [gw. rhif 532]. Xxiii The Wind's Lament (O Gymraeg Syr John Morris-Jones). Xix Dau Gyfieithiad: 'O W. H. Davies'; 'O A. E. Housman' (O'r News Chronicle ac o'r Western Mail 25-2-1929).

Copiau teipysgrif a phrintiedig o gyfieithiadau o gerddi R. Williams Parry. Ceir rhestr cynnwys isod ac ar flaen y gyfrol ...,

5 Ff. I 'The Bard': Cyfieithiad T. Gwynn Jones, 15 Rhagfyr 1941, o 3 o'r englynion coffa i Hedd Wyn [Yr Haf A Cherddi Eraill, t. 100; gw. rhif 220]. Ii 'War Memorial', 'His Father's Son', 'Soldier From Merioneth', 'The Curlew': Cyfieithiadau Keidrych Rhys o'r cerddi 'Ar Gofadail', 'Mab Ei Dad', 'Milwr O Feirion', 'Y Gylfinhir', o' r gyfrol Yr Haf A Cherddi Eraill [gw. Rhif 203]. Iii 'The Fox': Cyfieithiad Keidrych Rhys o soned R. Williams Parry 'Y Llwynog' [Yr Haf A Cherddi Eraill, t. 18] yn The Listener, 22 Hydref 1942. Iv 'The Cock Pheasant': Cyfieithiad Keidrych Rhys o'r gerdd 'Y Ceiling Ffesant' [Yr Haf A Cherddi Eraill, t. 21] yn The Listener, 3 Rhagfyr 1942. V 'The One Man Band': Cyfieithiad Dan Jones o'r gerdd 'Y Band Un Dyn' [Cerddi'r Gaeaf, t. 12].

Results 61 to 80 of 503