Showing 146 results

Archival description
Papurau Iorwerth C. Peate, Welsh
Print preview View:

Eisteddfod Aberteifi

Gohebiaeth, 1942, rhwng Iorwerth Peate a Cyril Fox yn bennaf, yn ymwneud â gwahoddiad i Iorwerth Peate annerch yn ystod agoriad Arddangosfa Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi. Mae'r ffeil yn cynnwys adroddiad ar y mater gan Iorwerth Peate.

Fox, Cyril, Sir, 1882-1967

Eisteddfod Caerdydd

Gohebiaeth a thorion papur newydd, 1959, yn ymwneud â'r anghydfod yn dilyn y penderfyniad i wahodd y Frenhines i fynychu Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1960. Ymddiswyddodd Iorwerth Peate (Is-gadeirydd y Pwyllgor Gwaith a chynrychiolydd Llys yr Eisteddfod ar y Pwyllgor Gwaith) ac aelodau eraill o Gyngor yr Eisteddfod. Yn eu plith mae llythyrau gan Emrys Roberts; Griffith John Williams; Stephen J. Williams; Gareth Alban Davies; David Thomas (2); Raymond Garlick; Brinley Richards (2); Thomas Parry (3); Ernest Roberts (2); a Huw Ethall.

Roberts, Emrys

Erthyglau

Torion o'r wasg yn bennaf, 1923-1978, sef erthyglau am, neu sy'n cyfeirio at, Iorwerth Peate a'i waith.

Erthyglau a llythyrau i'r wasg

Copi o The Courier/Llais y Lli, 1954, yn cynnwys erthygl gan Dafydd Peate, 'A Ddylai Cymru Gael Hunan-Lywodraeth?'. Yn ogystal, ceir adroddiad ganddo yng nghylchlythyr BBC Cymru, 1977, o daith ffilmio yng Nghanada; toriad papur newydd, [?1954], gyda llythyr gan Dafydd Peate ynglŷn â'r Blaid Lafur ac Aberdâr; a chopi o gylchlythyr BBC Cymru, 1979, yn cynnwys 'Llythyr agored at Fwrdd Cyfarwyddo BBC Cymru'.

Erthyglau, adolygiadau a llythyrau i'r wasg

Teipysgrifau, copïau printiedig a llawysgrif, 1921-[1980], o erthyglau, adolygiadau a llythyrau i'r wasg gan Iorwerth Peate, yn cynnwys torion a gohebiaeth, 1942-1948, yn ymwneud â'i golofn yn Y Cymro, 'Cymru Heddiw' gan 'Gwerinwr'. Ymhlith y testunau ceir trafodaethau am yr iaith Gymraeg, hanes Cymru, diwylliant gwerin, y celfyddydau, llenyddiaeth, addysg, diwinyddiaeth, ac unigolion, yn cynnwys teyrngedau i Melville Richards, O. T. Jones, Åke Campbell, Calum Maclean, H. J. Fleure, a George M. Ll. Davies. Mae'n bosib fod rhai ohonynt yn anerchiadau neu sgyrsiau radio.

Gefeiliau cŵn (Dog tongs)

Adysgrif, [1930x1940], o'r rhestr gefeiliau cŵn a gyhoeddwyd yn The Relinquary, 1897, ynghyd â chopi printiedig o ddarlith W. E. T. Morgan, 'Dog doors in churches and dog tongs', a gyhoeddwyd yn 1931. Yn ogystal, ceir nodiadau teipysgrif, [1930x1940], 'Tread-mill churns worked by dogs', sef adroddiadau o'r Liverpool Courier, 1901.

George H. Peate

Papurau yn ymwneud â George H. Peate yn bennaf, 1860-1938 a 1949, gan gynnwys ei ddyddiadur, tystlythyrau iddo, llyfrau nodiadau, llythyrau ato, llyfr cyfrifon Cymdeithas Lenyddol Llanbrynmair, 1890-1904, cyfraniadau aelodau o'r Loyal Brynmair Lodge, 1906-1907, a thri llyfr lloffion yn ymwneud ag ardal Llanbrynmair.

Peate, George H. (George Howard), 1869-1938

Glamorgan county history

Agenda, cofnodion a phapurau perthnasol, 1972-1982, yn ymwneud â chyfarfodydd Pwyllgor Gwaith Glamorgan County History (The Glamorgan County History Trust Limited yn ddiweddarach).

Gradd D.Litt.

Llythyrau a phapurau amrywiol, 1970, ar achlysur cyflwyno gradd Doethur mewn Llen, er Anrhydedd, i Iorwerth Peate gan Brifysgol Cymru. Ceir llythyrau gan F. Llewellyn-Jones; J. Gareth Thomas (2); E. G. Bowen; Alun R. Edwards; Sandy Fenton; A. Norman Jeffares; David Jenkins; Frank Price Jones; Hywel D. Lewis; T. A. Owen; Griffith Quick; a Glanmor Williams; ynghyd â chyflwyniad yr Athro T. J. Morgan iddo.

Jones, Frank Llewellyn-, b. 1907

Gradd D.Sc.

Llythyrau, 1941, yn llongyfarch Iorwerth Peate ar dderbyn gradd D.Sc. gan Brifysgol Cymru. Yn eu plith ceir llythyrau gan Arthur ap Gwynn; W. Ambrose Bebb; E. G. Bowen; Alun Oldfield Davies; Aneirin Talfan Davies; D. Tegfan Davies; J. Kyrle Fletcher; H. J. Fleure; Cyril Fox; D. R. Hughes; R. T. Jenkins; E. K. Jones; Frank Price Jones; Gerallt Jones; Gwyn Jones; John Tysul Jones; John ac Elena Puw Morgan; T. E. Nicholas; Tom Parry; Prosser Rhys; Alf Sommerfelt; J. B. Willans; Ifor Williams; a J. L. C. Cecil-Williams.

Arthur ap Gwynn, 1902-1987

Guide to the collection of Welsh bygones

Papurau, 1929, yn ymwneud â Guide to the collection of Welsh bygones (Caerdydd, 1929), yn cynnwys llythyrau yn bennaf, yn eu plith rhai gan John Ballinger, ac F. Wynn Jones (2); ynghyd ag adolygiad o'r gyfrol.

Ballinger, John, 1860-1933

Gwahanglwyf

Llythyrau a thorion o'r wasg, 1974, yn eu plith rhai oddi wrth George C. Boon (2); O. A. W. Dilke; a Don R. Brothwell. Yn ogystal ceir erthygl gan Iorwerth Peate, 'The antiquity of leprosy in Wales', ynghyd â llungopïau o ddwy erthygl arall ar y testun.

Boon, George C.

Gweisg preifat

Papurau printiedig, 1928-1962, sef prosbectysau, 1929-1940, ar gyfer llyfrau i'w cyhoeddi gan Wasg Gregynog yn bennaf. Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys prosbectws yn disgrifio amcanion a rhaglen y Tintern Press, ynghyd â llythyr gan Vincent Graham Stuart, 1935; prosbectws ar gyfer llyfrau i'w cyhoeddi gan y Raven Press, 1931; a phrintiau amrywiol.

Stuart, Vincent Graham.

Gwlân

Deunydd printiedig, 1909, 1937 a 1940, yn ymwneud â'r diwydiant wlân, yn cynnwys H. Ling Roth, Hand Woolcombing (1909); ac E. Kilburn Scott, 'The Shrinking of Woollens' (1937).

Gwrthwynebydd cydwybodol

Llythyrau, 1955 a 1957, yn ymwneud â chais Dafydd Peate i gofrestru fel Gwrthwynebydd Cydwybodol yn erbyn gwasanaeth filwrol. Yn eu plith ceir llythyrau gan George Thomas (3), Walter Monckton (3), Raymond Gower, ac Iain Macleod. Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys copïau o ddatganiad Dafydd Peate, 1954, i'r tribiwnlys; ac adroddiad am yr achos yn y wasg, 1955.

Thomas, George, 1909-1997

Llyfr nodiadau

Llyfr nodiadau David Peate, 1880, yn cynnwys 'Petheu a glywais gan Evan Lewis Pendemtir o hen hanes'; adroddiad o'r Dysgedydd, 1841, am farwolaeth ei dad, Edward Peat; hanes ei ymweliad â Llundain, 1889; 'Ychydig fanylion am Bryniad Glanllyn', 1896; hanes marwolaeth David Peate gan ei fab George H. Peate; a 'Dyfyniadau o Ddyddlyfrau David Peate', 1847-1896.

Peate, George H. (George Howard), 1869-1938

Llyfrau lloffion

Tri llyfr lloffion yn cynnwys torion printiedig yn bennaf, 1860-1937, y mwyafrif ohonynt yn ymwneud ag ardal Llanbrynmair. Mae rhai o'r torion yn cyfeirio at aelodau'r teulu, yn cynnwys Iorwerth Peate, ac mae sawl cerdd ganddo yn eu plith. Ymddengys mai George H. Peate sydd wedi casglu'r torion ynghyd yn y cyfrolau. Mae nifer o'r papurau'n rhydd.

Results 61 to 80 of 146