- A2/5
- ffeil
- 1972
Torion a llungopïau yn bennaf sef adolygiadau o'r gyfrol Tradition and folk life. A Welsh view (Llundain, 1972).
Torion a llungopïau yn bennaf sef adolygiadau o'r gyfrol Tradition and folk life. A Welsh view (Llundain, 1972).
Llythyrau, 1925-1928, a anfonwyd at William Rees, Henllan, sir Aberteifi, turniwr coed. Yn ogystal, ceir bwndel o ohebiaeth, 1938, rhwng William Rees ac Iorwerth Peate ynglŷn â chyfraniad William Rees i sgwrs radio am grefft y turniwr coed; ynghyd ag ymateb i'r rhaglen, a cherdyn yn nodi rhestr brisiau cwmni Brodyr Davies, Abercych.
Tri geirda, 1904 a 1910, ar gyfer George H. Peate.
Tystlythyrau, 1923 a 1927, gan T. H. Parry-Williams a T. Gwynn Jones.
Parry-Williams, T. H. (Thomas Herbert), Sir, 1887-1975
Tystysgrifau ysgol a choleg, 1917-1920 a 1923. Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys taflen Machynlleth County School Annual Speech Day, 1920, sy'n nodi fod Annie Davies wedi derbyn Tystysgrif Uwch yn arholiadau Bwrdd Canol Cymru.
Gohebiaeth, 1928-1952, rhwng Iorwerth Peate a W. J. Gruffydd. Yn eu plith ceir llythyrau gan Jim Griffiths, William George, a H. J. Fleure; llawysgrif o ddarllediad W. J. Gruffydd, 'Yeoman's English' (1935); torion yn ymwneud ag erthygl W. J. Gruffydd 'The case against a National Council of Education for Wales', 1935; a llythyrau yn trafod achos Iorwerth Peate yn wrthwynebydd cydwybodol. -- Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys papurau, 1942-1943 a 1945, yn ymwneud ag ymgyrch etholiadol W. J. Gruffydd ar gyfer sedd Prifysgol Cymru yn y senedd, gan gynnwys llythyrau gan E. G. Bowen; David Davies (2); D. J. Llewelfryn Davies (4); E. Tegla Davies; Clement Davies; Leonard Twiston-Davies; D. Owen Evans; D. Tecwyn Evans (2); David Lloyd George (telegram); William Thomas Havard; Ernest Hughes; R. T. Jenkins (2); W. Goscombe John; E. K. Jones (4); Tom Jones (2); Thomas Artemus Jones; John Edward Lloyd; J. Dyfnallt Owen; Thomas Parry; Percy E. Watkins; J. Lloyd Williams; a Stephen J. Williams. Ceir hefyd ddatganiadau wedi'u harwyddo yn cefnogi ymgeisyddiaeth W. J. Gruffydd; anerchiadau etholiadol; a deunydd amrywiol, yn cynnwys cofnodion cyfarfodydd Pwyllgor Lleol Caerdydd i gefnogi W. J. Gruffydd, a thaflenni printiedig.
Gruffydd, W. J. (William John), 1881-1954