Showing 3 results

Archival description
Papurau Iorwerth C. Peate, Richards, Melville
Print preview View:

Amryw

Gohebiaeth, torion o'r wasg a nodiadau yn bennaf, 1929-1941 a 1973, yn ymwneud ag amryw o destunau. Yn eu plith mae'r torion 'Llen Gwerin Morgannwg. Marw, angladdau a chladdu', 1929, a 'Clapio a hel wyau'r Pasg', 1931; llythyr, 1934, yn trafod arferion claddu; a sgript ar gyfer sgwrs radio gan Gomer M. Roberts am 'Hen arferion Llandebie', 1937. Yn ogystal, ceir llythyrau, 1929-1931, ynglŷn â llongau; llythyr, 1933, gan Thomas Parry, ynghyd ag adysgrif ganddo o'r gerdd 'Rhybudd i ferched a meibion beidio priodi yn ddi-olud'; teipysgrif 'Lliwio'; torion, 1930, am 'Y Cryman Medi'; catalog yn dangos gwaith D. J. Williams, Gwaith Haearn Brunswick, Caernarfon; a thoriad o deyrnged Bedwyr Lewis Jones i Melville Richards, 1973.

Roberts, Gomer Morgan

Llythyrau R

Llythyrau, 1910-1981, gan gynnwys rhai oddi wrth Alwyn D. Rees (4); D. Ben Rees (2); Gwynfil Rees, ynghyd â cherdd ganddo; Richard Rees; Thomas Rees; Timothy Rees; William Rees (5); Nia Rhosier (5); Prosser Rhys (4, ynghyd â llawysgrif o deyrnged gan Iorwerth Peate iddo); Brinley Richards; Melville Richards (4); Nansi Richards (10); Tom Richards (4); Enid Roberts; Ernest Roberts (2); Goronwy Roberts (5); Hywel D. Roberts (5); Kate Roberts (11); R. Alun Roberts (3); Selyf Roberts (10); Gwen Robson (3); F. Gordon Roe (2); a Iarll Rosse.

Rees, Alwyn D.

Erthyglau, adolygiadau a llythyrau i'r wasg

Teipysgrifau, copïau printiedig a llawysgrif, 1921-[1980], o erthyglau, adolygiadau a llythyrau i'r wasg gan Iorwerth Peate, yn cynnwys torion a gohebiaeth, 1942-1948, yn ymwneud â'i golofn yn Y Cymro, 'Cymru Heddiw' gan 'Gwerinwr'. Ymhlith y testunau ceir trafodaethau am yr iaith Gymraeg, hanes Cymru, diwylliant gwerin, y celfyddydau, llenyddiaeth, addysg, diwinyddiaeth, ac unigolion, yn cynnwys teyrngedau i Melville Richards, O. T. Jones, Åke Campbell, Calum Maclean, H. J. Fleure, a George M. Ll. Davies. Mae'n bosib fod rhai ohonynt yn anerchiadau neu sgyrsiau radio.