Showing 2 results

Archival description
Papurau Iorwerth C. Peate, Williams, J. Lloyd (John Lloyd), 1854-1945
Print preview View:

Llythyrau amrywiol: 1936-1982

Llythyrau amrywiol, 1936-1982 (1977-1982 yn bennaf), gan gynnwys rhai oddi wrth J. Redwood Anderson (2); Ifor ap Gwilym (2); Gwynn ap Gwilym; Douglas Bassett; Gerard Casey; Joseph P. Clancy; Eirian Davies; Jennie Eirian Davies; George M. Ll. Davies; R. Alun Evans (2); R. Geraint Gruffydd; Robin Gwyndaf (2); E. D. Jones; Alan Llwyd (5); Emyr Llywelyn; Dyfnallt Morgan; T. E. Nicholas (2); Thomas Parry; Selyf Roberts; Meic Stephens; W. Bryn Thomas; Glanmor Williams; a J. Lloyd Williams.

W. J. Gruffydd

Gohebiaeth, 1928-1952, rhwng Iorwerth Peate a W. J. Gruffydd. Yn eu plith ceir llythyrau gan Jim Griffiths, William George, a H. J. Fleure; llawysgrif o ddarllediad W. J. Gruffydd, 'Yeoman's English' (1935); torion yn ymwneud ag erthygl W. J. Gruffydd 'The case against a National Council of Education for Wales', 1935; a llythyrau yn trafod achos Iorwerth Peate yn wrthwynebydd cydwybodol. -- Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys papurau, 1942-1943 a 1945, yn ymwneud ag ymgyrch etholiadol W. J. Gruffydd ar gyfer sedd Prifysgol Cymru yn y senedd, gan gynnwys llythyrau gan E. G. Bowen; David Davies (2); D. J. Llewelfryn Davies (4); E. Tegla Davies; Clement Davies; Leonard Twiston-Davies; D. Owen Evans; D. Tecwyn Evans (2); David Lloyd George (telegram); William Thomas Havard; Ernest Hughes; R. T. Jenkins (2); W. Goscombe John; E. K. Jones (4); Tom Jones (2); Thomas Artemus Jones; John Edward Lloyd; J. Dyfnallt Owen; Thomas Parry; Percy E. Watkins; J. Lloyd Williams; a Stephen J. Williams. Ceir hefyd ddatganiadau wedi'u harwyddo yn cefnogi ymgeisyddiaeth W. J. Gruffydd; anerchiadau etholiadol; a deunydd amrywiol, yn cynnwys cofnodion cyfarfodydd Pwyllgor Lleol Caerdydd i gefnogi W. J. Gruffydd, a thaflenni printiedig.

Gruffydd, W. J. (William John), 1881-1954