Print preview Close

Showing 114 results

Archival description
Papurau Ambrose Bebb
Print preview View:

Darlithoedd

Mae'r gyfres yn cynnwys dwy yn unig o'i ddarlithoedd Saesneg ar hanes Cymru tra ar staff y Coleg Normal.

'Y Diwygiad Protestannaidd'

Mae'r gyfres hon yn cynnwys proflenni 'Achosion Cyffredinol', sef y rhan gyntaf o erthygl a ymddangosodd mewn dwy ran dan y teitl 'Y Diwygiad Protestannaidd' yn Y Llenor, 1941.

Hanes yr Achos ym Melinbyrhedyn.

Mae'r gyfres yn cynnwys deunydd wedi ei grynhoi gan Ambrose Bebb ar gyfer 'Hanes yr Achos' ym Melinbyrhedyn ynghyd â chopi llawysgrif o'r gwaith. Er i Ambrose Bebb ysgrifennu hanes y Methodistiaid ym Melinbyrhedyn a Darowen ar achlysur canmlwyddiant yr achos yno yn 1954, oherwydd amgylchiadau ar y pryd ni chyhoeddwyd mo'r gwaith. Ymddangosodd detholiad ohono yn Y Drysorfa ym 1965-1966 wedi ei olygu gan y Parchedig Ieuan Lloyd, Rhosllannerchrugog, dan y teitl 'Beerseba (Hanes yr Achos ym Melinbyrhedyn)'.

'Y Beibl'

Mae'r gyfres yn cynnwys llawysgrifau, teipysgrifau diwygiedig a theipysgrifau terfynol o sgript radio ar y Beibl, 1948.

'Y March Gwyn'

Mae'r gyfres yn cynnwys llawysgrifau, teipysgrifau a sgriptiau terfynol o gyfieithiad Cymraeg Ambrose Bebb o 'The White Steed', drama gan Paul Vincent Caroll a gyhoeddwyd gan Macmillan ym 1944, [1944]-[1945].

Caroll, Paul Vincent,

Llythyrau amrywiol

Mae'r gyfres yn cynnwys tri llythyr gan aelodau hŷn o'r teulu at ei gilydd a etifeddwyd gan Bebb, 1898-1908, tystlythyr ar ran Bebb yn llaw T. Gwynn Jones, 1919, llythyr oddi wrth Ambrose Bebb at Francis Gourvil, cyfaill iddo o Finistere, Llydaw, a ddanfonwyd yn ôl ato gan y Swyddfa Bost, 1940, a llythyr at Mrs Bebb, 1958.

Gourvil, Francis

Results 41 to 60 of 114