Showing 114 results

Archival description
Papurau Ambrose Bebb
Print preview View:

Cyfnod y Tuduriaid yng Nghymru 1485-1603

Copïau llawysgrif a theipysgrif o Cyfnod y Tuduriaid 1485-1603. Ymddengys o wynebddalen y copi teipiedig (LH2/5) fod Bebb wedi cynnig, neu yn bwriadu cynnig, y gwaith mewn cystadleuaeth eisteddfodol. Fe gyhoeddwyd y gwaith yn Wrecsam yn 1939.

Llenyddol

Llawysgrif a phroflenni yn ymwneud â dau o weithiau creadigol Ambrose Bebb.

'John ap John'

Mae'r ffeil yn cynnwys teipysgrif y ddwy erthygl olaf (gyda'r tudalen cyntaf yn eisiau) mewn cyfres o erthyglau byr ar fywyd a gwaith John ap John, y Crynwr a gyhoeddwyd yn Cymru, 61-63 (1921-1922), sef yng nghyfrol 63 (1922), 46-8, 74-5.

John ap John, 1625?-1697

Deunydd gwreiddiol

Mae'r ffeil yn cynnwys adroddiad atgyweirio capel Melinbyrhedyn, 1887, adroddiad ar Ddiwygiad [1904-1905] ym Melinbyrhedyn, 1905, a thoriad papur newydd yn cynnwys adroddiad o ymweliad Mrs [Mary] Jones, Egryn, â Melinbyrhedyn, 1905.

Yr Argyfwng

Llawysgrifau a phroflenni yn ymwneud â chyhoeddi Yr Argyfwng a gyhoeddwyd yn Llandybïe ym 1956.

Llythyrau

Mae'r grŵp hwn yn cynnwys llythyrau at Ambrose Bebb. Yn eu mysg mae un llythyr a yrrwyd at Mrs Eluned Bebb yn 1958, dair blynedd ar ôl marwolaeth ei gŵr, copi o lythyr yn llaw Bebb, a rhai llythyrau cynnar gan aelodau anhysbys o'r teulu.

Llythyrau J

Mae'r ffeil hon yn cynnwys llythyrau oddi wrth: D. Lloyd Jenkins (1), R. T. Jenkins (2), Cynan (1), Yr Athro D. James Jones (1), E. D. Jones (1), Dr Gwenan Jones (1), John Charles Jones, Archesgob Bangor (1), John Gwilym Jones (1), John Morris-Jones (1), Mary Vaughan Jones (1) a T. Gwynn Jones (1). Ceir hefyd saith llythyr gan Annie M. Jones, Machynlleth, yn trafod hanes yr achos Methodistaidd ym Melinbyrhedyn, Darowen.

Jenkins, D. Lloyd (David Lloyd), 1896-1966

Results 81 to 100 of 114