Showing 114 results

Archival description
Papurau Ambrose Bebb
Print preview View:

Papurau Ambrose Bebb

  • GB 0210 AMBEBB
  • Fonds
  • 1887-1955 (yn bennaf 1919-1955) (crynhowyd [1920au]-1958)

Mae'r fonds yn cynnwys gohebiaeth, 1898-1958, dyddiaduron, 1918-1954, llawysgrifau a theipysgrifau llawer o'i gyhoeddiadau llenyddol, hanesyddol, crefyddol a hunangofiannol, 1934-1955, copi o'i draethawd MA, 1920, ynghyd â nifer bychan o ddarlithoedd a phapurau amrywiol, 1937-1949. Mae rhai o'r llythyrau at Bebb, ynghyd â rhai o'i ddyddiaduron, yn taflu goleuni gwerthfawr ar gyflwr a hanes Llydaw cyn ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac i raddau llai, ar hanes cynnar Plaid Cymru.

Bebb, W. Ambrose (William Ambrose), 1894-1955

Llythyrau W

Mae'r ffeil hon yn cynnwys llythyrau oddi wrth D. J. Williams (Abergwaun) (7), G. J. Williams (8), John Roberts Williams (1), T. H. Parry-Williams (2), T. Hudson-Williams (4) a William Nantlais Williams (1) ymysg eraill.

Williams, D. J. (David John), 1885-1970

Llyfr nodiadau

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr nodiadau wedi ei argraffu tua 1916 ac yn cynnwys yr hyn sy'n ymddangos fel nodiadau ar gyfer ei draethawd MA.

Llyfr nodiadau

Mae'r ffeil yn cynnwys dyfyniadau llenyddol a phenillion o waith Ambrose Bebb. Mae dwy gerdd wedi eu dyddio yn 1929.

Traethawd MA

Copi llawysgrif o'i draethawd MA, 'The Contribution of Wales to the British Empire' a gyflwynwyd am radd ym 1920. Mae'r teitl ar y wynebddalen yn awgrymu iddo gael ei gyflwyno i gystadleuaeth eisteddfodol ar un adeg.

'Eisteddfod Pen-y-bont ar Ogwr 1948'

Mae'r ffeil yn cynnwys copi llawysgrif o araith Bebb yn llywydd y dydd, Eisteddfod Genedlaethol Pen-y-bont ar Ogwr, Awst 1948.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru (1948 : Pen-y-bont ar Ogwr)

Torion papur newydd

Mae'r gyfres hon yn cynnwys llungopïau o dorion papur newydd yn cynnwys adolygiadau o'i gyhoeddiadau yn bennaf, 1919-1949.

'Canada ac Awstralia ym Marddoniaeth Cymru'

Mae'r gyfres yn cynnwys proflenni yn dwyn y teitl 'Yr Ymerodraeth Brydeinig ym Marddoniaeth Cymru', sef y rhan gyntaf o erthygl mewn dwy ran a gyhoeddwyd yn y Y Genhinen, 1922 a 1924, yn dwyn y teitl 'Yr Ymerodraeth Brydeinig ym Marddoniaeth Cymru'. Mae peth gwahaniaeth rhwng y paragraff cyntaf a'r fersiwn cyhoeddedig, ond ac eithrio hynny maent yr un fath â'i gilydd. Fe all yr erthygl fod yn seiliedig ar ran o'i draethawd ymchwil, tt. 323-420 yn A1/2.

Results 1 to 20 of 114