Dangos 94 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau'r Parch. W. Rhys Nicholas, Ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Anerchiadau a draddodwyd gan WRN gan gynnwys 'Canmlwyddiant Bwlch-y-corn', [Peniel], 1968, ynghyd â'r canlynol, heb ddyddiad: 'Profiad Golygydd', 'Emynau', 'Arglwyddes ...,

Anerchiadau a draddodwyd gan WRN gan gynnwys 'Canmlwyddiant Bwlch-y-corn', [Peniel], 1968, ynghyd â'r canlynol, heb ddyddiad: 'Profiad Golygydd', 'Emynau', 'Arglwyddes Llanofer', 'Elfed', 'Sker House' a 'Hanes Llwyn-yr-hwrdd', [Clydau], 'Y Ffordd Gymreig o fyw' a 'The Welsh Way of Life'.

Cerddi amrywiol, y mwyafrif heb ddyddiad, a gyfansoddwyd ar achlysuron arbennig gan gynnwys englyn i Syr Geraint Evans; 'Cofio Jennie ...,

Cerddi amrywiol, y mwyafrif heb ddyddiad, a gyfansoddwyd ar achlysuron arbennig gan gynnwys englyn i Syr Geraint Evans; 'Cofio Jennie [Eirian Davies]'; 'Cyfarchion i Ysgol Tegryn (ar ei phen-blwydd yn gant oed)'; 'Cywydd: Mawl i Forgannwg Ganol'; 'Cywydd Cyfarch (i'r Dr W. Emrys Evans, wrth iddo ymddeol o fod yn Drysorydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg)'; 'Y Gwladgarwr (Er Cof am D. J. Williams)' a gyhoeddwyd yn ei gyfrol deyrnged; 'Cyfarchion i Brinli - yr Archdderwydd Etholedig'; 'Cyfarchion Pen-blwydd (i 'Ap Llysor' [W. R. P. George] yn 80 oed)'; 'Cywydd Coffa i'r diweddar Athro Stephen J. Williams'; 'Cywydd Croeso i Eisteddfod yr Urdd, Taf Elai', [1985]; 'Cywydd Croeso i Wyl Gerdd Dant Bro Ogwr 1995'; a 'Cywydd Cyfarch i Tegwyn Jones ar ei ymddeoliad', [1996].

Deunydd printiedig amrywiol gan gynnwys adroddiadau Eglwys Annibynnol Tabernacl, Porth-cawl, 1928-93 (92); rhaglenni cymdeithasau diwylliadol capeli, 1934-68, y bu WRN ...,

Deunydd printiedig amrywiol gan gynnwys adroddiadau Eglwys Annibynnol Tabernacl, Porth-cawl, 1928-93 (92); rhaglenni cymdeithasau diwylliadol capeli, 1934-68, y bu WRN yn gysylltiedig â hwy (93); taflenni ordeinio WRN yn weinidog, 1945-65 (95); adroddiad Eglwys Annibynnol y Bryn, Llanelli, 1947 (96); 'Deg Cannwyll Fechan' sef cyfaddasiad WRN o 'Ten Little Candles', Tywysydd y Plant, Ionawr 1952 (97); taflenni coffa, 1956-95 (99); rhaglen Caniadaeth y Cysegr, Horeb, Llandysul, Tachwedd 1964 (105); George H. Gorman, Hanfodion Ffydd y Crynwyr (Llundain, 1964) (106); rhaglen Cyfarfodydd Dathlu Hanner-Canmlwyddiant Eglwys Annibynnol y Tabernacl, Porthcawl, Medi 1966 (109); taflenni gwasanaethau priodas, 1970-91 (112); rhaglenni cymanfaoedd canu a detholiadau o emynau, 1973-93 (118); rhaglen Cyfarfodydd Dathlu Cyfraniad y Coleg Presbyteraidd, Caerfyrddin, Mehefin 1976, lle cafwyd cyfarchion gan WRN (121); W. Rhys Nicholas, Gwion englynion cyfarch (Tregaron, 1977) (125); rhaglenni dadorchuddio cofebau, 1986-96, i Waldo Williams, y Parch. Iorwerth Jones a W. R. [Evans] (127); rhaglen dathlu canmlwyddiant Ysgol Tegryn, Mehefin 1980 (129); adroddiadau Eglwysi Llwyn-yr-hwrdd a Brynmynach, 1980 a 1993 (130); Y Llusern (Ebeneser, Caerdydd), 1984, gyda phwt am WRN (131); rhaglenni sefydlu gweinidogion, 1985-95 (138); Carolau (Dinbych, 1988) gan gynnwys carolau gan WRN (143); rhestr o'r rhai a dderbyniodd gymrodoriaeth Coleg Prifysgol Abertawe, 1987, gan gynnwys cyflwyniad yr Athro Dewi Z. Phillips o WRN (144); rhaglen dathlu hanner canmlwyddiant cyhoeddi How Green was my Valley, Hydref 1989, gyda llofnod Rachel Thomas (150); rhai rhifynnau o Yr Hogwr, 1989-96 (152); rhaglen dathlu canmlwyddiant a hanner Capel y Bryn, Llanelli, 1991 (155); prosbectws Part-time Continuing Education Courses for the Public 1991-1992 gan gynnwys cwrs WRN ar gyfansoddiadau buddugol Eisteddfod Genedlaethol 1991 (158); 'Gwelaf ... Clywaf ... Dof', emyn gan WRN yn Cristion, Tachwedd/Rhagfyr 1992 (162); Y Tyst, Ebrill 1993, ar achlysur dewis WRN yn gymrawd yr Eisteddfod Genedlaethol (164); E. Curig Davies, Stori T John Penry (Abertawe, heb ddyddiad) (176); a Medi mewn gorfoledd. Llawlyfr Diolchgarwch (Esgobaeth Bangor, heb ddyddiad) yn cynnwys tri emyn gan WRN (177).

Canlyniadau 1 i 20 o 94