Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 101 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales CMA: Cofnodion Eglwys Seilo, Llandudno,
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Cofnodion gweinyddol y capel,

Mae'r grŵp yn cynnwys llyfrau gweinyddol ynghyd â deunydd ariannol yr eglwys, 1854-2000, yn eu plith cofrestri eglwysig, cyfrifon, manylion am gyfraniadau aelodau ynghyd â chofnodion cyfarfodydd swyddogion yr Eglwys a phapurau yn ymwneud â chymdeithasau.

Cofrestri eglwysig,

Mae'r gyfres yn cynnwys cofrestri eglwysig a rhestri aelodau Eglwys Seilo, ynghyd â chofnodion a chyfrifon ar gyfer Capel Ebenezer (gweler disgrifiad lefel ffeil). Cofnodir enwau a chyfeiriadau aelodau'r eglwys, cymunwyr newydd a phlant yr eglwys. Ceir nodyn hefyd os ydynt wedi ymadael i eglwysi eraill neu os bu farw aelodau. Mae rhai cyfrolau yn cynnwys ystadegau am aelodaeth yr eglwys a chyfrifon ariannol.

Llyfrau derbyniadau a thaliadau,

Mae'r gyfres yn cynnwys manylion am dderbyniadau a thaliadau ariannol yr eglwys, 1865-1935 a 1948-1978. Ymddengys fod rhai ohonynt yn perthyn i Drysorydd y Capel; yn eu plith ceir 'Llyfr Cyfrifon yr Ysgrifenydd Arianol', 1920-1935, sy'n cofnodi arian a gasglwyd ar gyfer amryw o achosion.

Canlyniadau 1 i 20 o 101