Showing 96 results

Archival description
Papurau Mathonwy Hughes
Print preview View:

Torion papur newydd

Mae'r gyfres yn cynnwys erthyglau a cherddi wedi eu torri o bapurau newydd a chylchgronau amrywiol,a gasglwyd gan Mathonwy Hughes, [?1921]-1992, y rhan fwyaf yn ymwneud ag ef, ei deulu a'i gyfeillion.

Papurau'n ymwneud â Chapel Tan'rallt, Llanllyfni

Mae'r gyfres yn cynnwys Adroddiadau Blynyddol, 1942, 1975 ac 1977, Capel Tan'rallt, Llanllyfni, Sir Gaernarfon, sef y capel a fynychwyd gan deulu Mathonwy Hughes, ynghyd â dwy gyfrol yn cynnwys gwaith gan ddisgyblion Ysgol Sul yr un capel, 1865 a 1979.

'Y Pris'

Mae'r ffeil yn cynnwys drafftiau o'i nofel anghyhoeddedig, 'Y Pris', [?1982]-[1984].

Beirniadaethau

Mae'r gyfres yn cynnwys llawysgrifau o waith Mathonwy Hughes fel beirniad, ynghyd â beirniadaethau ar ei waith ef, [?1966]-1991.

Deunydd ar gyfer ymrysonau

Mae'r gyfres yn cynnwys tasgau a osodwyd gan Mathonwy Hughes ar gyfer Ymryson y Beirdd, ynghyd â chynigion mewn ymrysonau eraill, gan gynnwys timau roedd ef yn aelod ohonynt[?1960]-[?1989].

Cylchgronau

Mae'r ffeil yn cynnwys rhifynnau o gylchgronau a gyhoeddwyd gan Mudiad Addysg Y Gweithwyr, gan gynnwys erthyglau am Mathonwy Hughes.

Ysgrifau

Ysgrifau yn llaw Mathonwy Hughes, [1985]-[1990]: 'Synhwyro', 'Cyflymder' (anghyflawn), 'Mentro meddwl', 'Hanfod bod a byw', 'Y ffactor tywyll', 'Deddfau sy'n dal', 'Gwadu’r hil', 'Dameg y chwynyn' 'Y goleuni mewnol', 'Methiant addysg', 'Y gobaith olaf', 'Methiant crefydd', 'Synhwyro. Y glust', 'Elwgarwch' a 'Methiant gwleidyddiaeth'.

Y Faner

Papurau, 1894-1985, yn ymwneud â chyfraniadau Mathonwy Hughes i'r Faner fel golygydd cynorthwyol.

Papurau amrywiol

Papurau amrywiol, 1894-1985, gan gynnwys rhestr brintiedig o swyddogion Cymdeithas Gyfeillgar Dyffryn Nantlle, 1894, rhaglenni eisteddfod gadeiriol Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych, 1980-1, dirwy a roddwyd iddo am yrru yn ddiofal yn 1983 ac erthygl Mathonwy Hughes, ‘Dyfodol Y Faner’, am fwriad Cyngor y Celfyddydau i derfynu ei gymorthdal tuag at gynnal Y Faner, [1987].
Ceir hefyd enghreifftiau o waith Ellen Mary Hughes, mam Mathonwy Hughes, a rhaglen brintiedig Sioe Nantlle Vale, Penygroes, 1901.

Ffotograffau amrywiol o Mathonwy Hughes

Ffotograffau o Mathonwy Hughes ac atgynhyrchiad o ffotograff o lun cynnar ohono, tua 1905 (Archifau Gwynedd Archives); toriadau o'r Daily Post, 1987, gyda'r pennawd 'Mathonwy Hughes - octogenerian with clear views about what he wants for his country' ac o erthygl Angharad Thomas, 'Saib Silyn a throi at ei nai', 2019 , ynghyd â ffotograff o Meredydd Evans a'r [actor Guto Roberts].

Results 1 to 20 of 96