Showing 50 results

Archival description
Papurau John Ellis Williams
Print preview View:

Toriadau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr lloffion 'Rhif 4(a), 1931', sef toriadau papur newydd 1930-1931, rhai yn trafod y ddrama Y Pwyllgorddyn. Mae'n cynnwys hefyd rhaglenni amrywiol yn cynnwys cyfarfod o'r Seiri Rhyddion, 1934, a ffotograffau personol.

Toriadau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr lloffion 'Rhif 7, 1956-58', sef toriadau papur newydd, 1945, 1955-1958. Mae'n cynnwys llythyr oddi wrth T. Gwynn Jones, llythyr a ffotograff oddi wrth Joseph Davies, Mahanoy City, Pennsylvania, 1939, ffotograffau 1924, 1953, 1945, rhaglenni, 1936, 1956-1958, a thri drafft o ddarllediadau radio, 1956-1957.

Jones, T. Gwynn (Thomas Gwynn), 1871-1949

Toriadau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr lloffion 'Rhif 9, 1961-62', sef toriadau papur newydd 1961-1962, llythyrau oddi wrth Thomas Parry, 1961, W. E. Jones ac eraill ar ymddeoliad John Ellis Williams o Ysgol Glanypwll, 1961, llythyr oddi wrth Saunders Lewis, 1961, ynghyd â cherddi i John Ellis Williams ar ei ymddeoliad, a rhaglenni, 1961-1962.

Parry, Thomas, 1904-1985

Toriadau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr lloffion 'Rhif 10, 1963-66', o doriadau papur newydd, 1963-1966, llythyrau yn trafod hunangofiant John Ellis Williams Inc yn fy Ngwaed 1963-1964, rhaglenni 1963-1963, a cherdd ar ei ymddeoliad, 1961.

Toriadau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr lloffion 'Rhif 11, 1966 to 1972', sydd yn cynnwys toriadau papur newydd 1965-1971. Mae hefyd yn cynnwys rhaglen ddrama, 1970, a cherdd ymddeoliad iddo, 1961.

Toriadau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr lloffion 'Rhif 12, 1972 to 1973' sydd yn cynnwys toriadau papur newydd 1972-1973, a llythyrau oddi wrth Y Parch. R. Tudur Jones, 1972, a D. Tecwyn Lloyd, 1973.

Jones, R. Tudur (Robert Tudur)

Toriadau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr lloffion 'Rhif 13, 1 Jan. 1974 to' sydd yn cynnwys toriadau papur newydd, 1974, a llythyrau oddi wrth Alun Creunant Davies, 1974, Islwyn Ffowc Elis, 1974, a Robin Williams, 1973, a ffotograff o Fron y Garth, 1912.

Toriadau papur newydd amrywiol

Mae'r gyfres yn cynnwys llyfrau lloffion, 1912-1974, yn bennaf o doriadau papur newydd o erthyglau John Ellis Williams, adolygiadau o'i ddramâu, ac erthyglau yn ymwneud â'i weithiau llenyddol, ei gwmni drama, ei rôl fel prifathro a'i ymddeoliad, ynghyd â'i raglenni radio a theledu. Mae'r llyfrau lloffion hefyd yn cynnwys llythyrau oddi wrth ffigyrau amlwg yn y byd llenyddol Cymreig ynghylch gweithiau John Ellis Williams, rhaglenni cystadlaethau a gwyliau drama lle defnyddir dramâu John Ellis Williams neu ei fod yntau'n beirniadu; ffotograffau o'i ddramâu a ffotograffau personol.

Papurau John Ellis Williams

  • GB 0210 JELWIL
  • fonds
  • 1912, 1918-1975 (accumulated [1922]-1975)

Mae'r fonds yn cynnwys yn bennaf llyfrau lloffion o doriadau papur newydd o golofnau ac ysgrifau John Ellis Williams, 1918-1975. Mae'r llyfrau lloffion hefyd yn cynnwys toriadau papur newydd eraill ynglŷn â'i gyfansoddiadau, gohebiaeth, rhaglenni cystadlaethau a gwyliau dramâu, ffotograffau a lluniau, a rhaglenni cyfarfodydd Seiri Rhyddion lleol, 1912-1974. Ceir hefyd ddrafftiau o ddwy gyfrol anghyhoeddedig, 1936 a [1973], a llun o Ellis Humphrey Evans ('Hedd Wyn'), a chopi o Cofarwydd, R. Silyn Roberts, 1930.

Williams, John Ellis, 1901-1975

Toriadau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr lloffion 'Rhif 5(c), 1945-9' sydd yn cynnwys toriadau papur newydd amrywiol, 1944-1949. Mae hefyd yn cynnwys rhaglenni cyfarfodydd Cyfrinfa'r Moelwyn, 1946-1948, rhaglenni dramâu, 1945-1949, a nodyn oddi wrth J. B. Priestley, 1943.

Priestley, J. B. (John Boynton), 1894-1984

Toriadau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr lloffion 'Rhif 6, 1950-55' sydd yn cynnwys toriadau papur newydd, 1936, 1950-1955. Mae hefyd yn cynnwys nifer o raglenni drama, 1950-1954, a ffotograffau, 1936, 1940, 1950-52.

Results 1 to 20 of 50