Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 25 canlyniad

Disgrifiad archifol
Archif Y Lolfa, ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Gohebiaeth gyffredinol 1998,

Llythyrau gan nifer o ohebwyr yn cynnwys Islwyn Ffowc Elis, copïau o atebion Robat Gruffudd, a chopïau o lythyrau ganddo at Heini Gruffudd, ei frawd, ac at yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas.

Gohebiaeth gyffredinol 1999,

Llythyrau, copïau o atebion Robat Gruffudd a phapurau ynghylch cynnig Ralph Maud am lyfr ar hanes gweledol Cymru, Llyfr y Ganrif a'r lawnsiad. Mae'r gohebwyr yn cynnwys Tom Davies ynglŷn â'r Celtic Alliance, Siân Ifan yn trafod coffáu Owain Glyndwr, a Marian Delyth. Ceir hefyd gopi o lythyr Robat Gruffudd at, ac ateb oddi wrth, Dafydd Wigley yn trafod dewis ymgeisyddion ar gyfer etholiadau i'r Cynulliad yn 2003, rhai papurau yn ymwneud â Richard Booth (yn Almaeneg), a nifer o lythyron oddi wrth Robat Gruffudd at ei dad a'i frawd.

Gohebiaeth gyffredinol 2000,

Llythyrau a chopïau o atebion oddi wrth Robat Gruffudd yn cynnwys llythyrau oddi wrth Marion Löffler yn trafod posibiliadau cyhoeddi, llythyrau yn trafod llyfr ar Owain Glyndwr i gyd-fynd â'r dathliadau coffáu, a phapurau yn ymwneud ag adroddiad Grant Thornton ar y Cyngor Llyfrau a'r grant cyhoeddi.

Gwasg Gwalia,

Llythyrau a gohebiaeth oddi wrth Eirug Wyn ac eraill a copïau o atebion Robat Gruffudd. Ceir hefyd bapurau yn trafod sefydlu Gwasg Gwalia yn 1987, gwasanaeth argraffu Gruffudd yr Argraffydd, cyhoeddi'r cylchgrawn LOL, argraffu Un Nos Ola Leuad, ac achos yn erbyn Eirug Wyn a LOL yn 1994, ynghyd â chyfrifon Gwasg Gwalia.

Wyn, Eirug

Y Llewod,

Llythyrau gan rai o'r plant a gafodd fynd ar Fordaith y Llewod i Bremen ar yr MS Prins Oberon a'r daith i Hamburg, a llythyrau oddi wrth Dafydd Parri yn trafod y llyfrau, y teithiau a dulliau hysbysebu'r gyfres.

Parri, Dafydd.

Canlyniadau 21 i 25 o 25