Rhagor o bapurau W. J. Roberts, 'Gwilym Cowlyd'. Yn eu plith ceir a ganlyn: (a) 'Llyfr y Caniadau o eiddo Gwilym glan Cowlyd "alias" William Roberts', c. 1851;. (B) Eisteddfod Gadeiriol y Cymry yn Llanrwst Awst 1, 2, 3 1878. Beirniadaeth [William Williams] 'Ab Caledfryn' ar ddwy gystadleuaeth arlunio, wedi ei chyfeirio at Gwilym Cowlyd, Llanrwst; (c) Hir a thoddaid 'Y Delyn Deir-rhes' (un o destunau Eisteddfod y Cymry yn Llanrwst Awst 1878), gan 'Hen Frython', 'Tubal Cain', 'Ap Myrddin', 'Telynog', a 'Hen Delynor'; (ch) Englynion i'r Gledrffordd gan 'Shon ap Morgan' a 'Corsen' (Gweler rhai 'Alpha' yn y rhestr gyntaf). Cyfeiriodd 'Corsen' ei gyfres 'To the Cymreigyddion Society Liverpool'; (d) 'Englynion y deuddeg arwydd' gan 'Rhinon'; (dd) Hir a thoddaid i'r Parch. Hugh Jones, Llanrwst (Yr Archddiacon Hugh-Jones A.C. (Dunawd) gan 'Gwilym Cowlyd'; (e) 'Galareb "Gray"' (Cyfieithiad o Gray's Elegy) gan 'Priam' yn dechrau 'Yr Hwyrol-gloch a gana gul y dydd'; (f) 'Can i'r Gwaith dwr' (Testun Cyfarfod Cystadleuol Wesleaid Llanrwst) gan 'Un wedi blino yn cario dwr', 'Eryr o fro'r eira', 'Will o' the Whisp ar y mater', a 'Twm o'r Nant'; (ff) Hir a thoddaid, 'Yr Esgob Morgan', addas i'r gofgolofn, gan 'Maenan'; (g) Llythyr, Gorff. 2 1861 oddi wrth John Wynne (Ioan Hiraethlyn), Tailor, Eglwysfach Near Conway, at Mr W. J. Roberts (G. Cowlyd) yn cynnwys anerchiad iddo ar gân; (ng) 'Beddargraph Mrs S. A. Roberts anwyl briod D. Roberts Yswain Tal-y-Cafn' gan 'Llenor o'r Llwyni', Mawrth 17 1873; (h) Copi o englyn gan Dewi Wyn o Eifion, 'Mewn tryblith heb fendith f'Unduw - a ffafrau' ......'Yr englyn diweddaf a gyfansoddodd'; (i) 'Cân Newydd yn rhoddi hanes am Heliwr yr hwn a saethodd Ebol mynydd, yn lle Ceinach lwyd iw chanu ar y mesur a elwir Yr Heliwr Trwstan', yn dechrau 'Aeth pedwar gwr bonheddig-a'u gynau gloewon claer'.... 'King John ai cant'; (l) 'Claddedigaeth Cadeirfardd' - hanes cynhebrwng O. Gethin Jones, Tyddyn Cethin, Penmachno; (ll) 'Galarnad y dyweddiedig ar fedd ei Anwylyd'. 'Ysgrifenwyd yn "Ince's Parsonage" Mehefin 1852, William Roberts'; (m) 'Pennillion Disgrifiadol o Drefriw. Tôn. - "Hyfrydwch y Brenin Sior"' yn dechrau 'Hafan siriol, ddedwydd, hudol,...' gan 'Gwyalchen o'r Cwm'. [Argraffwyd gan] W. J. Roberts, Argraphydd, a Llyfrwerthydd, Cowlyd Wryf, Heol Watling, Llanrwst; (n) '"Diystyru Glendid Glan". Neu ddiofrydiad trylwyr y Bardd i gwmni y Dosbarth Ffwlbriaidd, o'r Merched. Mesur "Paddy Denny"' gan 'Dylluan Cwm Cowlyd'. Printiedig; (o) Rhestr Testunau Arwest Farddonol Glan Geirlonydd, Medi 17 1896. Printiedig.