- 7.
- Ffeil
- 1983.
'Anturiaeth y Ditectif', pennod yn y gyfres 'Henllys Fawr', 1983 (Wyvern Television West), addasiad Gareth Miles yn seiliedig ar W. J. Griffith, Storïau'r Henllys Fawr (Aberystwyth, 1938); ynghyd â manylion ffilmio.
'Anturiaeth y Ditectif', pennod yn y gyfres 'Henllys Fawr', 1983 (Wyvern Television West), addasiad Gareth Miles yn seiliedig ar W. J. Griffith, Storïau'r Henllys Fawr (Aberystwyth, 1938); ynghyd â manylion ffilmio.
'Ar lan y môr', 1985 (Ffilmiau Eryri),
'Derfydd Aur' / 'Realms of Gold'
Sgript ddwyieithog ar gyfer y ffilm 'Derfydd Aur'/'Realms of Gold' (1989), sy'n seiliedig ar weithgareddau Merched Beca yn ystod y blynyddoedd 1839-43.
Deunydd ychwanegol i archif Sgriptiau Eurwyn Williams a ddaeth i law Medi 2022.
Dewi Wyn Williams, 'Lois'. Drafftiau, 2 a 5
Dewi Wyn Williams, 'Lois'. Drafftiau, 2 a 5, 1998; fe'i dangoswyd yn wreiddiol yng Ngyl Ffilm Ryngwladol Cymru, Caerdydd, 1998, ac ar S4C yn 1999.
El Bandito: The Autobiography of Orig Williams
Llungopi o deipysgrif El Bandito: The Autobiography of Orig Williams (Merchant of Violence) (Gwasg Y Lolfa, 2010) (gweler, er enghraifft: https://www.cagematch.net/en?id=65&nr=485).
Elwyn Jones, 'The Drowning Man', rhaglen 2 yn y gyfres 'Euog', 1982 (Cwmni Teledu Chatsworth, Llundain). Eurwyn Williams a fu'n gyfrifol am gyfieithu'r sgript i'r Gymraeg. Sgript ddwyieithog.
Eric Wynne Roberts, 'Blumenfeld', [1986] (Ffilmiau T Gwyn),
Eric Wynne Roberts, 'Maria', 1982 (Ffilmiau T Gwyn),
Eurig Wyn, 'Abwyd', penodau 1-4, [1986] (Ffilmiau Eryri),
Deunydd yn ymwneud â'r actor Cymreig Hugh Griffith, sy'n cynnwys:
Cardiau post yn dangos Theatr Frenhinol Shakespeare a Theatr yr Alarch (Swan Theatre), Stratford-upon-Avon (di-ddyddiad).
Taflenni argraffiedig gyda manylion dadorchuddio cerflun er cof am Hugh Griffith gan y cerflunydd John Meirion Morris. Am yr achlysur hwn, gweler, er enghraifft: https://artuk.org/discover/artworks/hugh-griffith-19121980-277631 [1980].
Llungopi o 'Y Gigfran', drama radio a ddarlledwyd ar Radio Cymru, 15 Tachwedd 1946, sy'n seiliedig ar waith y llenor Edgar Allan Poe, yn arbennig felly ei gerdd 'The Raven', a atgynhyrchir yma ochr-yn-ochr â chyfieithiad y gerdd i'r Gymraeg; cymerir rhan cymeriad 'Llais 2' gan Hugh Griffith. Dyddir y deunydd gwreiddiol [1946].
Llungopi o erthygl yn y wasg gan Hugh Griffith yn dwyn y teitl 'Tro ym Mhen Llŷn' (dim dyddiad yn amlwg, ond mae cynnwys yr erthygl yn awgrymu dechrau'r Ail Ryfel Byd).
Llungopi o gyfieithiad i'r Saesneg [?gan ac] yn llaw y gwleidydd, bardd, dramodydd a'r adolygydd llenyddol Saunders Lewis o bennill gyntaf yr emyn 'Iesu, Iesu, 'rwyt ti'n ddigon, 'Rwyt ti'n llawer gwell ['mwy' yw'r testun cywir] na'r byd ...' (di-ddyddiad).
Llungopïau o ffotograffau yn dangos Hugh Griffith yn ei fynych rannau mewn ffilmiau (di-ddyddiad, ond awgrymir dyddiad yn ôl y ffilm).
Darlun cartŵn o Hugh Griffith yn rhan Falstaff (1964) (gweler https://collections.shakespeare.org.uk/search/museum/strst-sbt-2017-13-38). Dyddir y deunydd gwreiddiol [1964].
Llungopïau o lythyrau at Hugh Griffith, sydd bennaf yn trafod gwaith a llwyddiannau Griffith, y gohebwyr fel a ganlyn:
Y gwleidydd, bardd, dramodydd a'r adolygydd llenyddol Saunders Lewis (1950, 1959, 1960, 1975); y darlledwr a swyddog gweithredol y BBC Huw Wheldon (1954); yr actor a'r canwr Richard Harris (1962); y bardd, adolygydd ac ysgolhaig Gwenallt (1962); y gwleidydd, cyfreithiwr ac awdur Gwynfor Evans ([?1963]); y bardd a'r dramodydd Cynan (1965); y dramodydd, awdur ac ysgolhaig John Gwilym Jones (1965); y bardd a'r dramodydd Christopher Fry (1975); a'r newyddiadurwr, awdur a gohebydd John Arlott (di-ddyddiad).
Ceir hefyd lythyr di-ddyddiad oddi wrth 'Charlotte' (enw'r derbynnydd yn annarllenadwy).
Llungopïau a chopïau o lythyrau oddi wrth Hugh Griffith, y gohebwyr fel a ganlyn:
Y gwleidydd, cyfreithiwr ac awdur Gwynfor Evans (1964); y bardd a'r dramodydd Cynan (1965); y bardd, adolygydd ac ysgolhaig Gwenallt (1965); a'r awdur, cynhyrchydd drama ac ymgyrchydd iaith Norah Isaac (1940-1941, 1961 a di-ddyddiad), rhai o'r llythyrau wedi'u hanfon tra bod Griffith yn cyflawni gwasanaeth milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Llungopïau a chopïau teipysgrif o lythyrau oddi wrth Hugh Griffith at aelodau teuluol, gan gynnwys yr actores a'r athrawes Elen Roger Jones a'i gŵr Gwilym Roger Jones, sef chwaer a brawd-yng-nghyfraith Hugh Griffith, a'u merch Mary (neu Meri) Rhiannon (un llythyr yn anghyflawn) (1942-1945, 1957-1959 a di-ddyddiad); a'i fam Mary Griffith (di-ddyddiad). Anfonwyd nifer o'r llythyrau tra 'roedd Griffith yn cyflawni gwasanaeth milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Llungopïau a chopïau yn bennaf o ohebiaeth, 1960-1961 a di-ddyddiad, rhwng Hugh Griffith a chynrychiolwyr o gwmni ffilmiau Metro-Goldwyn-Mayer (MGM) tra 'roedd Griffith yn chwarae, neu'n paratoi i chwarae, rhan 'Alexander Smith' yn y ffilm 'Mutiny on the Bounty' (1962), ynghyd â rhai amserlenni (call sheets) a rhan o'r sgript. Rhai o'r llythyrau oddi wrth Griffith wedi'u croesi allan a heb eu hanfon. Un llythyr yn Ffrangeg.
Norman Williams, 'Gwely a brecwast', yn cynnwys penodau 1-8, rhai 1982 (Ffilmiau Hiraethog) ac eraill, heb ddyddiad [Ffilmiau Eryri]; ynghyd â manylion ffilmio.