Showing 20 results

Archival description
Llawysgrifau Evan James Welsh
Advanced search options
Print preview View:

1 results with digital objects Show results with digital objects

Barddoniaeth

Papurau rhyddion yn awr wedi eu rhwymo yn gyfrolau ydyw Evan James MSS 8-15. Yn Evan James MSS 8-11, sef y rhai sy'n cynnwys barddoniaeth Ieuan, gwelir ar gefnau rhai dalennau y nodiad 'copied to book', yn llaw Iago; Evan James MS 3 ydyw'r llyfr hwn. Ar eraill gwelir 'copied to the music book', yn llaw Iago eto; nid yw'r llyfr hwn yn y casgliad. Gwelir fod nifer o'r cerddi wedi bod trwy'r post, rhai yn llythyrau at aelodau o'i deulu, eraill i eisteddfodau. Mae ychydig o waith Tomos ab Iago yn gymysg ag eiddo ei frawd oherwydd defnyddio'r un ddalen gan y ddau; mae'n bosibl hefyd fod nifer o'r cerddi dienw, neu â ffugenwau yn unig, yn waith Tomos - tebyg iawn i'w gilydd yw'r ddwy ysgrifen. Mae peth ansicrwydd hefyd ynglyn ag awduriaeth y cerddi yn Evan James MS 10, ff. 58-65.

Barddoniaeth

Cerddi o waith Dewi ab Iago, Tomos ab Iago, Iago ab Iago, 'Edwin Bach' (?gwaith Ieuan wedi ei dadogi ar ei fab), Robert Davies, Nantglyn (nid yn ei law, dyfrnod 1842) ac amryw o dan ffugenwau (cerddi eisteddfodol gan mwyaf, gweler Evan James MS 13), yn eu plith ddwy groesawgerdd i Ieuan ar ei ddyfodiad i Bontypridd.

Barddoniaeth Ieuan ab Iago

Casgliad o waith Ieuan yn llaw Iago, ei fab. Ar f. 1 verso, yn llaw Ieuan: 'Barddoniaeth Ieuan ab Iago, Pontypridd, 1870'. Mae'r rhan fwyaf o'r cerddi wedi eu copio o'r llawysgrifau sy'n awr wedi eu rhwymo yn Evan James MSS 8-11; mae ychydig o gerddi nas ceir mewn llawysgrifau eraill; ar ff. 36 verso-37 ceir englynion coffa i Ieuan gan 'Ap Myfyr' (John Davies, Pontypridd); daw'r cerddi ar ff. 40-42 verso o'r Athraw (1870) a Gardd Aberdar (1854). Nid oes unrhyw drefn arbennig i'r gyfrol; ceir dyddiadau wrth y cerddi lle maent ar gael yn y gwreiddiol. Wrth rai cerddi nodir cyfansoddi tonau iddynt gan Iago; yn ddiweddarach ychwanegodd Taliesin James, wyr Ieuan, nodiadau cyffelyb wrth gerddi y cyfansoddodd yntau donau iddynt, hyd 1917. Rhestrir y cynnwys ar ff. 110 verso-111. Ar ddalen rydd (yn awr f. i) ceir rhestr o gerddi yn llaw Ieuan sydd bron yn cyfateb i gynnwys y gyfrol; tybed iddo wneud detholiad o'i waith i'w gopio gan Iago.

Barddoniaeth Ieuan ab Iago

Barddoniaeth Ieuan ab Iago. Prynodd Ieuan y gyfrol hon yn 1831 (gweler f. 1) ac ymddengys iddo gopio iddi ddethol gerddi hyd 1845. Mae'r rhan fwyaf o'r cerddi wedi eu dyddio, a'r rheini yn nhrefn amser. Ceir traethawd ar ff. 22-26 verso. Ar ddiwedd y gyfrol ceir sgriblau Iago, ei fab, gan gynnwys rhestr o drigolion y Druid, 1842-7.

Beirniadaethau eisteddfodol

Beirniadaethau Ieuan ab Iago yn yr eisteddfodau canlynol: eisteddfod y Maen Chwyf, Pontypridd, 1853, eisteddfod y Maen Chwyf, 1856, eisteddfodau Pontaberbargoed, 1858, Ynysybwl, 1859, a Glyn Rhondda 1863; ynghyd â rhai o'r eitemau y ceir beirniadaethau arnynt.

Cerddi

Cerddi heb ddyddiad yn llaw Iago ab Iago [recte Ieuan] o f. 58 ymlaen.

Dyddiadur poced

Dyddiadur poced Rider's British Merlin, 1806. Nodiadau cyfoes yn nodi ysgrifennu llythyrau at 'Aunt Langdale', 'Bishop Sharrock', Edward Lawrence, 'Aunt' ac 'Uncle Lorymer', ac eraill, gyda chyfeiriadau rhai ohonynt. Ychydig o gyfrifon cyfoes ac amryw gyfrifon llai llythrennog, 1820, 1824, ac heb ddyddiad. Evan James, Elizabeth James a James James wedi torri eu henwau yma a thraw.

Dyddiadur poced

Dyddiadur poced Marshall's Ladies Daily Remembrancer, 1837, wedi ei ddefnyddio fel llyfr nodiadau gan Ieuan. Cynnwys farddoniaeth Ieuan, peth ohoni mewn pensil ac heb fod yn gwbl ddarllenadwy bellach, 1837-1849; rai hen benillion; amryw gyfrifon; gyfarwyddydau meddygol; a nodiad am y ddau frawd yn yr Unol Daleithiau, 1839. James James ac enwau eraill wedi eu torri yma a thraw.

Llawysgrifau Evan James

  • GB 0210 EVANMES
  • Fonds
  • 1806-1917

Llawysgrifau Evan James a James James, cerddoriaeth a barddoniaeth yn bennaf, 1806-1917, yn cynnwys fersiwn gwreiddiol yr alaw 'Glan Rhondda', y daethpwyd i'w hadnabod yn ddiweddarach fel Hen Wlad fy Nhadau, 1856; barddoniaeth Ieuan ab Iago,1831-1842; dyddiaduron,1806-1827, barddoniaeth, 1837-1849; cyfriflyfrau poced,1836-1837; a beirniadaethau eisteddfodol, 1853-1863. = Manuscripts of Evan James and James James, mainly music and poetry , 1831-1917, including the original version of the tune 'Glan Rhondda', which later became known as Hen Wlad fy Nhadau, 1856; poetry of Ieuan ab Iago, 1831-1842; diaries, 1806-1827, poetry, 1837-1849; pocket account books, 1836-1837; and Eisteddfod adjudications, 1853-1863.

James, Evan, 1809-1878

Llyfr cyfrifon poced

Llyfr cyfrifon poced yn cynnwys amryw gyfrifon, 1836-1837, hyd f. 11. Y gweddill yn farddoniaeth Ieuan, cyfarwyddydau meddygol a llythyrau (neu ddrafftiau ohonynt) gan Ieuan o blaid Lewis James adeg rhwyg yr Iforiaid, 1840. Enw James James yma a thraw.

Llyfr poced

Llyfr poced yn cynnwys rhai cyfrifon (Tredegar Club a Sirhowy Club), 1836, hyd f. 6; barddoniaeth Ieuan, 1838-1841; a sgriblau gan Iago, gan gynnwys rhestr o drigolion y Druid (tua 1845).

Llyfr Tonau Iago ap Ieuan

Llyfr Tonau Iago ap Ieuan. Ceir disgrifiad o gynnwys y gyfrol hon yn Percy A. Scholes, 'Hen Wlad Fy Nhadau', yng Nghylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 3.1-2 (1943), 1-10 (tt. 1-3). Ceir sgôr gwreiddiol Hen Wlad fy Nhadau ar f. 41 verso.

Llythyrau at Ieuan ab Iago a phapurau amrywiol

Llythyrau at Ieuan oddi wrth Evan Jones (Gwrwst), 1846, Lewis James, ei frawd, 1847 a 1860, Eiddil Ifor [T. E. Watkins], 1850, a Charles Jenkins, Pontypridd, 1864; llythyr at Edward James, Pontaberbargoed, a'i chwaer Mary oddi wrth frawd, [James], yn America; llythyr at Thomas James oddi wrth Evan Jones, 'Principality Office', Caerdydd, 1848; drafft o gytundeb rhwng Ebenezer Williams ac Evan James ynglyn â'r ffatri yn Mill Street, Pontypridd, 1847; papurau amrywiol yn perthyn i Ieuan, gan gynnwys rhaglenni eisteddfodau; ychydig o bapurau yn perthyn i Iago ab Iago a'i fab Taliesin, rhai yn brintiedig.