Showing 18 results

Archival description
CMA: Cofysgrifau Capel Ebenezer, Y Tymbl,
Print preview View:

CMA: Cofysgrifau Capel Ebenezer, Y Tymbl,

  • GB 0210 EBTYMBL
  • fonds
  • 1907-1999 /

Cofysgrifau Capel Ebenezer, Y Tymbl, sir Gaerfyrddin, gan gynnwys llyfrau cofrestri'r eglwys, sef Llyfr Cofrestr Eglwysig, 1949-1957; cofrestr bedyddiadau, 1923-1992; llyfr o dystysgrifau claddfa'r Capel, 1910-1983; a llyfr Ysgrifennydd yr Ysgol Sul, [ c. 1960]-[c. 1970]; ynghyd â llyfryn llythyron aelodaeth, 1977-1999. Ceir hefyd gofysgrifau ariannol, yn cynnwys llyfrau cyfrifon y Capel, 1932-1996; a'r Ysgol Sul, 1952-1967; a llyfrau cyfrifon y casgliadau ariannol wythnosol tuag at y Weinidogaeth, [c. 1937]-1963 a 1985-1995. Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys llyfr o bregethau Abergeirw, 1907.

Capel Ebeneser (Tumble, Wales)

Cofrestri,

Llyfrau cofrestri Eglwys Ebenezer, Y Tymbl, yn cynnwys llyfr yn rhestri'r aelodau, 1949-1957; cofrestr bedyddiadau, 1923-1992; llyfr claddfa, 1910-1983; llyfryn llythyron aelodaeth, 1977-1999; a llyfr ysgrifennydd yr Ysgol Sul, [c. 1960]-[c. 1970]. Ceir hefyd llyfr nodiadau o gofnodion o bregethau a bregethwyd yn Abergeirw ym 1907.

Cofrestr bedyddiadau,

Cofrestr bedyddiadau'r Eglwys, gan nodi enw, dyddiad geni a manylion rhieni y sawl a fedyddiwyd. Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys cofnodion bedyddio St David's, 1923-1949. Mae'r cofnodion yn prinhau wedi 1976.

Llyfr cyfrifon y Capel,

Cofnodion o gasgliadau wythnosol tuag at ddyled y Capel, gyda chyfraniadau blynyddol yr aelodau, 1932-1966. Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys cofnodion o dderbyniadau a thaliadau Trysorfa'r Weinidogaeth, 1966-1995, gan gynnwys, cofnod o dreuliau'r gweinidog, cyfrif y Gronfa Gynnal a lwfans tŷ'r gweinidog ar ddiwedd y cyfrif blynyddol. Dilynir hyn gan gofnod o gyfrifon Casgliad y Cyrddau Pregethu, 1973-1992.