Dangos 159 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Menna Elfyn Ffeil / File
Rhagolwg argraffu Gweld:

Emyn i Gymro

Deunydd yn ymwneud ag Emyn i Gymro, gwaith a gomisiynwyd ar gyfer Gŵyl Tŷ Newydd 2001 i ddathlu bywyd a gwaith y bardd R. S. Thomas (geiriau gan Menna Elfyn, cerddoriaeth gan Pwyll ap Siôn), sy'n cynnwys copïau drafft a theg o'r gerdd a rhaglen a phosteri printiedig.

Songlines

Deunydd yn ymwneud â Songlines, sef prosiect gerddorol ar y cyd â myfyrwyr rhai o golegau De Cymru, gan gynnwys rhaglenni printiedig, nodiadau/drafftiau a cherdyn diolch oddi wrth y myfyrwyr yn diolch i Menna Elfyn am gyfrannu ei gwaith barddonol tuag at y prosiect.

Y Dyn Unig/The Red Lady of Paviland

Deunydd yn ymwneud â'r cantata Y Dyn Unig/The Red Lady of Paviland, y geiriau gan Menna Elfyn a'r gerddoriaeth gan Andrew Powell, sy'n cynnwys sgôr gerddorol, libretti, rhaglenni a phosteri printiedig, cytundeb comisiwn, gohebiaeth rhwng Menna Elfyn ac Andrew Powell, a gwybodaeth am gydweithwyr y prosiect ac am 'ddyn unig' ogof Paviland.

Rhaglen deledu: Troi'r Dail

Toriad cylchgrawn yn rhaghysbysebu'r rhaglen gyntaf yn y gyfres Troi'r Dail, a ddarlledwyd ar BBC Cymru, Ionawr 1981. Gwrthrych y rhaglen oedd Menna Elfyn.

Rhaglen deledu: Plant y Stryd

Deunydd yn ymwneud â'r rhaglen deledu Plant y Stryd, y ddegfed rhaglen yn y gyfres Dewch i Foli, a ddarlledwyd Rhagfyr 1994, gan gynnwys copi o sgript y rhaglen, cardiau a llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth Juconi, sef lloches i blant y stryd yn ninas Puebla, Mecsico, ac oddi wrth yr International Children's Trust, cerdd gan Menna Elfyn a thorion o'r wasg.

Deunydd amrywiol

Deunydd amrywiol yn ymwneud â gwaith Menna Elfyn gyda'r cyfryngau, gan gynnwys cytundeb printiedig oddi wrth y BBC, llythyrau oddi wrth gwmni cyfryngau digidol Fidgety Lizard a Phrifysgol Copenhagen, slip cyfarchion Ffilmiau Bryngwyn a bras nodiadau.

Traethodau ymchwil ar waith Menna Elfyn

Traethodau ymchwil yn ymdrin â gwaith barddonol Menna Elfyn ac eraill, gan gynnwys traethawd di-ddyddiad yn yr iaith Saesneg (gyda dyfyniadau barddonol yng Nghymraeg) gan Siôn Brynach, Coleg Iesu, Rhydychen, traethawd di-ddyddiad a di-enw yn yr iaith Gymraeg (prifysgol/sefydliad heb ei henwi) a thraethawd di-ddyddiad yn yr iaith Saesneg gan Manon Ceridwen James (prifysgol/sefydliad heb ei henwi).

Ysgol Haf Ryngwladol Dylan Thomas 2014-2016

Deunydd yn ymwneud ag Ysgol Haf Ryngwladol Dylan Thomas, 2014-2016, a gynhaliwyd yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan a lle bu Menna Elfyn yn un o'r tiwtoriaid, gan gynnwys rhaghysbysiadau, amserlenni a gwybodaeth ar gyfer y cwrs, rhestr myfyrwyr, araith gan Menna Elfyn wrth gyflwyno Gwobr Farddoniaeth Ryngwladol Dylan Thomas, gwybodaeth am Dylan Thomas, ynghyd ag enghreifftiau o'i waith, ac adborth un o'r myfyrwyr.

Gweithdai eraill

Deunydd yn ymwneud â gweithdai ar gyfer plant ac oedolion a gynhaliwyd gan Menna Elfyn, un a'i ar ei phen ei hunan neu ar y cyd â beirdd neu lenorion eraill, rhai ohonynt dramor dan nawdd y Cyngor Prydeinig, gan gynnwys llyfrau nodiadau (yn bennaf ar gyfer cyrsiau yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy), rhaghysbysebion am gyrsiau, cynlluniau ac amserlenni dysgu, enghreifftiau o waith myfyrwyr ac adborth myfyrwyr, gohebiaeth, torion o'r wasg a gwybodaeth gefndirol.

MA mewn Ysgrifennu Creadigol

Deunydd yn ymwneud â swyddogaeth Menna Elfyn fel Cyfarwyddwr Creadigol y cwrs MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan, gan gynnwys copïau drafft a theg o destunau darlithoedd, prospectws ar gyfer y cwrs a manylion am weithdy ysgrifennu creadigol a gynhaliwyd yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy ym Medi 2002.

Deunydd amrywiol

Deunydd yn ymwneud â gyrfa Menna Elfyn o fewn Coleg Prifysgol Cymru, gan gynnwys llythyr, 1984, at Menna Elfyn yn ei hysbysu na fu'n llwyddiannus yn ei chais am y Gymrodoriaeth Breswyl i Lenor yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan am y cyfnod 1984-85; datganiad yn y cylchgrawn Llais Llyfrau, Gaeaf 1984, fod Menna Elfyn wedi ennill Cymrodoriaeth Awdur Cymraeg Coleg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan (gyda Gillian Clarke yn cael ei phenodi fel Cymrawd Awdur Saesneg); llythyrau yn cymeradwyo cais Menna Elfyn am swydd darlithydd yn Adran y Gymraeg, Coleg y Drindod, Caerfyrddin (1983), ei chais ar gyfer Ysgoloriaeth Deithio i'r Unol Daleithiau (1986) a'i chais ar gyfer swydd Cydlynydd Prosiect Addysgol Cenedlaethol yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan; nodiadau ar y testun 'Hyfforddiant Mewn Swydd'; ac ebyst calonogol at Menna Elfyn oddi wrth rai o'i myfyrwyr.

Gwobrwyon ac anrhydeddau

Deunydd yn ymwneud â gwobrywon ac anrhydeddau a ddaeth i ran Menna Elfyn yn ystod ei gyrfa, y rhan helaeth ohono yn deillio o'i chyfnod fel Bardd Plant Cymru (penodwyd 2002), gan gynnwys erthyglau yn y wasg, llyfrynnau gwybodaeth a phosteri Planed Plant; ynghyd â deunydd yn ymwneud â gwobrwyon ac anrhydeddau eraill, er enghraifft Prif Wobr Cymru Greadigol 2007-8, Cymrodoriaeth Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (yn cyd-weithio gyda Elin ap Hywel) (2002-2006), Cymrodoriaeth y Royal Society of Literature (2015) a llywyddiaeth PEN Cymru (2015), yn ogystal â llythyr, 2012, yn ymateb i gais Menna Elfyn i fod yn Gymrawd o'r Academi Gymreig.

Achos Blaenplwyf: Gohebiaeth carchar Wynfford James

Deunydd yn ymwneud â dedfryd a charchariad Wynfford James, gŵr Menna Elfyn, a Rhodri Williams wedi achos ym 1978 lle difrodwyd mast ddarlledu Blaenplwyf gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith fel rhan o ymgyrch i sicrhau sianel deledu i Gymru, gan gynnwys yn bennaf llythyrau, cardiau Nadolig a chardiau post at Wynfford James a Rhodri Williams (y gohebwyr yn cynnwys Menna Elfyn, mam Wynfford James, cyfeillion a chefnogwyr megis Dafydd Iwan, Alun 'Sbardun' Huws ac aelodau Cymdeithas yr Iaith); ynghyd â llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth ei gŵr Wynfford James tra 'roedd yr olaf yn y carchar a llythyr at Menna Elfyn [?wedi rhyddhau Wynfford James], datganiad gan aelodau Cymdeithas yr Iaith i'w ddarllen yn Llys Ynadon Caerfyrddin ar gychwyn yr achos, a cherdd gan Menna Elfyn yn dwyn y teitl Wedi'r achos (Blaen-plwyf, 1978), ynghyd â chyfieithiad o'r gerdd i'r Ffrangeg. Ymysg y gohebiaeth ceir ambell gyfeiriad at Fflur, merch Menna Elfyn a Wynfford James, a aned ym 1978.

Gohebiaeth deuluol

Gohebiaeth at neu oddi wrth aelodau o deulu Menna Elfyn, gan gynnwys llythyr at Menna Elfyn oddi wrth ei mam; llythyr at Wynfford James, gŵr Menna Elfyn, oddi wrth Plaid Cymru; llythyrau cyd-rwng Wynfford James a Chyngor Celfyddydau Cymru; ebost at Menna Elfyn oddi wrth Wynfford James sy'n blaenyrru ebyst oddi wrth amryw ohebwyr; ebost at Menna Elfyn oddi wrth ei merch Fflur Dafydd sy'n blaenyrru ebyst a anfonwyd cyd-rwng Fflur Dafydd a Nigel Jenkins; a nifer o gardiau post a anfonwyd gan Menna Elfyn o amryw lefydd ledled y byd at ei rhieni a'i chwaer.

Canlyniadau 81 i 100 o 159